Wythnos Deall Peryglon Dŵr 2024

0
165

Bydd Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân yn lansio eu hymgyrch #DeallPeryglonDŵr yr wythnos hon. 

Yn 2022, boddodd 266 o bobl ar ddamwain yn y DU. Byddai wedi bod yn bosibl atal y trychinebau hyn rhag digwydd, ac felly mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ymuno yn yr alwad ar i bobl fod yn ddiogel pan fyddant yn y dŵr neu o’i gwmpas.

Bydd ymgyrch #DeallPeryglonDŵr Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân (NFCC) yn digwydd rhwng 22 – 28 o Ebrill. Y nod yw gwella ymwybyddiaeth pobl o’r perygl o foddi ar ddamwain yn ogystal â rhannu cyngor diogelwch cyn i’r tywydd gynhesu.

O’r rhai a foddodd ar ddamwain yn 2022, yn ôl yr ystadegau doedd gan 40% ohonynt ddim math o fwriad mynd i mewn i’r dŵr. Yn aml, llithro, baglu neu gwympo a berodd i’r damweiniau hyn ddigwydd.

Hefyd, dyw llawer ddim yn ymwybodol o beryglon neidio i’r dŵr neu drochi er mwyn oeri, yn enwedig os nad oes ganddynt lawer o brofiad o nofio y tu allan. Gall sioc dŵr oer neu beryglon o dan yr wyneb beri i nofwyr cryf fynd i drafferthion, hyd yn oed.

Dynion yw 87% o’r rhai sy’n marw ar ddamwain fel hyn, ac mae 60% o achosion yn digwydd mewn dyfroedd mewndirol fel afonydd, cronfeydd dŵr a llynnoedd.

Dywedodd Richie Felton, Pennaeth Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru:

“Mae’r ffaith nad oes gan 40% o’r rhai sy’n boddi bob blwyddyn unrhyw fwriad o fynd i’r dŵr yn drawiadol iawn, mae’n digwydd wrth iddyn nhw wneud pethau cwbl arferol fel rhedeg neu gerdded ar lan y dŵr.  Mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’r risgiau ac i wybod beth i’w wneud os ydych chi’n disgyn i’r dŵr ar ddamwain. Drwy roi sylw i’r mater a thrwy rannu rhai negeseuon diogelwch syml, rydyn ni’n gobeithio lleihau nifer y marwolaethau y gellid eu hosgoi.”


Dyma rai awgrymiadau o ran aros yn ddiogel:

  • Os ydych chi’n mynd am dro neu’n rhedeg yn agos i’r dŵr, arhoswch ar y llwybrau priodol a pheidiwch â mynd at yr ymyl.
  • Peidiwch â mynd i’r dŵr ar ôl yfed alcohol.
  • Os ydych wedi bod yn yfed, dewiswch lwybr diogel am adre, ewch gyda ffrindiau a chan osgoi dŵr.
  • Gwnewch yn siŵr fod yr amgylchiadau’n ddiogel, ceisiwch osgoi rhedeg neu gerdded yn agos i ddŵr pan fo’n dywyll, pan fo’n llithrig dan draed neu pan fo’r tywydd yn wael.
  • Peidiwch byth â mynd i mewn i’r dŵr er mwyn ceisio helpu person neu anifail – ffoniwch 999 bob amser a defnyddiwch offer achub dŵr os oes ar gael.
  • Os ydych yn treulio amser yn agos i ddŵr, boed hynny gartref neu dramor, gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â’r wybodaeth leol am ddiogelwch a bod plant yn cael eu goruchwylio trwy’r adeg.

Pan fyddwch yn ymyl dŵr, mae’r ystadegau’n dangos y gall argyfwng ddigwydd ar adegau cwbl annisgwyl, felly gall gwybod beth i’w wneud os ydych chi neu rywun arall yn mynd i drafferthion achub bywydau.

Os oes rhywun mewn trafferth yn y dŵr, y ffordd orau i helpu yw cadw’ch pwyll, aros ar dir sych, a chofio Ffonio, Dweud, Taflu:

  • Ffoniwch 999 i alw’r gwasanaethau brys.
  • Dywedwch wrth y person sydd mewn trafferth am arnofio ar eu cefn.
  • Taflwch rywbeth sy’n arnofio atynt.

Os byddwch chi mewn trafferth yn y dŵr, cofiwch ‘Arnofio i Fyw’. Rhowch eich pen yn ôl gyda’ch clustiau o dan y dŵr. Ymlaciwch, ceisiwch anadlu yn arferol. Symudwch eich dwylo i’ch helpu i arnofio. Cadwch eich coesau a’ch breichiau ar led. Pan fyddwch wedi cael rheolaeth ar eich anadl, galwch am gymorth neu nofiwch i rywle diogel.

Dywedodd Dawn Whittaker, Arweinydd Atal Boddi Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân:

“Diben yr ymgyrch Deall Peryglon Dŵr yw helpu pobl i fod yn ddiogel pan fyddant yn treulio amser yn y dŵr, ac yn ei ymyl. Rydym yn annog pobl i leihau’r perygl o foddi drwy wneud dewisiadau diogel pan fyddant yn agos i ddŵr, ac i wybod beth i’w wneud mewn argyfwng.

Mae’r cyngor syml i ‘Ffonio, dweud, taflu’ ac ‘Arnofio i Fyw’ yn negeseuon a all achub bywydau, ac mae’r gwasanaethau tân yn eu rhannu er mwyn ceisio lleihau nifer y marwolaethau y gellir eu hatal a’u heffaith drychinebus ar deuluoedd a chymunedau.”

Am ragor o wybodaeth am yr ymgyrch #DeallPeryglonDŵr ewch i: www.nfcc.org.uk/bewateraware

I weld negeseuon diogelwch ac i gael gwybodaeth, cyngor neu arweiniad am Ddiogelwch Dŵr, edrychwch ar ein cyfrifon Cyfryngau Cymdeithasol ac ewch i’n gwefan.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle