Cyfle i ‘Godi Eich Bwcedi’ i gefnogi St John Ambulance Cymru y gwanwyn hwn

0
116
Capsiwn: Gwirfoddolwyr St John Ambulance Cymru yn eu hetiau bwced newydd sbon.

Mae St John Ambulance Cymru yn paratoi ar gyfer ei ymgyrch gyffrous Codi Eich Bwcedi, a fydd yn annog pobl i godi arian a hefyd yn eu helpu i gadw’n ddiogel wrth fwynhau tywydd heulog.

Mae elusen cymorth cyntaf Cymru yn annog pobl i gefnogi ei hymgyrch Codwch Eich Bwcedi drwy brynu het fwced neu drwy drefnu digwyddiad codi arian eleni, i gyd i gefnogi gwaith achub bywyd yr elusen mewn cymunedau ledled y wlad.

Y llynedd gwelwyd yr ymgyrch Codi Eich Bwcedi gyntaf erioed, ac efallai eich bod wedi gweld gwirfoddolwyr St John Ambulance Cymru yn cynnal casgliad bwced yn eich archfarchnad leol neu’n gwisgo hetiau bwced mewn digwyddiad lleol. Eleni, mae St John Ambulance Cymru am i fwy o bobl gymryd rhan drwy drefnu diwrnod codi arian neu ddigwyddiad noddedig.

Mae hetiau bwced St John Ambulance Cymru ar gael i’w harchebu ar-lein mewn lliwiau melyn llachar neu wyn glasurol, am gyfraniad awgrymedig o £5-£10. Y llynedd fe gyrhaeddodd hetiau bwced yr elusen cyn belled ag Awstralia a Seland Newydd, ac roedden nhw’n boblogaidd gyda’r cyhoedd yma yng Nghymru. Bydd pob het a werthir fel rhan o’r ymgyrch yn cyfrannu at ddyfodol mwy diogel i gymunedau ar draws y wlad.

Bydd yr ymgyrch hefyd yn gweld cyngor diogelwch ar gyfer yr haf yn cael ei rannu ar draws sianeli’r elusen, er mwyn sicrhau bod pobl yn gadw’n ddiogel wrth fwynhau’r haul

Dywedodd James Cordell, Rheolwr Partneriaeth a Pherthynas St John Ambulance Cymru: “Mae Codi Eich Bwcedi yn gyfle perffaith i godi arian wrth i’r tywydd ddechrau cynhesu, yn eich gweithle, ysgol neu grŵp cymunedol.

“Gallai ysgolion gynnal ‘diwrnod heb wisg ysgol’ a gallai pobl gwerthu cacennau/teisennau yn ei gweithle neu drefnu taith gerdded lles.’

“Bydd yr arian a godwch yn cefnogi’r gwasanaethau hanfodol y mae St John Ambulance Cymru yn eu darparu mewn cymunedau lleol, megis arddangosiadau cymorth cyntaf am ddim i ysgolion a chlybiau, felly gallai eich cefnogaeth olygu’r gwahaniaeth rhwng bywyd a achubwyd a bywyd a gollwyd.”

Mae St John Ambulance Cymru wedi ymrwymo i wella iechyd a lles pobl Cymru drwy driniaeth cymorth cyntaf hanfodol, trafnidiaeth a hyfforddiant. Gwirfoddolwyr yw curiad calon yr elusen, a bydd yr arian a godir fel rhan o ymgyrch Codi Eich Bwcedi yn cefnogi eu gwaith hanfodol.

I gael gwybod mwy am sut y gallwch godi arian neu brynu eich het fwced eich hun, ewch i www.sjacymru.org.uk/en/page/raise-your-buckets.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle