Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda – elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Hywel Dda – wedi ariannu 10 monitor calon symudol gwerth dros £13,000 ar gyfer Adran Cardio-Anadlol Ysbyty Llwynhelyg.
Dyfeisiau cryno yw’r monitorau a ddefnyddir i asesu rhythm a chyfradd curiad calon claf am gyfnod hir.
Bydd y monitorau o’r radd flaenaf yn helpu’r Adran Cardio-Anadlol i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl, gydag adnabyddiaeth arhythmia gywir, effeithlon ac amserol yn cael ei darparu ar y safle neu gartref.
Dywedodd Rhys Bowen, Uwch Ffisiolegydd Cardiaidd: “Rydym mor ddiolchgar bod rhoddion elusennol gan y gymuned leol wedi ein galluogi i brynu’r monitorau newydd.
“Mae’r monitorau’n fwy addasadwy i symptomau pob claf a fydd yn gwella ansawdd y data a gesglir.
“Maent yn fwy cyfeillgar i gleifion ac yn haws eu gwisgo trwy gydol y prawf, felly bydd llai o angen monitro dro ar ôl tro. Byddant hefyd yn cefnogi rhyddhau cleifion mewnol cyflymach oherwydd cynnydd yn nifer y monitorau sydd ar gael a’r ffaith y gall y claf eu gwisgo gartref a darparu monitro o bell.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch I www.elusennauiechydhyweldda.org.uk.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle