Bwrdd iechyd i apelio yn erbyn penderfyniad cynllunio Canolfan Iechyd a Llesiant

0
118
Llanelli Wellbeing

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ar ran Bwrdd Cynllunio Ardal Dyfed, yn apelio yn erbyn penderfyniad Cyngor Sir Gâr i wrthod caniatâd cynllunio ar gyfer Canolfan Gwella Iechyd a Llesiant yn Llanelli.

Pwrpas y ganolfan yw helpu i wella iechyd a llesiant y gymuned a chenedlaethau’r dyfodol trwy ddarparu gwasanaethau i’r gymuned leol ar gyfer plant, ieuenctid ac oedolion sy’n dymuno ceisio cymorth gyda newid ymddygiad ffordd o fyw.

Cyflwynodd y bwrdd iechyd – ar ran y Bwrdd Cynllunio Ardal (BCA) – gais cynllunio ym mis Rhagfyr 2022 ar gyfer darparu’r ganolfan yn adeilad Anchor Point yn ardal Doc y Gogledd o’r dref. Gwrthodwyd hyn gan yr awdurdod cynllunio ym mis Medi 2023.

Bydd y cais nawr yn cael ei gyflwyno i Benderfyniadau Cynllunio Amgylcheddol Cymru, corff Llywodraeth Cymru sy’n rheoli gwaith achos yn ymwneud â datblygu a defnyddio tir er budd y cyhoedd.

Roedd y cais cynllunio gwreiddiol yn cynnwys lle ar gyfer tîm iechyd cyhoeddus y bwrdd iechyd ar Wella Iechyd a Llesiant, y gwasanaeth rhoi’r gorau i ysmygu, y gwasanaeth atal ac ymyrraeth gynnar i blant ac ieuenctid a ddarperir gan Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS), Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed, gwasanaethau seicoleg i oedolion a phlant a Thîm Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol y bwrdd iechyd.

Dywedodd Dr Ardiana Gjini, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Ar ôl ystyried gyda’n partneriaid, rydym wedi dod i’r casgliad bod angen Canolfan Iechyd a Llesiant yn Sir Gaerfyrddin ac adeilad Anchor Point yn Noc y Gogledd yw’r lle gorau ar gyfer hyn.

“Mae canolfan gwella iechyd a llesiant newydd yn Llanelli yn hanfodol i strategaeth y bwrdd iechyd o symud oddi wrth drin salwch at hybu a chefnogi llesiant, gan weithio gyda phartneriaid, cymunedau, cleifion a’r cyhoedd i alluogi ein cymuned i fwynhau ffordd iach o fyw a mynd i’r afael â phrif achosion afiechyd y gellir ei atal a marwolaethau cynnar.

“Mae ysmygu, camddefnyddio alcohol a chyffuriau ymhlith y prif achosion o salwch y gellir ei atal a marwolaethau cynnar ac mae mynd i’r afael â’r materion hyn yn flaenoriaethau strategol i’r bwrdd iechyd ac aelodau’r Bwrdd Cynllunio Ardal. Buom yn ymgysylltu â’r gymuned leol ar adeg y cais gwreiddiol ac er bod rhai pryderon wedi’u codi, dangoswyd cefnogaeth hefyd i’r cynlluniau gan y gymuned leol yn ystod y digwyddiadau ymgynghori ac yn y pwyllgor cynllunio.

“Bydd y bwrdd iechyd yn parhau i ymgysylltu â’r gymuned leol mewn perthynas â’r datblygiad arfaethedig hwn.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle