Adeiladwr yn cael dedfryd o garchar ar unwaith yn dilyn erlyniad llwyddiannus gan Gyngor Sir Caerfyrddin

0
286
Image by 3D Animation Production Company from Pixabay

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi sicrhau erlyniad llwyddiannus yn erbyn Craig Baker, unig Gyfarwyddwr Elite Construction and Plastering Limited a Elite Plastering and Construction Limited, ac ymddangosodd gerbron Ei Anrhydedd y Barnwr Paul Thomas CB yn Llys y Goron Abertawe i gael ei ddedfrydu. Plediodd Baker yn euog i ddau gyhuddiad o fasnachu twyllodrus, yn groes i Ddeddf Cwmnïau 2006, mewn gwrandawiad cynharach.

Roedd y cyhuddiadau, a oedd dros gwahanol gyfnodau, ynghylch sylwadau ffug ac arferion twyllodrus Baker o ran ei waith adeiladu. Roedd y cyhuddiad cyntaf yn berthnasol i’r cyfnod rhwng 1 Gorffennaf 2021 a 11 Mai, 2022, ac yn cynnwys rhoi dyfynbrisiau cychwynnol anghywir fel cyfanswm cost y gwaith, camarwain ynghylch gwerth y gwaith, ac ymgymryd i gwblhau gwaith i safon adeiladwr proffesiynol rhesymol gymwys ar gam. Roedd yr ail gyhuddiad yn berthnasol i’r cyfnod rhwng 26 Gorffennaf 2021 a 27 Ebrill 2022, ac yn cynnwys codi gormod o dâl, camarwain pellach ynghylch gwerth y gwaith ac ymgymryd i gwblhau gwaith i safon benodol ar gam.

Datgelodd ymchwiliad gan Safonau Masnach Sir Gaerfyrddin fod Baker, gyda swyddfeydd cofrestredig yn Heol Spilman, Caerfyrddin, ac Is-y-Llan, Llanddarog, wedi twyllo defnyddwyr o dros £30,000 am waith adeiladu.

Mewn un achos, adeiladodd Baker ystafell haul ar gyfer eiddo, ac yn ddiweddarach dywedodd Syrfëwr Arbenigol  nad oedd gwerth o gwbl i’r gwaith ac roedd angen dymchwel ac ailadeiladu. Aeth y syrfëwr ymlaen i ddisgrifio manylion yr adeiladu fel “rhai o’r gwaethaf” a ddaeth ar eu traws yn eu 24 mlynedd o arolygu.

Oherwydd ei weithredoedd, roedd y Barnwr Paul Thomas wedi dedfrydu Craig Baker i 3 blynedd a 4 mis yn y carchar, gyda chredyd o 20% yn lleihau’r tymor i 32 mis (2 flynedd ac 8 mis). Bydd Baker yn treulio hanner y ddedfryd hon yn y carchar cyn cael ei ryddhau ar drwydded.

Meddai Jonathan Morgan, Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel:

“Hoffwn ddiolch i aelodau’r tîm am eu holl waith caled wrth erlyn yr achos hwn.

Mae eu hymrwymiad yn adlewyrchu ein penderfyniad ar y cyd fel cyngor i fynd ar drywydd cyfiawnder, gan anfon neges glir na fyddwn yn goddef gweithredoedd sy’n peryglu diogelwch ac uniondeb ein cymunedau.”

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn annog defnyddwyr y mae arferion o’r fath yn effeithio arnynt i gyfeirio at wasanaethau defnyddwyr Cyngor ar Bopeth yma i gael cymorth ac arweiniad.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle