Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn Rhan o Gonfoi Mwyaf Erioed Gwasanaethau Tân ac Achub y DU

0
244

Yn ddiweddar, gwirfoddolodd naw aelod o bersonél Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu hamser i ddanfon tair injan dân ac offer fel rhan o gonfoi mwyaf erioed Gwasanaethau Tân ac Achub y DU.

Ddydd Mawrth, Ebrill 23, dechreuodd confoi o offer a cherbydau achub bywyd y gwasanaethau tân ac achub, wedi’i gydlynu gan Fire Aid, ar ei daith i Wcráin i ddanfon yr offer hanfodol hwn i Ddiffoddwyr Tân yn Wcráin.

Roedd maint y confoi yn ddigynsail, gan ei fod yn cynnwys 33 o gerbydau tân ac achub, dau gerbyd peirianwyr a dros 2,800 o ddarnau o offer a roddwyd gan Wasanaethau Tân ac Achub y DU ac a gefnogwyd gan y Swyddfa Gartref.  Gan weithio gyda Fire Aid, mae Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru a Lloegr wedi cyfrannu’r holl beiriannau, cit ac offer, sy’n cynnwys ysgolion, setiau cyfarpar anadlu, cychod, offer gwarchod personol tân a dŵr a chit gweithio’n ddiogel ar uchder. Cymerodd 100 o wirfoddolwyr, o’r Gwasanaethau Tân ac Achub a Fire Aid, ran yn y confoi.

Gwirfoddolodd naw aelod o bersonél Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu hamser i ddanfon tair injan dân ar ran y Gwasanaeth. Trefnwyd y confoi trwy bartneriaeth o 15 o Wasanaethau Tân ac Achub y DU, sy’n cynnwys pob un o’r tri GTA yng Nghymru, yn ogystal â Chyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân, Cydnerthedd Cenedlaethol, y Swyddfa Gartref, Fire Aid, a Chymdeithas y Diwydiant Tân.

Dywedodd Dirprwy Brif Swyddog Tân GTACGC, Iwan Cray:

“Mae’r digwyddiadau sy’n datblygu yn Wcráin wedi ysgogi ymdeimlad cryf o undod o fewn teuluoedd Gwasanaethau Tân ac Achub ledled y byd ac mae GTACGC yn falch o allu darparu tair injan dân sydd wedi cyrraedd diwedd eu hoes gyda ni o ran gwasanaeth. 

Heb os, bydd y cerbydau hyn, ynghyd â’r cerbydau eraill yn y confoi, yn cefnogi gorsafoedd ledled Wcráin sydd wedi colli eu hoffer ac yn eu galluogi i barhau i gefnogi eu cymunedau.”

Rhyfel yn Wcráin

Ar 24 Chwefror 2022, lansiodd Ffederasiwn Rwsia ymosodiad anghyfreithlon ar Wcráin, gan fynd ati i ddwysáu dros wyth mlynedd o wrthdaro i fod yn rhyfel ar raddfa lawn.

Mae gwasanaethau tân ac achub Wcráin wedi cael eu dinistrio i raddau helaeth gan effaith y rhyfel ac mae’r gofynion arnynt wedi cynyddu’n aruthrol.  Hyd yn hyn, mae 396 o orsafoedd tân wedi cael eu dinistrio, gyda 92 yn rhagor bellach mewn tiriogaeth sydd wedi’i meddiannu.  Mae 1,676 o gerbydau tân wedi cael eu dinistrio, 91 o ddiffoddwyr tân wedi cael eu lladd, gyda 349 arall wedi’u hanafu, ac mae pump ohonynt wedi cael eu caethiwo.  Yn y cyfamser, mae gwaith diffoddwyr tân yn Wcráin wedi cynyddu’n sylweddol ers dechrau’r rhyfel, gyda thua 217,000 o adeiladau wedi cael eu dinistrio neu eu difrodi, 18,270 o danau wedi’u diffodd a 4,975 o bobl wedi cael eu hachub.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle