Gwyddoniaeth Pobl Caerfyrddin ar Waith

0
215
By neil gibbs, CC BY-SA 2.0, https://commons.wikimedia.org/w/index.php?curid=12291979

Derbyniodd cynulleidfa niferus mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn Sero ar Fai 7fed adroddiad ar yr afon Tywi. Mae cefndir amrywiol y bobl a fynychodd yn dystiolaeth bod ansawdd dŵr sy’n dirywio yn bwnc llosg sy’n achosi pryder difrifol yn y gymuned.

Fel rhan o fentr Cymdeithas Glan yr Afon Caerfyrddin gyda chefnogaeth Caerfyrddin Gyda’n Gilydd, mae pump ar hugain o ddinasyddion pryderus wedi bod yn profi ansawdd dŵr mewn gwahanol leoliadau ar hyd rhan isaf talgylch Tywi o Lansteffan i Landeilo rhwng mis Chwefror a mis Ebrill.

Cynhaliwyd y cyfarfod i rannu eu data am yr hyn a ddarganfuwyd yn ein dyfrffyrdd. Mynegodd Dr Alissa Flatley o PCYDDS, sydd wedi bod yn cynghori’r grŵp, bryder ynghylch y canfyddiadau.

“Profwyd dros 225 o samplau dŵr yn ystod y prosiect peilot, ac mae’r rhan fwyaf yn dangos lefelau uchel o ffosffadau, nitradau a nitraidau, sy’n mynd y tu hwnt i’r terfynau ar gyfer system afonydd iach. Gan ddefnyddio arbenigedd y dinasyddion-wyddonwyr, cynhaliwyd profion i amlygu ardaloedd penodol sy’n destun pryder yn y dalgylch, a gallwn weld gwahaniaeth sylweddol eisoes yn ansawdd y dŵr i lawr yr afon i’w gymharu â’r ansawdd ymhellach i fyny’r afon. Gellir ymhelaethu ar hyn yn awr yng ngham nesaf y prosiect er mwyn ynysu ardaloedd sy’n achosi pryder, gan helpu i gynhyrchu tystiolaeth y tu hwnt i’r hyn a geir o’r profion cyfyngedig sy’n digwydd dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.”

Ychwanegodd Dr Flatley, “Tra bod y data’n dangos nitradau, nitraidau a ffosffadau uchel, mae’r ffotograffau a’r fideos ychwanegol sydd wedi’u casglu wir yn dangos yn glir sut mae system yr afon yn dirywio ac maent hefyd yn brawf o’r holl sbwriel syn cael ei ollwng iddi.

Soniodd Julie Rees o Gymdeithas Cwrwgl a Rhwydi Caerfyrddin am y rhwystredigaeth sy’n wynebu’r pysgotwyr flwyddyn ar ôl blwyddyn, wrth iddynt barhau i weld ac adrodd am achosion o lygredd sydd naill ai’n cael eu hanwybyddu neu mae’r ymateb yn dod pan fydd hi’n rhy hwyr, pan fo’r gorlif wedi gadael system yr afon.

Cymharodd Tim Prince o Caerfyrddin Gyda’n Gilydd y profion gyda phrwaf anadl wrth ochr y ffordd, lle os byddwch yn methu, byddwch yn derbyn prawf mwy craff yn ôl yn yr orsaf. Mae profion gwyddonol syml gan ddinasyddion wedi rhoi ciplun o gyflwr y dŵr ac nawr y mae angen i’r awdurdodau perthnasol ei gymryd o ddifrif.

Ni fydd y grŵp yn gorffwys ar eu rhwyfau. Mynegodd David Jenkins o Sero, sydd wedi bod yn cydlynu’r prosiect peilot, ei ddiolch i’r gwirfoddolwyr ymroddedig sy’n ymweld â’n hafonydd yn rheolaidd i fonitro ansawdd dŵr ar ran y gymuned. Amlinellodd gynlluniau i ymestyn y profion i ddalgylch Tywi i gyd, ac ychwanegu at yr ystod o dechnegau profi a ddefnyddiwyd hyd yma. “Roedd y naws yn y cyfarfod hwn yn eithaf clir. Bwriad yr ymgyrch hon a arweinir gan y gymuned yw glanhau ein Tywi hardd.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle