Cyfrinfa Seiri Rhyddion yn cyfrannu £600 i Apêl Gerddi Ysbyty Tywysog Philip

0
134
Prince of Wales Lodge

Mae Cyfrinfa 671 Tywysog Cymru wedi bod mor garedig â rhoi £600 i Apêl Gerddi Ysbyty Tywysog Philip.

Nod yr Apêl yw ariannu gerddi therapiwtig newydd i gleifion yn Ward Mynydd Mawr, uned adsefydlu gofal henoed 15 gwely, a Ward Bryngolau, uned iechyd meddwl oedolion hŷn 15 gwely. Mae’r wardiau wedi’u lleoli drws nesaf i’w gilydd ar lawr gwaelod yr ysbyty ac mae ganddynt fynediad i le awyr agored caeedig. Fodd bynnag, nid yw’r gofod hwn yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd ac nid yw’n addas ar gyfer cleifion.

Ffurfiwyd Cyfrinfa’r Seiri Rhyddion, Cyfrinfa hynaf y Seiri Rhyddion yn Llanelli, ym 1856 ac mae ganddi tua 40 o aelodau o bob oed.

Prif nod y Seiri Rhyddion yw codi arian at achosion elusennol, yn Seiri Rhyddion a’r rhai nad ydynt yn Seiri Rhyddion. Daw’r holl arian a godir o gefnogaeth aelodau trwy roddion misol a’u cronfa elusennol.

Dywedodd Adrian Hallett, Stiward Elusennol: “Rydym ni, fel Seiri Rhyddion, yn falch o’r ffaith mai ni, yn ail i’r Loteri Genedlaethol, yw’r rhoddwyr mwyaf i elusennau yn y wlad.

“Yn ogystal â chefnogi elusennau cenedlaethol, rydym yn hoffi cefnogi elusennau lleol bach yn eu hymdrech codi arian. Gwelsom yr erthygl yn ddiweddar ynglŷn â gerddi wardiau Mynydd Mawr a Bryngolau yn Ysbyty Tywysog Philip a phenderfynwyd y byddem yn hoffi cefnogi’r fenter hon a rhoi £600 i’r achos.

“Rydym yn falch iawn o gynorthwyo. Teimlwn oll y bydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i’r cynnydd y mae cleifion yn ei wneud gyda’u hadsefydliad. Mae ymchwil wedi dangos bod therapi mewn mannau gwyrdd yn gwella canlyniadau cleifion.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Hoffem anfon ein diolch diffuant i aelodau Cyfrinfa 671 Tywysog Cymru am eu rhodd garedig a fydd yn ein helpu i greu’r mannau gwyrdd therapiwtig y gall cleifion a staff elwa arnynt. o flynyddoedd lawer i ddod.”

I gael rhagor o wybodaeth am Apêl Gerddi Tywysog Philip, ewch i: https://hywelddahealthcharities.nhs.wales/campaigns/pph-gardens-appeal/

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle