Her Tri Chopa Cymru yn codi dros £10,000 i elusen

0
116
Pictured above: The team and staff during their cheque presentation

Cwblhaodd grŵp o ffrindiau her Tri Chopa Cymru mewn llai na 15 awr gan godi swm gwych o £ 15,179 ar gyfer y Tîm Ymateb Acíwt, y Tîm Ymateb Cymunedol a’r Tîm Nyrsio Ardal yng Ngheredigion.

 Bu Dylan Parry, Dafydd Williams, James Williams, Carrie Hermitage, Tony Davies, Mark Lloyd, Eurig Davies, Chris Hill a Gareth Thomas i gyd yn herio Pen y Fan, Cadair Idris a’r Wyddfa er cof am eu ffrind agos Richard Evans a fu farw yn anffodus yn dilyn triniaeth ar gyfer canser.

 Dywedodd Dylan Parry: “Fe ddechreuon ni’r her ar 15 Medi 2023, fe’i cwblhawyd mewn 14 awr 15 munud. Roedd y profiad yn un heriol ac emosiynol iawn i ni i gyd.

“Roedden ni eisiau dangos ein gwerthfawrogiad o’r nyrsys ardal a oedd yn gofalu am Richard gartref. Mae’r math hwn o ofal yn bwysig iawn yng nghefn gwlad Cymru ac roedd Richard yn ddiolchgar iawn am yr ymweliadau cartref a gafodd.

 “Hoffem ddiolch i bawb a roddodd arian i’r achos pwysig hwn, roedd yr ymateb yn anhygoel. Diolch yn arbennig i’r unigolion a’r cwmnïau a noddodd ein her: The Hive Aberaeron, E&M Motor Factor, JWR Rallying, TD Tires Recycling, MSD, I&E Davies Civil Engineering, Station Self Drive, Eugene Mason, Chris Hill. Diolch i’n gyrrwr bws ymroddedig ac i’n teuluoedd am eu cefnogaeth cyn ac ar ôl dringo. Heb y cymorth hwn ni fyddem wedi gallu gwneud yr her.”

 Dywedodd Sian Owen Lewis, Nyrs Arweiniol Clinigol: “Diolch yn fawr i deulu a ffrindiau Richard a aeth gam ymhellach a thu hwnt i godi’r swm anhygoel hwn o arian i Nyrsys Cymunedol Ceredigion a’r Tîm Ymateb Acíwt.

 “Bydd y cyllid yn ein cefnogi i ddarparu gofal i gleifion yn eu cartrefi eu hunain er mwyn osgoi derbyniadau i’r ysbyty a chefnogi rhyddhau o’r ysbyty. Mae’r tîm nyrsio yn hynod ddiolchgar am y rhodd hon, ac yn falch o fod wedi gallu cefnogi Richard a’i deulu yn ystod ei salwch.”

 Dywedodd Bridget Harpwood, Swyddog Codi Arian Ceredigion: “Am swm anhygoel a godwyd! Diolch am ymgymryd â her mor enfawr er cof am Richard.

 “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

 I gael rhagor o fanylion am elusen y GIG a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle