Staff yn derbyn hyfforddiant maetheg diolch i gronfeydd elusennol

0
118
Pictured above (L-R): Emma Hughes and Tesni Fakes, Therapy Assistant Practitioners.

Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi ariannu hyfforddiant maetheg ar gyfer dau aelod o staff. 

Mae Emma Hughes a Tesni Fakes, sydd ill dau yn Ymarferwyr Cynorthwyol Therapi, yn rhan o’r tîm gofal canolraddol yn Sir Gaerfyrddin sy’n cefnogi cleifion yn eu cartrefi eu hunain ar ôl cael eu rhyddhau o’r ysbyty.

Fe wnaethant fynychu cwrs rhithwir Maetheg a Chymorth Maeth ym mis Mawrth. 

Dywedodd Tesni: “Roedd yn ddiwrnod buddiol iawn i gynyddu ein dealltwriaeth o’n rolau ond hefyd i ehangu ein gwybodaeth am egwyddorion maetheg. Mae hyn yn ein cefnogi i ddarparu gwybodaeth ac arweiniad mwy penodol i grwpiau penodol, er enghraifft cleifion diabetig, llysieuwyr, cleifion sy’n cael trafferth gydag iselder.

“Roedd hefyd yn ffordd wych o gwrdd ag ymarferwyr eraill mewn rolau tebyg, i rannu ein profiadau a’n cyngor, sy’n werthfawr iawn i’r ddau ohonom.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle