Digwyddiad Dewiswch Eich Dyfodol Sir Gaerfyrddin yn cefnogi’r nifer uchaf erioed o fyfyrwyr

0
175

Gwnaeth y nifer uchaf erioed o fyfyrwyr ym mlynyddoedd 10 i 13 o ysgolion ledled Sir Gaerfyrddin gymryd rhan yn nigwyddiad ‘Dewiswch Eich Dyfodol Sir Gaerfyrddin’, a gynhaliwyd ddydd Iau, 22 Chwefror, 2024.

Wedi’i gynnal ar y cyd gan Gyrfa Cymru a Choleg Sir Gâr, mewn cydweithrediad â Chyngor Sir Gaerfyrddin, a Bwydydd Castell Howell, nod y digwyddiad oedd rhoi mewnwelediad gwerthfawr i fynychwyr i’r amrywiol gyfleoedd a llwybrau gyrfa sydd ar gael iddynt.

Croesawodd y digwyddiad 2,500 o ddisgyblion ysgol i Arena Pentref y Cefnogwyr ym Mharc y Scarlets, Llanelli rhwng 9:30am a 3:30pm. Roedd y mynychwyr yn hanu o naw ysgol leol a chawsant gyfle i archwilio ystod eang o opsiynau, gan gynnwys cyrsiau, gyrfaoedd, prentisiaethau, a llwybrau hyfforddi.

Roedd cynrychiolwyr o 70 o gyflogwyr ar draws gwahanol ddiwydiannau yn bresennol i gynnig gwybodaeth uniongyrchol, cyngor ar yr hyn y mae cyflogwyr yn chwilio amdano yn eu gweithlu, i ateb cwestiynau a darparu mewnwelediad amhrisiadwy i fyd gwaith.

Dywedodd Sarah Winter, rheolwr tîm gyda Gyrfa Cymru, “Roedd yn wych gweld myfyrwyr yn ymgysylltu ag amrywiaeth o gyflogwyr o bob rhan o’r rhanbarth ac yn archwilio gwahanol rolau a chyfleoedd sydd ar gael iddynt.

“Nod digwyddiadau fel hyn yw arwain ac annog myfyrwyr, fel y gallant adael yn teimlo’n hyderus ac wedi’u grymuso i wneud penderfyniadau gwybodus am eu gyrfaoedd yn y dyfodol. ”

Meddai Mandy Wyrwoll, Rheolydd Marchnata Coleg Sir Gâr, “Roedd yn anhygoel cynnal y digwyddiad hwn gyda Gyrfa Cymru. Rhoddodd gyfle gwych i bob dysgwr Blwyddyn 10 i wneud penderfyniadau gwybodus i gefnogi eu llwybr gyrfa, boed hynny yn y coleg neu yn y byd gwaith.

Roedd yn wych gweld cymaint o gyflogwyr, yn ogystal â’r Coleg, yn sicrhau bod y dysgwyr hyn y cael y profiad gorau yn y digwyddiad hwn.”

Dywedodd David Jones, cyfarwyddwr rhanddeiliad gyda Blue Gem Wind: “Mae digwyddiadau fel hyn yn hynod o bwysig i ni. Prin yw’r bobl ifanc sy’n ymwybodol o’r amrywiaeth o rolau sydd ar gael yn ein diwydiant y tu hwnt i beirianneg. O farchnata a chyfathrebu i Adnoddau Dynol a thu hwnt, mae sbectrwm cyfan o gyfleoedd ar gael.

“Mae’n wych cael y cyfle i sgwrsio â nhw a dangos iddyn nhw pa mor gyflym mae ein diwydiant yn ehangu. Cawsom ein synnu ar yr ochr orau gan lefel y diddordeb a chyfranogiad y disgyblion heddiw.”

Yn ogystal, roedd cynghorwyr gyrfa penodol ar gael ar y safle i gynorthwyo myfyrwyr gydag ymholiadau ynghylch amrywiol gyfleoedd gwaith, cyrsiau a chymwysterau. Nod y digwyddiad oedd grymuso pobl ifanc drwy roi’r wybodaeth a’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i wneud penderfyniadau gwybodus ar eu llwybrau gyrfa yn y dyfodol.

Y rhestr lawn o gyflogwyr yn bresennol yn y digwyddiad:

  • Careers Wales
  • Swansea Bay City Deal
  • DVLA
  • K Sharp
  • Blue Gem Wind
  • DP Energy
  • Marine Energy Wales
  • Cierco Energy
  • Royal Fleet Auxiliary
  • LA Architects
  • J Randall Roofing Contractors Ltd
  • Castle Scaffolding Wales
  • Jones Brothers (Henllan) Ltd
  • Lloyd & Gravell Ltd
  • TAD Builders Ltd
  • Cyfle Building Skills
  • Tilbury Douglas
  • TRJ Ltd
  • PCR Global
  • Andrew Scott Ltd
  • Bouygues
  • Morganstone Ltd
  • Cardiff Metropolitan University
  • University Of South Wales
  • Further Maths Support Programme
  • Coleg Sir Gar Higher Educatio
  • Bangor University
  • Wrexham Glyndwr University
  • Big Ideas Wales
  • Screen Alliance Wales
  • Cardiff University
  • Swansea University
  • University Of Wales Trinity St David
  • Qinetiq
  • Educators Wales
  • Into Film
  • Yr Egin
  • Hywel Dda University Health Board
  • CITB
  • Educa8 Training
  • LRC Training
  • Coleg Cymraeg Cenedlaethol
  • Gower College Swansea
  • Hywel Dda University Health Board
  • Carmarthenshire County Council
  • We Care Wales
  • Communities for Work, Communities for Work Plus and the Legacy Programme
  • Llwyddo’n Lleol
  • Menter Gorllewin Sir Gar / Bro Dinefwr / Gwendraeth Elli
  • Dunbia
  • Castell Howell Foods Ltd
  • Tasty Careers Wales
  • Menter a Busnes Food and Drink
  • Menter a Busnes (Farming Connect)
  • National Botanic Garden of Wales
  • Principality Building Society
  • LHP Chartered Accountants
  • Clay Shaw Butler
  • Jennings Solicitors
  • Coleg Sir Gar
  • Welsh Ambulance Services NHS Trust
  • Mid and West Wales Fire and Rescue Service
  • Dyfed Powys Police
  • Royal Air Force
  • Royal Navy
  • British Army
  • HM Prisons and Probation Service
  • MPCT
  • Plas Dwbl
  • BT

I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau ac adnoddau gyrfa yn y dyfodol, ewch i wefan Gyrfa Cymru.

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle