Mae rhoddion elusennol yn ariannu offer profi gweithrediad yr ysgyfaint diagnosis cyflym

0
156
Pictured above: Angharad Pugh, Senior Respiratory Physiologist (right)

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi prynu offer profi gweithrediad yr ysgyfaint newydd gwerth dros £28,000, diolch i roddion elusennol.

Bydd yr offer yn cefnogi diagnosis cyflym o glefyd yr ysgyfaint mewn lleoliad cleifion allanol yn bennaf ond bydd hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cleifion mewnol.

 

Bydd yr offer yn galluogi clinig anadlol rheolaidd i gael ei gynnal yn Ysbyty De Sir Benfro sy’n cynnig clinig Spirometreg a Throsglwyddiad Nwy ar gyfer Clefyd Interstitaidd yr Ysgyfaint (ILD) gyda nyrsys anadlol arbenigol.

Mae Sbirometreg a Throsglwyddiad Nwy yn ddau fath gwahanol o brofion gweithrediad resbiradol. Mae sbirometreg yn edrych ar gyfaint ysgyfaint deinamig a phatrwm llwybr anadlu, ac mae trosglwyddiad nwy yn edrych ar ba mor effeithlon y mae meinwe’r ysgyfaint yn gweithio i gludo ocsigen a charbon deuocsid i mewn ac allan o’r llif gwaed.

 Nid yw lefel y gwasanaeth y bydd yr offer newydd yn ei ddarparu wedi bod ar gael yn Ysbyty De Sir Benfro o’r blaen. Bydd yn helpu i ddarparu gwell gwasanaeth i gleifion yn lleol ac yn lleihau’r angen i gleifion Sir Benfro deithio.

 Bydd yr offer symudol newydd hefyd yn galluogi diagnosis cyflym a gwneud penderfyniadau heb fod angen i gleifion ymweld â’r ysbyty ddwywaith.

 Dywedodd yr Athro Keir Lewis, Arweinydd Anadlol yn y bwrdd iechyd: “Rydym wrth ein bodd bod rhoddion elusennol wedi ein helpu i brynu offer Profi Gweithrediad yr Ysgyfaint EasyOne Pro LAB DLCO. Gellir cario’r dechnoleg ddatblygedig hon mewn bag bach ac mae’n rhoi’r un wybodaeth i ni am ba mor dda y gall ysgyfaint rhywun weithio ag y mae labordy ysbyty.

“Trwy fod yn symudol, gallwn ei symud i wahanol ysbytai a lleoliadau i gwrdd â gofynion newydd a dod â gofal yn nes at adref.”

 Dywedodd Angharad Pugh, Uwch Ffisiolegydd Anadlol: “Mae mynychu Ysbyty De Penfro yn ein galluogi i fonitro dilyniant a symptomau afiechyd mewn clinig un stop, gan ddarparu addasiadau cyflymach o ran triniaeth a rheolaeth barhaus i’r claf.

 “Yn ogystal, mae’n lleihau’r angen i gleifion deithio ar draws y sir i gael profion a nifer yr ymweliadau ag ysbytai, gan helpu i leihau’r pwysau ar le clinigol, apwyntiadau, parcio ac ôl troed carbon.”

 Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Mae ein cronfeydd elusennol yn cefnogi gwariant y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu.

 “Mae’r offer profi gweithrediad yr ysgyfaint yn dangos sut y gall rhoddion wneud gwahaniaeth sylweddol i brofiad y claf trwy ddarparu’r dechnoleg ddiweddaraf i’r GIG lleol. Diolch enfawr i bawb y mae eu rhoddion hael wedi gwneud hyn yn bosibl.”

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle