Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

0
142
Caption: New e-learning modules focusing on soil fertility and helping farmers understand the value of soil testing.

Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o fodiwlau ar-lein yn seiliedig ar arferion sy’n cynnal cynhyrchiant ac iechyd tir amaeth a da byw mewn ffordd gynaliadwy, i helpu ffermwyr Cymru wrth iddynt drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS).

 Bydd y gyfres achrededig o saith modiwl yn rhoi trosolwg i ffermwyr o gyfeiriad amaethyddiaeth yng Nghymru yn y dyfodol, meddai Becky Summons, Rheolwr Iechyd a Lles Anifeiliaid Cyswllt Ffermio a Rheolwr E-ddysgu.

 “Mae’r modiwlau hyn yn rhoi cipolwg ar sut i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu mewnbynnau, maethynnau a gwastraff a byddant yn ymdrin â sawl pwnc yn ymwneud â thir amaeth a da byw,” eglura.

 Mae modiwl ar gynllunio rheoli maetholion i helpu ffermwyr ddeall gwerth profi pridd a slyri a sut i gwblhau cynllun rheoli maetholion ar gyfer eu daliad.

 Ymdrinnir â gwella ffrwythlondeb y pridd a chynyddu cynnyrch trwy gylchdroi cnydau, defnyddio tail gwyrdd, compostio, a thrin y tir cyn lleied â phosibl mewn modiwl arall, i alluogi ffermwyr i wella ffrwythlondeb y pridd, atal plâu a chlefydau a gwella’r maetholion sydd ar gael i’r planhigion y maent yn eu tyfu.

 Mae ymwrthedd i wrthfiotigau yn broblem fawr o fewn amaethyddiaeth felly mae’r pwnc hwn wedi’i gyflwyno i helpu ffermwyr i ddeall sut mae ymwrthedd yn datblygu mewn bacteria a sut mae’r bacteria hyn yn lledaenu. Bydd y modiwl hwn yn rhoi arweiniad ar leihau’r defnydd o wrthfiotigau ac atal ymwrthedd i wrthfiotigau rhag lledaenu o fferm i fferm.

 Mae ymwrthedd anthelmintig yn destun pryder arall a dyna pam ei fod wedi’i gynnwys, i roi’r offer i ffermwyr ddeall sut i amddiffyn eu hanifeiliaid wrth leihau’r risg o ddatblygu ymwrthedd.

 Bydd cemegau a ddefnyddir i reoli plâu a chwyn yn dod o dan y chwyddwydr hefyd gyda modiwl sy’n ymdrin â dulliau Rheoli Plâu Integredig (IPM) sy’n osgoi defnyddio plaladdwyr neu chwynladdwyr synthetig.

 Dywed Ms Summons y bydd ffermwyr hefyd yn cael y cyfle i ddysgu sut i wneud gwell defnydd o laswellt yn eu systemau.

 “Gyda disgwyl i ffermydd weithredu arferion ffermio cynaliadwy i gyflawni allbynnau cynaliadwy, gall rheolaeth dda o dir glas chwarae rhan hanfodol wrth helpu i wella ansawdd porthiant a gwella cyfraddau twf da byw wrth leihau’r angen i brynu porthiant,” meddai.

 Pan fydd y rhai sy’n cymryd wedi cwblhau pob un o’r saith modiwl, byddant yn cael tystysgrif Gwobrau Lantra a fydd yn cael ei harbed yn awtomatig yn eu cyfrif Storfa Sgiliau a bydd cofnod ar gael i’w gweld neu ei lawr lwytho unrhyw bryd.

 “I gael mynediad i’r modiwlau, mewngofnodwch i’ch cyfrif BOSS i weld yr holl fodiwlau
e-ddysgu sydd ar gael neu cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu Cyswllt Ffermio lleol i gael rhagor o wybodaeth,” dywed Ms Summons.

 Mae’r modiwlau hyn ar gael ar unrhyw adeg a gellir eu cwblhau lle a phryd bynnag sydd fwyaf cyfleus i’r rhai sy’n cymryd rhan.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle