Tîm rygbi ieuenctid yn cefnogi hyfforddwr trwy godi arian ar gyfer uned cemo

0
193

Mae tîm rygbi dan 18 oed clwb cymunedol Clwb Rygbi Llangennech wedi codi swm gwych o £2,127 ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili.

 

Mae hyfforddwr y tîm, Sherwyn Smith, yn cael triniaeth yn yr uned cemo ar hyn o bryd.

 

Dywedodd Harvey Evans, Capten y tîm ieuenctid: “Fe wnaethon ni gymryd rhan mewn taith gerdded 5k yn ystod y Park Run ar 10 Chwefror 2024 ym Mharc Dŵr y Sandy, Llanelli gydag un o hyfforddwyr y tîm i ddangos cefnogaeth i Sherwyn wrth iddo gael triniaeth am ganser ar ôl cael brwydr debyg y llynedd.

 

“Roedden ni eisiau dangos ein gwerthfawrogiad i’r uned am y gofal da maen nhw’n ei ddarparu i Sherwyn. Diolch i drefnwyr a gwirfoddolwyr Park Run, pawb sy’n adnabod Sherwyn a’r rhai sy’n gysylltiedig â Chlwb Rygbi Llangennech a gyfrannodd.”

 

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym am ddiolch i rai dan 18 Clwb Rygbi Llangennech am godi swm mor wych ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili.

 

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

 

I gael rhagor o fanylion am elusen y GIG a sut y gallwch helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle