£23.4 miliwn i wella trafnidiaeth gyhoeddus a chefnogi twf economaidd yn dde-orllewin Cymru

0
191
Ken Skates

Mae Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, wedi cyhoeddi bod dros £23.4 miliwn yn cael eu buddsoddi i wella trafnidiaeth gyhoeddus a hyrwyddo twf economaidd.

Gwahoddwyd yr awdurdodau lleol i gyflwyno cynigion i Lywodraeth Cymru er mwyn iddynt gael mynd ati i wella trafnidiaeth leol yn eu hardaloedd mewn ffordd a fydd o gymorth i wireddu’r blaenoriaethau a’r amcanion yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru – Llwybr Newydd. Dyma rai o’r blaenoriaethau hynny:  

  • Mynd i’r afael ag achosion o dywydd garw yn tarfu ar y rhwydwaith priffyrdd
  • Gwella diogelwch ar y ffyrdd
  • Darparu llwybrau cerdded a beicio
  • Gwella amseroedd teithio ar fysiau a gwella cyfleusterau aros
  • Darparu seilwaith gwefru cerbydau trydan fydd ar gael i’r cyhoedd

Mae’r cymorth sylweddol hwn, y bwriedir iddo helpu cynghorau lleol i wella trafnidiaeth yn eu hardal, yn cynnwys cyllid ar gyfer Teithio Llesol a Llwybrau Diogel, Diogelwch ar y Ffyrdd, cyfleusterau gwefru cerbydau trydan, gwella gallu ffyrdd i ymdopi â thywydd garw, trafnidiaeth leol, a ffyrdd heb eu mabwysiadu.

Yn y De-orllewin, bydd £23.4 miliwn yn cael eu defnyddio ar gyfer cynlluniau megis pont newydd yn y Bont Ddu a chreu cysylltiadau yn Llanelli, gwelliannau i’r A487 yn Niwgwl, a chyllid ar gyfer cyfnewidfa fysiau Hwlffordd.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth: “Mae’r grantiau ‘ma’n fuddsoddiad sylweddol i gefnogi twf cynaliadwy yn yr economi leol, i wella cyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus, ac i greu a gwella llwybrau a fydd yn galluogi ac yn annog rhagor o bobl Cymru i gerdded a beicio.

“Mae’r prosiectau ‘ma’n enghreifftiau penigamp o’r atebion ymarferol rydyn ni wedi gofyn i’r awdurdodau lleol eu dylunio er mwyn ei gwneud yn haws i drigolion gyrraedd eu gweithleoedd a’u busnesau, ac i wneud hynny mewn ffordd fwy cynaliadwy.”

Mae’r cyllid hwn hefyd yn ychwanegu at ddyraniadau a roddwyd mewn blynyddoedd blaenorol ar gyfer camau gwahanol rhai o’r prosiectau.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle