Gall cyrsiau hyfforddiant Cyswllt Ffermio helpu i gyflawni datblygiad personol a chryfhau arferion fferm

0
151
Image Caption: Julie Davies, a partner in the family business at Upper Court Farms, Hay on Wye, who was awarded winner of the Farming Connect Learner of the year in the 41 years and over category at the Lantra Cymru Awards.

Enillodd Julie Davies, sy’n bartner gweithredol yn y busnes teuluol yn Upper Court Farms, Y Gelli Gandryll, wobr Dysgwr y Flwyddyn Cyswllt Ffermio yn y categori 41 oed a hŷn. Cyflwynwyd y wobr iddi yng Ngwobrau Lantra Cymru a gynhaliwyd yn Llandrindod ar 18 Ionawr.

Mae Julie, sydd wedi graddio o Brifysgol Harper Adams wedi helpu ei gŵr i sefydlu busnes dwysfwyd anifeiliaid llwyddiannus sy’n cael ei redeg ochr yn ochr â’r fferm âr, bîff a defaid.

“Fe wnaethon ni arallgyfeirio tua 8 mlynedd yn ôl i werthu ein dwysfwyd anifeiliaid ein hunain, rydyn ni’n defnyddio ein grawn a chorbys cartref a’u cymysgu yma ar y fferm gyda grawn cyffredin a mwynau i’w gwerthu i ffermwyr bîff a defaid lleol, mae hyn wedi caniatáu i ni ychwanegu gwerth at yr hyn rydym ni’n ei dyfu,” meddai Julie.

Mae datblygu cynnyrch, datblygu systemau achredu a systemau ansawdd, marchnata a rheoli busnes yn rhan o’i set sgiliau drawiadol.

Mae Julie wedi cwblhau nifer o gyrsiau hyfforddiant trwy Cyswllt Ffermio gan gynnwys ymwybyddiaeth, archwilio a rheolaeth amgylcheddol ar gyfer eich busnes. Bydd y cwrs hwn yn eich dysgu sut i asesu effaith amgylcheddol eich busnes fferm neu dir. Byddwch yn dysgu sut i arbed adnoddau, lleihau gwastraff, lleihau costau a sut i gydymffurfio â deddfwriaeth newydd. Mae’r pynciau’n cynnwys deddfwriaeth amgylcheddol, arferion gorau, rheoli gwastraff, a thechnegau archwilio. Byddwch hefyd yn cael cipolwg ar reoli dŵr, rheoli maetholion, nwyon tŷ gwydr, a strategaethau lleihau ôl troed carbon. Bydd y cwrs yn eich helpu i ddatblygu cynllun ar gyfer dyfodol eich busnes.

Mae hi hefyd wedi cwblhau cwrs tryc godi gwrthbwyso. Mae ei hagwedd ymroddedig tuag at ddatblygiad personol yn rhagorol ac ar hyn o bryd mae’n canolbwyntio ar ystod o gyrsiau amgylcheddol yn ogystal â hyfforddiant ‘rheoli pobl’, sy’n annatod i gryfhau eu harferion busnes.

“Rydym wedi defnyddio Cyswllt Ffermio ar gyfer hyfforddiant cymorth cyntaf i lawer o’n staff yma yn Upper Court Farms a’r busnes dwysfwyd.”

Roedd y beirniaid yng Ngwobrau Lantra yn unfryd gytûn wrth ddyfarnu ei gwobr i Julie gan ddweud bod ei hymrwymiad diysgog i sgiliau a hyfforddiant, ar gyfer ei datblygiad personol ei hun yn ogystal â datblygiad gweithlu’r fferm yn arbennig o ganmoladwy.

Dywedasant fod Julie wedi dangos gallu, egni, a sgiliau blaengynllunio eithriadol yn gyson, gan ei gwneud yn enillydd haeddiannol y wobr hon.

Mae Julie yn bwriadu gwneud cais am fwy o gyrsiau hyfforddiant trwy Cyswllt Ffermio gan gynnwys cyrsiau iechyd a diogelwch ac unrhyw gyrsiau eraill sy’n mynd i helpu i wella datblygiad proffesiynol eu tîm.

Am ragor o wybodaeth am wasanaethau sgiliau a hyfforddiant Cyswllt Ffermio edrychwch ar ein gwefan, neu cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu Lleol.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle