Arts for Impact – Cefnogwch Ymgyrch Codi Arian Cyfatebol Aloud!

0
203
Arts for Impact Dates

Mae’n destun cyffro i Elusen Aloud gyhoeddi cyfle i ddyblu eich rhodd ariannol fel rhan o ymgyrch Arts for Impact y Big Give!

Rhwng 19 a 26 Mawrth, rydym yn anelu at godi £5,000 drwy roddion, gyda phob punt yn cael ei rhoi’n gyfatebol gan Ymddiriedolaeth Big Give, gan ddyblu effaith rhoddion cefnogwyr i swm posibl o £10,000.

Pam rydym angen eich help?

Yn 2024, bydd Elusen Aloud yn dathlu 12 mlynedd ers ei sefydlu. Yn ystod y cyfnod hwn, mae ein gwaith wedi gwella bywydau miloedd o bobl ifanc trwy eu meithrin a thrwy gynnig amgylchedd diogel iddynt i ddod o hyd i’w lleisiau. Bydd yr wythnos yn codi ymwybyddiaeth o ba mor drawsnewidiol y gall y Celfyddydau fod i unrhyw un, ac nid oes neb yn credu hynny yn fwy na ni!

Mae’r hinsawdd sydd ohoni yn rhoi pwysau ychwanegol ar ein gallu i barhau i gyflwyno ein rhaglen uchelgeisiol ledled Cymru – ac rydym angen eich cymorth!

Bydd cyfrannu at ein hymgyrch Arts for Impact rhwng 19 a 26 Mawrth yn galluogi Elusen Aloud i barhau i gyflawni effaith ENFAWR er budd pobl ifanc ledled Cymru.

Bydd yr arian a godir ar ein tudalen ymgyrch Big Give yn:

Gweithio tuag at greu albwm Aloud newydd, yn cynnwys aelodau o Only Boys Aloud, Only Girls Aloud ac Only Kids Aloud.

Rhoi cyfle i aelodau’r côr gymryd rhan mewn profiadiadau perfformio cyffrous. Bydd hyn yn helpu i godi dyheadau, cryfhau cyfeillgarwch ac ehangu gorwelion. Mae perfformiadau rheolaidd hefyd yn gwella sgiliau meddal fel gweithio’n rhan o dîm ac empathi.

Cyflwyno ymarferion côr rheolaidd i helpu i gynyddu hyder a hunanhyder pobl ifanc yng Nghymru.

Datblygu partneriaid ysbrydolediggydag elusennau a sefydliadau lleol i gefnogi lles, cyfleoedd a phrofiadau cadarnhaol cyfranogwyr y côr.

Dyblu! Mae £10 yn troi yn £20, £50 yn £100! Bydd cyfraniadau i’n tudalen prosiect yn cael ei ddyblu am 7 diwrnod rhwng 19 a 26 Mawrth, sef wythnos yn unig.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle