all teuluoedd yng Nghymru hawlio hyd at £200 y plentyn ar gyfer hanfodion ysgol

0
169
Image by Haider Mahmood from Pixabay

Mae miloedd o rieni yn medru hawlio’r Grant Hanfodion Ysgol o hyd

Wrth i gostau byw barhau i roi straen ar lawer o deuluoedd, mae rhieni a gofalwyr yn cael eu hannog i wirio a ydynt yn gymwys i hawlio help gyda chostau ysgol.

Gall plant o deuluoedd ar incwm is, sy’n hawlio budd-daliadau penodol, gael hyd at £200 i helpu i dalu am hanfodion fel gwisg ysgol, deunydd ysgrifennu, cit ac offer chwaraeon.

Ar hyn o bryd, dim ond 88% o’r rhai sy’n gymwys sydd wedi hawlio’r Grant Hanfodion Ysgol sydd am ddim. Mae hynny’n gadael miloedd o blant yng Nghymru â rhieni sydd angen hawlio’r arian cyn i geisiadau gau ar 31 Mai.

Mae amser gennych i wirio a ydych yn gymwys Hawliwch help gyda chostau ysgol | LLYW.CYMRU a gwneud cais am gyllid eleni cyn y dyddiad cau.

Eglurodd Pennaeth Ysgol Gymunedol Trimsaran, Steffan Jones, sut mae’r grant yn helpu dysgwyr yn ei ysgol: “Rydych chi eisiau i bob plentyn gael ei drin yr un fath, ac i bob plentyn gael yr un profiadau.

“Mae’r grantiau hyn wir yn helpu, fel y gall pob plentyn gymryd rhan a mwynhau eu hamser yn yr ysgol, nid dim ond y rhai sy’n gallu ei fforddio.”

Beth yw’r Grant Hanfodion Ysgol?

Taliad cymorth yw’r Grant Hanfodion Ysgol i helpu i dalu costau hanfodion sydd eu hangen ar gyfer yr ysgol.

Gall teuluoedd ar incwm is sy’n hawlio budd-daliadau penodol, rhai sy’n ceisio lloches a phlant mewn gofal hawlio £125 y plentyn y flwyddyn i helpu gyda chostau ysgol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.

Ar gyfer plant sy’n mynd i flwyddyn 7, mae £200 ar gael i gydnabod y gost ychwanegol o ddechrau mewn ysgol uwchradd.

  • Gellir defnyddio’r grant i dalu am y canlynol:
  • gwisg ysgol, gan gynnwys cotiau ac esgidiau
  • gweithgareddau ysgol, fel dysgu offeryn cerdd, cit ac offer chwaraeon ar gyfer gweithgareddau ar ôl ysgol
  • hanfodion yr ystafell ddosbarth, fel beiros, pensiliau a bagiau

Yn ogystal â chymorth a delir i deulu y dysgwr, bydd eu hysgol neu leoliad hefyd yn hawlio cyllid ychwanegol.

Defnyddir y cyllid hwn i gefnogi dysgwyr o deuluoedd incwm is, er enghraifft trwy dalu am staff cymorth. Mae hyn yn berthnasol i ddysgwyr ym mhob ysgol a lleoliad, gan gynnwys ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion.

Eglurodd Steffan Jones sut maen nhw’n defnyddio’r cyllid ychwanegol yn ei ysgol: “Yr adnodd gorau y gallwn ni ddarparu i’r plant yw staff, ac ry’n ni yn defnyddio’r grantiau i ariannu staff cymorth, ac i roi’r cymorth ychwanegol yna sydd ei angen arnynt i lwyddo.”

Sut mae hawlio’r Grant Hanfodion Ysgol?

Rhaid i deuluoedd gofrestru eu cymhwysedd ar gyfer y Grant Hanfodion Ysgol trwy eu hawdurdod lleol a gallwch wneud cais bob blwyddyn ar gyfer pob un o’ch plant. Mae dysgwyr o bob math o leoliadau addysg yn gymwys, ar yr amod eu bod rhwng 4 oed (yn y Dosbarth Derbyn) ac 16 oed.

Er mwyn i ddysgwr fod yn gymwys, rhaid i’w riant hawlio un neu fwy o’r canlynol:

  • Cymhorthdal ​​Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
  • Cymorth o dan Ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999
  • Elfen warantedig o Gredyd Pensiwn
  • Credyd Treth Plant (cyn belled nad yw rhieni hefyd yn hawlio Credyd Treth Gwaith a bod eu hincwm blynyddol yn £16,190 neu is cyn treth)
  • Credyd Treth Gwaith dilynol (a delir am 4 wythnos ar ôl i rieni stopio â bod yn gymwys ar gyfer Credyd Treth Gwaith)
  • Credyd Cynhwysol (cyn belled â bod yr incwm cartref net blynyddol a enillir yn is na £7,400, heb gynnwys budd-daliadau)

Hyd yn oed os yw’ch plentyn eisoes yn derbyn Cinio Ysgol Am Ddim, mae angen i chi wirio a ydych yn gymwys i hawlio’r Grant Hanfodion Ysgol a chyllid ychwanegol ar gyfer eich ysgol.

Faint fedrai hawlio?

Teuluoedd dysgwyr ysgolion cynradd ac uwchradd (os yn gymwys) – £125 y plentyn, y flwyddyn.

Teuluoedd dysgwyr ysgol uwchradd ym mlwyddyn 7 (os yn gymwys) – £200 y plentyn, y flwyddyn.

Mae ffenestr ar gyfer ymgeisio’r flwyddyn ysgol hon yn cau ar ddydd Gwener, 31 Mai, 2024.

Gwiriwch a yw eich plentyn yn gymwys a gwnewch gais nawr: llyw.cymru/hawliwch-help-gyda-chostau-ysgol


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle