Meddygfa Cangen Talacharn i aros ar agor

0
171
Photograph of Laugharne Castle and Boat house

Heddiw (dydd Iau, 28 Mawrth) cymeradwyodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda argymhelliad y dylid gwrthod cais gan y Practis Coach and Horses yn Sanclêr i gau eu Meddygfa Gangen yn Nhalacharn.

Mae hyn yn golygu y bydd y Feddygfa Gangen yn y dreflan yn parhau ar agor, ond bydd y Bwrdd Iechyd yn gweithio gyda’r Practis Coach and Horses i ystyried y gwasanaethau a all weithredu o Feddygfa’r Gangen, a’r gwasanaethau hynny a fydd yn parhau i gael eu darparu o brif safle’r Practis yn Sanclêr.

Daw’r penderfyniad yn dilyn misoedd o ymgysylltu cyhoeddus â chleifion yn Nhalacharn a oedd yn cynnwys dau ddigwyddiad galw heibio ac estyniad i’r cyfnod ymgysylltu er mwyn sicrhau bod cymaint o leisiau â phosibl yn cael eu clywed.

Roedd cleifion hefyd yn gallu lleisio eu barn drwy lenwi holiadur, dros y ffôn, drwy e-bost, yn ysgrifenedig neu ar-lein.

Cyflwynodd y Coach and Horses eu hachos dros gau cyn sesiwn agored o Banel Cau’r Gangen, a sefydlwyd i ystyried y cais i gau.

Roedd y prif resymau dros y cais i gau Meddygfa Cangen Talacharn yn cynnwys pryderon am weithlu, staffio’r feddygfa gangen, a diogelu’r ddarpariaeth o Wasanaethau Meddygol Cyffredinol yn yr ardal.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:

“Rydym yn gwerthfawrogi bod y Meddygfa Coach and Horses wedi codi eu pryderon am heriau gan gynnwys gweithlu a’r pwysau ariannol o gynnal dau safle.

“Fodd bynnag, yn dilyn ymgysylltu lleol helaeth a chydweithio’n agos â Llais, y corff statudol yng Nghymru sy’n cynrychioli buddiannau cleifion a’r cyhoedd, penderfynodd y Bwrdd Iechyd wrthod y cais i gau ar yr adeg hon.

“Dangosodd yr ymarfer ymgysylltu â’r cyhoedd bryderon ynghylch gofal yn cael ei symud ymhellach o gartref, rhwyddineb mynediad at wasanaethau iechyd i’r gymuned leol ynghyd â phryderon am drafnidiaeth a pharcio, capasiti apwyntiadau yn Sanclêr a’r effaith amgylcheddol andwyol.

“Byddwn yn gweithio’n agos gyda’r Practis Coach and Horses i helpu i’w cefnogi i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd meddygon teulu yn y dyfodol.”

Mae rhagor o fanylion am sut y gwnaed penderfyniad i’w gweld ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: Agenda a phapurau’r bwrdd 28 Mawrth 2024 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru)


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle