Twf o 65% yn nifer y teithwyr ar gyfer llwybr bws trydan newydd

0
188
New TrawsCymru T1 service

Mae bysiau trydan newydd TrawsCymru sy’n rhedeg rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth wedi gweld cynnydd o 65% yn nifer y teithwyr eleni.

Wedi’u lansio ddiwedd mis Mawrth 2023, roedd y bysiau newydd o’r radd flaenaf wedi cludo dros 100,000 o deithwyr o fewn eu 6 mis cyntaf ac yn fwy diweddar maent wedi dangos cynnydd cyffredinol o 65% o deithwyr o’i gymharu â 2022/23.

Mae pob cerbyd yn arbed 3kg o CO2 bob taith gyfan ddwy ffordd, sy’n cyfateb i bron i 13,000 cwpan o de.

Mae cynigion hyrwyddo wedi helpu i annog mwy o bobl i ddefnyddio’r gwasanaeth trafnidiaeth gynaliadwy gan gynnwys taith £10 drwy’r dydd i ddau oedolyn a dau blentyn wrth ddefnyddio ein Tocyn Grŵp Haf, tocyn trên a bws integredig ar gyfer teithio rhatach o Gaerdydd i Aberystwyth a 50% oddi ar deithiau yn ystod Mis Dal y Bws ym mis Medi.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, Ken Skates: “Mae hyn yn newyddion gwych i ddefnyddwyr bysiau ac i’r amgylchedd. Mae cyflwyno’r bysiau gwyrddach, modern, mwy cyfforddus hyn yn amlwg wedi annog mwy o bobl i ddefnyddio gwasanaeth T1 TrawsCymru ac rwy’n ddiolchgar i bawb a fu’n rhan o’r broses o sicrhau bod hyn yn digwydd.”

Dywedodd Mark Jacobs, Rheolwr Contractau a Pherfformiad TrawsCymru: “Roedd lansio gwasanaeth holldrydanol T1 TrawsCymru y llynedd yn foment arwyddocaol yn hanes TrC ac yn ein datblygiad i ddod yn sefydliad gwirioneddol aml-ddull.

“Mae’r adborth ynghylch y gwasanaeth newydd wedi bod yn gadarnhaol dros ben ac mae’r cynnydd yn nifer y teithwyr yn dangos sut y gall gwell cynnig trafnidiaeth gyhoeddus ddylanwadu’n gadarnhaol ar arferion teithio pobl.

“Mae llwyddiant y fflyd T1 newydd yn ganlyniad i bartneriaeth effeithiol gyda’r timau yng Nghyngor Sir Caerfyrddin a First Cymru, sydd wedi darparu cefnogaeth amhrisiadwy i wneud y gwasanaeth bws hanfodol hwn o Gaerfyrddin i Aberystwyth y cynnig trafnidiaeth gyhoeddus uwchraddol o’r math y mae hi heddiw.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle