St John Ambulance Cymru yn penodi Prif Swyddog Gweithredol newydd

0
149
Pennawd: Mae Richard Lee MBE wedi cael ei benodi yn Brif Swyddog Gweithredol newydd St John Ambulance Cymru.

Mae St John Ambulance Cymru wedi cyhoeddi penodiad Richard Lee fel prif Swyddog Gweithredol newydd yr elusen, yn dilyn proses recriwtio drylwyr a ddenodd lawer o ddiddordeb.

Mae Richard, sy’n byw ger Caerffili, yn ymuno ag elusen cymorth cyntaf Cymru yn dilyn cyfnod o 5 mlynedd fel Prif Swyddog Gweithredu St John Ambulance yn Lloegr. Arweiniodd ei ymdrechion yn y rôl hon iddo dderbyn MBE am wasanaethau i ofal iechyd yn ystod Covid-19 yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd yn 2021.

Yn wreiddiol o Dde Llundain, ond wedi byw yng Ngogledd Cymru yn ystod ei arddegau, mae’n Barafeddyg ac mae ganddo hefyd brofiad blaenorol fel Cyfarwyddwr Gweithrediadau gydag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Bu hefyd yn gwasanaethu yn yr Awyrlu Brenhinol yn ystod Rhyfel y Gwlff ym 1991, yn ogystal â gweithrediadau’r CU ym Mosnia ym 1993.

Yn ogystal â pharhau i gyflawni rôl wirfoddol gyda St John Ambulance, mae hefyd yn gwirfoddoli i MEDSERVE Cymru, cangen o’r elusen ‘British Association for Immediate Care’ (BASICS).

Dywedodd Paul Griffiths OBE KStJ DL, Prior i Gymru a Chadeirydd Ymddiriedolwyr St John Ambulance Cymru: “Mae gan Richard gyfoeth o brofiad a hanes profedig sy’n cyd-fynd yn ddi-dor â gweledigaeth a gwerthoedd ein helusen.

“Mae ei berfformiad rhagorol drwy gydol y broses gyfweld, ynghyd â’i ddealltwriaeth ddofn o’n sefydliad, yn dangos ei addasrwydd i’n harwain drwy ein heriau presennol a thu hwnt.”

Ychwanegodd Richard, sydd hefyd yn Gadlywydd Urdd St John: “Rwy’n gyffrous iawn i ymuno a St John Ambulance Cymru fel ei Brif Weithredwr newydd. Edrychaf ymlaen at gwrdd â’r gwirfoddolwyr a’r staff ac at ddysgu mwy am y mudiad ac wynebu ein heriau gyda’n gilydd.

“Er gwaethaf pwysau ariannol, rwy’n credu yn uchelgais yr elusen ar gyfer y dyfodol a’n ffocws ar bobl, cleifion, a chymunedau.”

Bydd Richard yn dechrau ar ei rôl newydd gyda St John Ambulance Cymru yn gynnar ym mis Mai.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle