Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2024

0
552
Criw-Neges-Heddwch-ac-Ewyllys-Da-2024-Peace-and-Goodwill-Message-Contributors

Heddiw (Gwener 17 Mai 2024) mae’r Urdd yn rhannu ‘Gweithred yw Gobaith’, Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2024 pobl ifanc Cymru gyda’r byd ar ffurf ffilm animeiddiedig.

Ysbrydolwyd Neges Heddwch 2024 gan Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru 1923-24 a arwyddwyd gan bron i 400,000 o fenywod ganrif yn ôl, ac mae’n datgan mai “her canrif newydd” yw’r angen i barhau i weithredu dros heddwch, a rhoi diwedd ar erchyllterau, rhyfeloedd a thrais.

 Yn gyfrifol am y Neges Heddwch eleni oedd merched sy’n fyfyrwyr ar gyrsiau ESOL (dysgwyr Saesneg fel ail iaith) yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro sydd wedi symud i Gymru a gwneud Cymru yn gartref newydd, ynghyd â rhai o staff, prentisiaid a gwirfoddolwyr benywaidd yr Urdd.

Criw-Neges-Heddwch-ac-Ewyllys-Da-2024-Peace-and-Goodwill-Message-Contributors

 Meddai Shatw Ali, un o’r bobl ifanc a gyfrannodd at y Neges: “Mae heddwch yn golygu nad oes rhaid i rieni boeni am sut i fwydo eu plant. Lle gall plant wylio tân gwyllt yn lle gwylio bomiau’n disgyn o’r awyr. Efallai ei fod yn ymddangos yn amhosib dod o hyd i le felly ar y blaned yma ond os edrychwch chi’n ofalus fe ddewch chi o hyd iddo, yn union fel y dois i o hyd i Gymru. Gwlad, gwerddon o dawelwch yng nghanol y byd anhrefnus.”

 Yn ystod gweithdai o dan arweiniad Cyfarwyddwr Creadigol y Neges, Casi Wyn, bu’r merched yn sôn am eu profiadau o heddwch – a’r diffyg heddwch ym mywydau blaenorol ambell un, gan gynnwys y rheiny sy’n hanu o Afghanistan, Sudan, Somalia a Bangladesh.

 Ychwanega Shatw: “Fe wnaeth y gweithdy i mi sylweddoli bod cymaint mwy o bobl yn chwilio’n daer am heddwch ac yng nghalon pawb mae yna ran sydd eisiau profi heddwch o leiaf unwaith yn eu hoes dim ots beth yw eu hil, oedran, rhywedd neu gefndir. Rydw i wir yn edrych ymlaen at weld y neges yn mynd allan. Fe wnaeth y grŵp a’r staff i gyd weithio’n galed arni felly rydw i’n edrych ymlaen at weld sut bydd y neges yn y diwedd.”

 Mae geiriau ‘Gweithred yw Gobaith’ ar gael mewn 65 iaith er mwyn cryfhau neges ieuenctid Cymru ledled y byd, a crëwyd ffilm o’r Neges gan yr animeiddwraig Efa Blosse-Mason.

 Ers 1922 mae ieuenctid Cymru wedi cyhoeddi neges bob mis Mai gyda thema wahanol o heddwch ac ewyllys da. Mae’r neges wedi’i rhannu bob blwyddyn yn ddi-ffael – i ddechrau drwy god Morse, ac wedyn drwy’r BBC World Service ac, yn fwy diweddar, drwy gyfryngau digidol. Gwelwyd Neges 2023 ar wrth-hiliaeth gan filiynau mewn 50 o wledydd, mewn 53 iaith, a’i chefnogi gan enwogion a channoedd o ysgolion ledled Cymru a thu hwnt.

Meddai Casi Wyn: “Pleser oedd derbyn gwahoddiad gan yr Urdd i gyfarwyddo Neges Heddwch ac Ewyllys Da’r Urdd eleni. Yn ystod cyfres o weithdai, roedd treulio amser yn pontio’r ddeiseb hanesyddol ysgrifennwyd yn ôl yn 1924 gyda gweledigaeth merched Cymru heddiw yn ysbrydoledig. Mae Efa Blosse Mason, sy’n bartner artistig imi ers blynyddoedd, wedi bywiocau geiriau’r neges yn ei chyfrwng arbennig ei hun.”

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Vaughan Gething: “Rwy’n hynod falch o gefnogi Neges Heddwch ac Ewyllys Da’r Urdd, sydd o bwys mawr i bobl ar draws y byd. Mae’r neges yn adlewyrchiad o uchelgeisiau pobl ifanc Cymru ac yn alwad i arweinwyr y byd i weithredu, gyda’r nod i anelu at ddyfodol gwell i bob un ohonom. Yn fwy nag erioed, rwy’n annog pawb i ymgysylltu â’r neges a helpu i sicrhau bod lleisiau ein pobl ifanc yn cael eu clywed ledled y byd.”

 Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James-Evans: “Rydyn ni’n eithriadol falch bod ein dysgwyr ESOL ni wedi cael cais i gyfrannu at Neges Heddwch ac Ewyllys Da ysbrydoledig Urdd Gobaith Cymru eleni, sy’n dathlu canmlwyddiant Deiseb Heddwch Merched Cymru 1923- 24.

 “Mae llawer o’n dysgwyr ESOL ni wedi dod atom ni o rannau o’r byd sydd ddim yn gwybod fawr ddim am heddwch, felly roedd gallu cymryd rhan yn y gwaith o greu a recordio’r neges hon yn fwy teimladwy iddyn nhw. Fel Coleg sydd wedi’i leoli yng nghalon un o gymunedau mwyaf bywiog ac amrywiol Cymru, rydyn ni wrth ein bodd bod ein dysgwyr ni wedi cael eu dewis i helpu i gyflwyno’r neges wirioneddol ryngwladol yma o obaith a chariad yn y cyfnod cythryblus hwn.”

 Cefndir thema Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd 2024

 Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, llofnododd 390,296 o fenywod yng Nghymru ddeiseb heddwch a’i chyflwyno, mewn cist dderw, i fenywod yr Unol Daleithiau yn y Biltmore Hotel, Efrog Newydd. Roedd y ddeiseb yn apelio i’r UDA ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd er mwyn gweld cydweithredu dros heddwch yn y byd.

Cafodd Deiseb Heddwch y Menywod a’r gist eu hailddarganfod a’u dychwelyd i Gymru y llynedd, ac roedd y stori yn ysbrydoliaeth i’r Urdd annog criw o ferched ifanc i ddod at ei gilydd i lunio’r Neges Heddwch ac Ewyllys Da eleni.

 Mi fydd yr Urdd yn cynnal digwyddiad arbennig yn Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru yn nes ymlaen heddiw, ble mae Deiseb Heddwch 1923-24 yn rhan o arddangosfa ‘Hawlio Heddwch’ ar hyn o bryd.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle