ARWEINWYR diwydiant yn ymuno â chwrs byr sy’n datgloi byd chwyldroadol deallusrwydd artiffisial.

0
183
AI

Mae rhaglen newydd Coleg Cambria, Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol ar gyfer Busnes, yn rhaglen sy’n cael ei harwain gan y sector. Mae’n rhoi cyflwyniad cynhwysfawr tair awr o hyd i’r offer Deallusrwydd Artiffisial arloesol sy’n gallu cynhyrchu testunau, delweddau a chynnwys perthnasol o safon yn seiliedig ar ddata a gwybodaeth ac sy’n cael eu mewnbynnu.

Dywedodd Nigel Holloway, Cyfarwyddwr Datrysiadau Busnes Cambria, bod yr hyfforddiant yn hyblyg, yn bwrpasol a’i fod wedi cael ymateb cadarnhaol yn barod yng ngogledd ddwyrain Cymru a thu hwnt.

AI

Gallwn ni gyflwyno cyrsiau ar unrhyw safle ac rydyn ni wedi gwneud hynny’n barod ar gyfer nifer o gwmnïau yn yr ardal hon. Roedd cwmnïau’n teimlo bod y rhaglen yn un diddorol a’u bod wedi dysgu llawer,” meddai.

“Gan mai dim ond tair awr o hyd yw’r rhaglen byddwn ni’n arddangos y dechnoleg ac yna’n rhoi cyfle i bawb ei roi ar waith. Mae hon yn rhaglen ryngweithiol iawn a byddwn ni’n dod a’r holl offer sydd eu hangen gyda ni ar gyfer grwpiau waeth pa mor fach neu fawr yw’r grŵp. Mae’r adborth rydyn ni wedi’i gael hyd yn hyn yn dangos bod hyn wedi bod yn agwedd ddeniadol o’r rhaglen.”

Bydd hyfforddwyr yn edrych ar hanfodion Modelau Iaith Mawr cynhyrchiol fel ChatGPT ac yn rhoi esiamplau o ddeallusrwydd artiffisial, yr effaith posibl ar weithrediadau a masnach a syniadau am sut i aros ar y blaen wrth i dechnoleg symud yn ei blaen.

Bydd themâu yn cynnwys cymwysiadau busnes ymarferol sy’n amrywio o greu cynnwys a dadansoddi data. Bydd cyfle hefyd i ymdrin â’r cryfderau, y cyfyngiadau a’r foeseg sy’n berthnasol i’r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial.

Bydd y cwrs yn cloi trwy rannu strategaethau am sut i weithredu’r dechnoleg mewn modd effeithiol ac yn rhoi cipolwg o ddyfodol Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol ym myd busnes.

Bydd Cambria – sydd â safleoedd yn Wrecsam, Llysfasi, Llaneurgain a Glannau Dyfrdwyyn cyflwyno fersiwn rhan-amser o’r cwrs ar safle Iâl o fis Medi ymlaen.

Cost y cwrs tair awr hwn yw £299 neu mae cyllid ar gael ar gyfer sefydliadau perthnasol gan gynllun grant Sgiliau Cyflogwyr Gogledd Cymru sy’n galluogi cyflogwyr yn Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir y Fflint neu Wrecsam i gyrchu sgiliau blaengar, a rhaglenni hyfforddi arbenigol byrrach.

Nigel Holloway

Meddai Nigel “Mae deallusrwydd artiffisial yn cael llawer o sylw ar hyn o bryd ond mae nifer o bobl yn dal i fod yn ansicr am y manylion a sut y gallai fod o fantais iddyn nhw. Gallwn ni helpu i gau’r bylchau a dangos yr hyn sydd ganddo i’w gynnig i nifer o ddiwydiannau,“

“Mae cyllid ar gael sy’n golygu y bydd yn rhad ag am ddim ar gyfer nifer o fusnesau ac rydyn ni’n gobeithio y byddan nhw’n manteisio ar y cyfle. Mae’n ffordd syml a hygyrch i archwilio i sut y gallai deallusrwydd artiffisial fod o gymorth iddyn nhw, rŵan ac yn y dyfodol.”

Cafodd ei gyhoeddi yn y cyfamser y bydd y coleg yn cael gwobr Ysgolion a Cholegau CyberFirst ar gyfer ei ymrwymiad parhaus i Addysg Seiber a Chyfrifiadura.

I gofrestru eich diddordeb yn y rhaglen Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol ar gyfer Busnes, anfonwch e-bost at nigel.holloway@cambria.ac.uk, neu ffoniwch 0300 30 30 007.

Ewch i www.cambria.ac.uk ar gyfer y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf o Goleg Cambria.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle