Gyrfa Cymru ar restr fer tair gwobr fawreddog

0
242

Mae Gyrfa Cymru wedi cyrraedd rhestr fer tair o Wobrau Datblygu Gyrfa y DU (UKCDAs).

Mae’r gwobrau hyn, a gynhelir gan y Sefydliad Datblygu Gyrfa (CDI), yn cydnabod ac yn anrhydeddu rhagoriaeth o fewn y sector datblygu gyrfa yn y DU ac yn rhyngwladol.

Mae Gyrfa Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y gwobrau canlynol:

  • Defnydd o Dechnoleg wrth Ddatblygu Gyrfa am eu hadnodd rhyngweithiol dwyieithog, Dinas Gyrfaoedd. Fe’i datblygwyd i gefnogi ysgolion cynradd i wreiddio Gyrfaoedd a Phrofiadau Byd Gwaith ar draws y cwricwlwm mewn ffordd hwyliog, atyniadol a hawdd.
  • Gweithgaredd Ymgysylltu â Chyflogwr Arloesol ar gyfer eu prosiect Profiad Gwaith wedi’i Deilwra sy’n targedu dysgwyr blwyddyn 10 ac 11 sydd mewn perygl o ymddieithrio o addysg oherwydd ffactorau amrywiol megis presenoldeb, ymddygiad neu berfformiad academaidd gwael.
  • Gweithiwr Proffesiynol Datblygu Gyrfa’r Flwyddyn yn y Sector Cyhoeddus: Mae Annmarie Wills, cynghorydd gyrfa gyda Gyrfa Cymru, wedi’i chydnabod am ei hagwedd arloesol a chreadigol at waith, a’i hymroddiad i gefnogi cwsmeriaid i gyflawni eu potensial.

Dywedodd Annmarie Wills: “Mae’n anrhydedd cael bod ar restr fer Gwobr Gweithiwr Proffesiynol Datblygu Gyrfa’r Flwyddyn yn y Sector Cyhoeddus.

“Mae’n wych gweld ein hymdrechion yn cael eu cydnabod, ac mae ond yn fy hybu ymhellach i barhau i gefnogi unigolion i gyflawni eu dyheadau gyrfa.”

Dywedodd Nikki Lawrence, Prif Weithredwr Gyrfa Cymru: “Rwyf wrth fy modd gyda’r gydnabyddiaeth y mae Gyrfa Cymru wedi’i chael yng Ngwobrau Datblygu Gyrfa y DU eleni. Mae cyrraedd y rhestr fer mewn tri chategori yn dyst i’r amrywiaeth o ffyrdd rydym yn cefnogi ein cwsmeriaid. Mae’n wych gweld ein prosiect Profiad Gwaith wedi’i Deilwra a’n hadnodd Dinas Gyrfaoedd yn cael cydnabyddiaeth fawreddog.

“Mae enwebiad Annemarie ar gyfer cynghorydd gyrfa y flwyddyn yn y sector cyhoeddus yn haeddiannol iawn.  Mae ei chreadigrwydd a’i hagwedd angerddol tuag at gefnogi cwsmeriaid i gyrraedd eu potensial yn bleser i’w gweld ac rwyf wrth fy modd ei bod wedi derbyn cydnabyddiaeth am ei hymroddiad. Rwy’n dymuno pob lwc i’r holl enwebeion.”

Mae Gwobrau Datblygu Gyrfa y DU yn cynnwys cyfanswm o wyth categori gwobrau:

  • Gweithiwr Proffesiynol Datblygu Gyrfa’r Flwyddyn yn y sector cyhoeddus
  • Gweithiwr Proffesiynol Datblygu Gyrfa’r Flwyddyn yn y sector preifat/trydydd sector
  • Arweinydd Gyrfa y Flwyddyn
  • Rhaglen yrfa – addysg cyn-16
  • Rhaglen yrfaoedd – addysg ôl-16
  • Gweithgareddau ymgysylltu â chyflogwr arloesol
  • Defnydd o dechnoleg wrth ddatblygu gyrfa
  • Ymchwil gan weithiwr proffesiynol datblygu gyrfa
  • Gwobr Cyflawniad Oes Rodney Cox (mae’r wobr hon yn cael ei henwebu, ei chytuno a’i chyflwyno gan Fwrdd y Sefydliad Datblygu Gyrfa (CDI), dan arweiniad y Llywydd etholedig)

Disgwylir i’r seremoni wobrwyo gael ei chynnal ddydd Mawrth, Mehefin 18, 2024, yn y Felin Eidalaidd, Museum of Making, Derby.

Mae rhagor o wybodaeth am Wobrau Datblygu Gyrfa y DU ar gael ar eu gwefan. Am wybodaeth a chefnogaeth gyrfaoedd ewch i Cymru’n Gweithio.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle