Mae Bow Street yn dathlu trydydd pen-blwydd â chynnydd parhaol yn nifer y teithwyr

0
165
Bow Street

Mae’n dair blynedd ers i’r orsaf newydd sbon gyntaf agor dan Trafnidiaeth Cymru ac ers hynny mae hi wedi mynd o nerth i nerth, â bron i 30,000 o bobl wedi ei defnyddio yn 2023/24.

Cwblhawyd Cyfnewidfa Drafnidiaeth Bow Street yn 2021 o ganlyniad i fwy na degawd o waith ac ymgyrchu gan grwpiau lleol yng Ngheredigion.

Yn ystod 2021/22 gwelodd yr orsaf 12,563 o deithiau ar gyfer teithwyr, a gynyddodd i 23,156 o deithiau y flwyddyn ganlynol, diolch yn rhannol wrth gwrs i’r llacio mewn cyfyngiadau Covid-19.

Ac yn y data diweddaraf, cadarnhawyd bod mwy na 29,000 o bobl wedi defnyddio’r orsaf yn 2023/24, cyfartaledd o 2,300 y mis.

Dywedodd Rheolwr Gorsaf i Trafnidiaeth Cymru, David Crunkhorn, ei bod yn “wych gweld ei llwyddiant parhaus.”

Dywedodd: “Mae cwsmeriaid wedi bod yn gadarnhaol iawn am y peth ac yn sicr mae’n ymddangos ein bod yn gweld llawer o bobl yn ei defnyddio’n arbennig i fynd i mewn i Aberystwyth lle gall parcio yn y dref fod yn gyfyngedig.

“Roeddem yn falch iawn bod yr orsaf newydd gyntaf a agorwyd dan Trafnidiaeth Cymru yma ar lein y Cambrian ac mae’n wych gweld ei llwyddiant parhaus.”

Mae’r orsaf yn cynnwys maes parcio am ddim gyda 70 o leoedd parcio wedi’u monitro gan Deledu Cylch Cyfyng yn ogystal â lleoedd i barcio beiciau, a gall cwsmeriaid sy’n eu defnyddio barhau ar eu taith drwy fanteisio ar lwybr bws T-2 sy’n cysylltu Aberystwyth â Bangor, yn ogystal â llwybrau bysiau lleol.

Roedd cynghorydd ward Tirymynach, Paul Hinge, yn rhan fawr o’r ymgyrch ar gyfer yr orsaf a arweiniodd yn y pen draw at benderfyniad Llywodraeth Cymru i gomisiynu astudiaeth i ailagor yr orsaf a sicrhau cyllid gan yr Adran Drafnidiaeth ar gyfer ei hadeiladu.

“Mae pobl yn bendant yn ei defnyddio fwyfwy, nid yn unig o bentref Bow Street ond o gymunedau fel Penrhyncoch, Tal-y-bont a thu hwnt,” meddai.

“Rhan fawr o hynny yw’r maes parcio am ddim a bydd yn well gan lawer o bobl deithio oddi yma wrth fynd i Birmingham neu Lundain oherwydd eu bod yn gwybod y gallant adael eu car yn ddiogel.

“I mi roedd yn llafur cariad go iawn oherwydd bod fy nhad-yng-nghyfraith wedi gweithio ar y rheilffordd am tua 50 mlynedd a gofynnodd i mi ymgyrchu dros hyn ychydig cyn iddo farw.”

Mae’r gymuned hefyd wedi elwa o welliannau sylweddol i gysylltiadau Teithio Llesol yn Bow Street yn ogystal â rhwng Bow Street a chymuned gyfagos Penrhyncoch trwy gampws Plas Gogerddan Prifysgol Aberystwyth.

Yn ôl Cyngor Sir Ceredigion, cwblhawyd y llwybrau cerdded a beicio ar y cyd newydd hyn yn 2021/22 ac maent bellach yn cael eu defnyddio’n aml iawn.

Mae’r ffigyrau gan Bow Street yn dangos bod 34% o’r holl deithiau sy’n cychwyn yn yr orsaf yn mynd i Aberystwyth, yna 13% i’r Amwythig, 8% i Birmingham New Street neu Birmingham International a 7% i Lundain.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle