Rhoddwyr organau yn cael eu hanrhydeddu gan St John Ambulance Cymru a Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG

0
217
Capsiwn: Nichola Couceiro a Samantha Roberts yn y seremoni wobrwyo.

Cynhaliwyd Gwobrau Urdd St John y DU ar gyfer Rhoi Organau ar gyfer 2024 yn gynharach yr wythnos hon, i anrhydeddu’r unigolion sydd wedi rhoi’r rhodd amhrisiadwy o fywyd trwy roi organau.

Mae’r gwobrau’n cael eu cynnal ledled y DU ac yn cael eu rhedeg gan Briordai St John rhanbarthol ar y cyd â’u Tîm Rhoi Organau cysylltiedig, sy’n rhan o Waed a Thrawsblaniadau’r GIG.

Cynhaliwyd Gwobrau Rhoddwyr Organau Cymru yn Cornerstone yng Nghaerdydd ar ddydd Mawrth, i anrhydeddu rhoddwyr o bob rhan o Gymru a’r gororau.

Mae St John Ambulance Cymru wedi bod yn cynnal y gwobrau gyda Thîm Rhoi Organau De Cymru am y 11 flwyddyn ddiwethaf i gydnabod y cyfraniad anhunanol y mae rhoddwyr organau a’u teuluoedd wedi’i wneud i helpu eraill.

Cafodd 32 o deuluoedd eu hailuno ag aelodau o’r Tîm Rhoi Organau yn y seremoni wobrwyo ddydd Mawrth 23 Ebrill. Roedd rhai o’r tîm wedi helpu teuluoedd yn bersonol trwy broses rhoi organau eu hanwyliaid.

Cyflwynwyd y gwobrau, ar ffurf pin a dyfyniad, gan Mrs Morfudd Meredith, Arglwydd Raglaw EM De Morgannwg a Paul Griffiths OBE KStJ DL, Prior i Gymru. Dilynwyd hyn gan ddarlleniadau gan aelodau Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG ac eiliad o fyfyrio, dan arweiniad y Parchedig Jason Townsend.

Bu Tîm Elusennol ac Chymynroddion y cwmni cyfreithiol Hugh James yn ddigon caredig i noddi’r gwasanaeth, gyda Phartner y cwmni, Samantha Roberts, yn mynychu’r derbyniad ar ran y cwmni. Dywedodd Samantha, “Rydym yn cydnabod yr effaith ddofn y mae rhoddwyr organau yn ei chael ar fywydau derbynwyr a’u teuluoedd.

“Rydym yn hynod falch o gefnogi’r Gwobrau Rhoi Organau ac i fod yn rhan o fenter sy’n cydnabod ac yn anrhydeddu rhoddwyr a’u teuluoedd am eu penderfyniad i achub a thrawsnewid bywydau.” 

Capsiwn: Samantha Roberts gyda Paul Griffiths, OBE KStJ DL a Mrs Morfudd Meredith, Arglwydd Raglaw De Morgannwg.

Arwyddair Urdd St John yw Pro Fide Pro Utilitate Hominum, sy’n cyfieithu fel ‘Dros y Ffydd ac yng Ngwasanaeth Ddynoliaeth’. Mae’r Gwobrau Rhoddwyr Organau yn anrhydeddu’r rhai sydd wedi gwneud y gwasanaeth eithaf i ddynoliaeth, trwy roi rhodd gobaith i eraill.

“Hoffai St John Ambulance Cymru estyn ein diolch i bawb a ddaeth i’r gwasanaeth a hoffem gydnabod ein noddwyr, Hugh James, am eu cefnogaeth, a’n galluogodd i gydnabod rhoddwyr a’u teuluoedd gyda’r gwobrau hyn.

“Mae ein meddyliau gyda’r holl deuluoedd y rhai a gafodd eu hanrhydeddu yn y seremoni’r wythnos hon.” meddai Nichola Couceiro, Pennaeth Codi Arian a Chyfathrebu yn St John Ambulance Cymru. 

Os hoffech chi ddarganfod mwy am Urdd St John a gwaith St John Ambulance Cymru, elusen cymorth cyntaf Cymru, ewch i www.sjacymru.org.uk.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle