Disgyblion Ysgol Gyfun Llangefni yn ennill Her Ysgolion Gyrfaoedd Blasus Gogledd Cymru

0
277
North Wales Image - (left to right) John Edwards, Careers Wales; winning pupils from Ysgol Gyfun Llangefni with Caryl Milburn (teacher).

Mae disgyblion o ysgolion yng ngogledd Cymru wedi bod yn cymryd rhan yn Her Ysgolion Gyrfaoedd Blasus, cystadleuaeth sy’n herio disgyblion i ddylunio cynhyrchion bwyd a seigiau sy’n iach, yn gynaliadwy, ac yn fasnachol hyfyw.

Mae Her Ysgolion Gyrfaoedd Blasus yn fenter yng Nghymru gan yr Academi Sgiliau Genedlaethol ar gyfer Bwyd a Diod mewn partneriaeth â rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru, Food & Drink Skills Wales | Sgiliau Bwyd a Diod Cymru. Mae cefnogwyr yr Her Ysgolion eleni yn cynnwys Gyrfa Cymru, Bwydydd Castell Howell, AMRC Cymru, Leprino Foods a grŵp lletygarwch Seren.

Mae’r gystadleuaeth wedi cael ei chynnal ers 2018, gyda’r rowndiau terfynol yn cael eu cynnal yng ngogledd a de Cymru. Mae cystadleuaeth Gogledd Cymru yn gofyn i ddisgyblion greu cynnyrch newydd ar gyfer gwneuthurwr bwyd a diod, ac mae cystadleuaeth De Cymru yn gofyn i ddisgyblion greu saig newydd ar gyfer bwydlen grŵp bwyty.

Mae enillwyr blaenorol wedi cwblhau’r briffiau mor llwyddiannus fel bod eu cynnyrch wedi mynd ymlaen i gael ei gynhyrchu a’i werthu’n broffesiynol.

Mae’r gystadleuaeth eleni wedi denu nifer uchel o gystadleuwyr. Cymerodd 1196 o ddisgyblion o ysgolion ledled Cymru ran. Y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol yng ngogledd Cymru oedd Ysgol Clywedog, Ysgol Treffynnon, Ysgol Bryn Elian, ac Ysgol Gyfun Llangefni. Bu’r ysgolion hyn yn brwydro yn y rownd derfynol, a gynhaliwyd ar 7 Mawrth yng Nghanolfan Fusnes Conwy.

Yr ysgol fuddugol oedd Ysgol Gyfun Llangefni gyda ‘Cwci Cefni’ (h.y. toes cwci).

Dywedodd Caryl Milburn, athrawes yn Ysgol Gyfun Llangefni:

“Mae’r Her Gyrfaoedd Blasus wedi rhoi cyfle bythgofiadwy i’r disgyblion y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Maen nhw wedi cael cyfle i ddatblygu eu sgiliau trwy gydweithio ag eraill i ddatblygu cynnyrch bwyd newydd a chyffrous sy’n eu paratoi ar gyfer y byd gwaith. Rwyf wedi mwynhau paratoi’r disgyblion ac yn ddiolchgar i Gyrfaoedd Blasus a’r holl bartneriaid am y cyfle.”

Dywedodd Louise Cairns, Prif Weithredwr yr Academi Sgiliau Genedlaethol ar gyfer Bwyd a Diod/Gyrfaoedd Blasus:

“Llongyfarchiadau i Ysgol Gyfun Llangefni ar ei pherfformiad arbennig yn Her Ysgolion Gyrfaoedd Blasus eleni. Gwnaeth yr holl ymgeiswyr argraff fawr ar y beirniaid ond roedd eu creadigaeth yn wirioneddol sefyll allan o ran cynaliadwyedd, hyfywedd masnachol – a blas, wrth gwrs. Gobeithiwn y bydd cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon yn ysbrydoli rhai disgyblion i ystyried gyrfa yn sector bwyd a diod rhagorol Cymru.”

Ychwanegodd Nerys Davies, Rheolwr Prosiect Food & Drink Skills Wales | Sgiliau Bwyd a Diod Cymru:

“Rydym yn falch iawn o fod wedi partneru â’r Academi Sgiliau Genedlaethol ar gyfer Bwyd a Diod ar gyfer y gystadleuaeth hwyliog ac addysgiadol iawn hon, sy’n helpu disgyblion i fod yn greadigol gyda bwyd wrth ddysgu am gyllidebu, cyrchu lleol a bwyta’n iach.

“Mae o werth enfawr i’r cyfranogwyr, ac yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar y gyrfaoedd sydd ar gael yn y sector bwyd a diod. Mae wedi bod yn wych clywed yr adborth cadarnhaol gan ddisgyblion a lefel y diddordeb sydd yna mewn archwilio dyfodol o fewn y sector bwyd a diod bywiog yng Nghymru.”

Dywedodd John Edwards, cynghorydd ymgysylltu busnes gyda Gyrfa Cymru:

“Mae wedi bod yn wych gweld y disgyblion yn cydweithio gyda chreadigrwydd a brwdfrydedd i gynhyrchu eu cynnyrch, trwy gydol y rhagbrofion ac yn y gystadleuaeth derfynol.

“Mae’r her nid yn unig yn rhoi cyfle i gynyddu dealltwriaeth disgyblion o’r diwydiant a datblygu sgiliau cysylltiedig, ond hefyd yn ehangu eu dyheadau ac yn eu hannog i feddwl am eu dyfodol. Mae hon yn enghraifft wych o sut y gallwn rymuso disgyblion gyda dysgu ymdrochol a diddorol sy’n ymwneud â gyrfaoedd trwy weithio mewn partneriaeth.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle