Mae Taith Tractor yn codi dros £2,000 ar gyfer y Gronfa Dymuniadau

0
209

Cododd Taith Tractor Nadolig Cwm Gwendraeth swm gwych o £2,344.11 ar gyfer y Gronfa Dymuniadau.

 

Mae’r Gronfa Dymuniadau yn apêl sy’n cael ei rhedeg gan Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae’r apêl yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd ac sy’n bygwth bywyd a’u teuluoedd wneud eiliadau hudolus y gellir eu cofio am byth.

 

Cynhaliwyd y daith tractorau ar 17 Rhagfyr 2023 ar draws Cwm Gwendraeth.

 

Dywedodd Nigel Davies ac Anwen Davies, trefnwyr y digwyddiad: “Cawsom ddiwrnod ardderchog, daeth cymaint i’n cefnogi, roedd yn llethol. Cawsom lawer o hwyl ac roedd gweld wynebau’r plant i gyd yn rhoi boddhad mawr.”

 

Dywedodd Rachel Brown, Arbenigwr Chwarae Gofal Lliniarol Pediatrig, “Da iawn i Anwen, Nigel a’r tîm ar daith tractor llwyddiannus. Diolch yn fawr am ddewis cefnogi’r Gronfa Dymuniadau a chodi swm gwych. Bydd yr arian yn ein helpu i barhau i roi’r cyfle i’r teuluoedd rydyn ni’n eu cefnogi gwneud atgofion hudolus gyda’n gilydd.”

 

Dywedodd Nicola Llewellyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

 

I gael rhagor o wybodaeth am y Gronfa Dymuniadau, ewch i:

https://elusennauiechydhyweldda.gig.cymru/ymgyrchoedd-a-digwyddiadau/y-gronfa-dymuniadau/

 

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle