Myfyrwyr gwrywaidd Wrecsam yn cymryd safiad i sicrhau bod menywod yn medru mwynhau noson allan ddiogel 

0
120

Video: https://youtu.be/_xhetV5Wf38

Mae myfyrwyr mewn prifysgol yng Nghymru wedi llunio eu rheolau ymgysylltu eu hunain ar gyfer noson allan, mewn cydweithrediad ag ymgyrch Iawn Llywodraeth Cymru, i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod. 

Mewn cyfres o sesiynau ymgysylltu, archwiliodd myfyrwyr gwrywaidd bwysigrwydd o greu amgylchedd gyda’r nos sy’n ddiogel a pharchus, lle nad yw ymddygiad amhriodol tuag at fenywod yn cael ei ddioddef na’i esgusodi.

Mae Iawn yn blatfform dwyieithog i ddynion ifanc, gydag un nod – gwneud Cymru y lle mwyaf diogel i fod yn fenyw. 

Lluniodd y grŵp o fyfyrwyr gwrywaidd y rheolau ymgysylltu canlynol, yn ystod sesiwn gydweithredol, pan gafwyd trafodaeth agored ynghylch sut y dylai dynion ymddwyn ar noson allan er mwyn sicrhau bod menywod yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu parchu. 

Rheolau ymgysylltu Prifysgol Wrecsam: 

Gofynna, paid cymryd yn ganiataol 

Parchwch ffiniau eich gilydd 

Gofala am dy hun, gofalwch am eich gilydd 

Dywedodd y myfyrwyr ei bod yn bwysig bod yn barchus pan yn ymgysylltu â menywod ar nosweithiau allan ac i sicrhau bod caniatâd yn cael ei roi.

Eglurodd un myfyriwr ‘Os ydw i mewn clwb a dwi’n mynd i fyny at fenyw ac yn gofyn iddi a yw hi eisiau dawnsio neu allai gael ei rhif hi, os yw hi’n dweud na, dwi’n camu’n ôl a wnai ddim ei thrafferthu eto. Mae’n ymwneud â gwybod sut i wneud i bobl deimlo’n gyfforddus.”

Cytunodd myfyriwr arall: “Ie, dwi i wrth fy modd yn dawnsio, ond dwi byth yn cymryd yn ganiataol bod pobl eisiau dawnsio gyda fi.”

Ymhelaethodd un myfyriwr ar bwysigrwydd bod yn ymwybodol o’r hyn sydd o’ch cwmpas: “Bydd yn ymwybodol o ble rwyt ti’n mynd ac ymddiria yn y bobl sydd gyda ti.”

Cytunodd y myfyrwyr mai’r rheol ymgysylltu bwysicaf a luniwyd ganddynt oedd parchu ffiniau.

Dywedodd y myfyrwyr ei fod yn ymwneud â “thynnu llinellau am y ffordd y mae dynion yn trin menywod.”

Mae’r myfyrwyr yn credu y bydd creu’r rheolau ymgysylltu hyn yn galluogi menywod yn yr ardal i deimlo’n ddiogel pan ar noson allan.

Wrth sôn am ymwneud â phrosiect Iawn, dywedodd un myfyriwr, Cal Roberts: 

“Dwi’n meddwl pe bai IAWN wedi bod o gwmpas pan oeddwn yn iau, byddai wedi helpu i drin fy mhroblemau ac wedi gwneud i mi fynd i’r afael ag ymddygiadau problematig yn gynt. Mae’r prosiect wedi fy helpu oherwydd doeddwn heb glywed am lawer o’r terminoleg sy’n ymwneud â pherthynasau cyn edrych ar IAWN. Roedd deall y diffiniadau wedi fy helpu i roi sefyllfaoedd y gorffennol yn eu cyd-destun, pethau fel gasleitio a lovebomio.” 

Wrth sôn am eu partneriaeth â Iawn, dywedodd Prifysgol Wrecsam: 

“Yma ym Mhrifysgol Wrecsam mae gennym ymrwymiad cryf i fynd i’r afael â materion cymdeithasol a hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae ein hymroddiad i feithrin amgylchedd diogel a chynhwysol ar y campws yn cyd-fynd yn berffaith â nodau’r ymgyrch. 

Mater cymdeithasol allweddol y mae ein Prifysgolion a’n Hundeb Myfyrwyr yn cydweithio arno yw codi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod ac roeddem yn falch iawn o fod yn rhan o’r ymgyrch gan helpu i lywio strategaeth a chreu cynnwys effeithiol, gan roi cyfle i’n myfyrwyr ddysgu, myfyrio a chymryd camau cadarnhaol yn erbyn trais a chamdriniaeth.” 

Dilynwch sianeli Iawn ar: 

Instagram: www.instagram.com/soundcymru/  

TikTok: www.tiktok.com/@soundcymru  

YouTube: www.youtube.com/@soundcymru  

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle