Rhybuddio ffermwyr i beidio â thorri corneli ar ddiogelwch wrth i bwysau gynyddu i gwblhau gwaith

0
162
Capsiwn y llun: Mae Brian Rees, ffermwr sydd hefyd yn hyfforddwr a mentor mewn iechyd a diogelwch gyda Cyswllt Ffermio, yn rhoi cyngor ar rai o'r meysydd allweddol na ddylid eu hanwybyddu yn ystod y broses o drin a chynaeafu y tymor hwn.

Bydd ffermwyr dan fwy o bwysau nag erioed yn ystod y broses o drin a chynaeafu y tymor hwn, ar ôl i’r tywydd heriol oedi gweithredu, ond mae Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru (WFSP) yn rhybuddio na ddylid peryglu iechyd a diogelwch.

O gynnal peiriannau cyn eu bod yn cael eu defnyddio i fod yn ymwybodol o uchder ceblau trydan uwchben, mae ystyriaethau lluosog i ffermwyr ar yr hyn a all fod yn eu misoedd prysuraf.

Mae Brian Rees, ffermwr sydd hefyd yn hyfforddwr a mentor mewn iechyd a diogelwch gyda Cyswllt Ffermio, yn rhoi cyngor ar rai o’r meysydd allweddol na ddylid eu hanwybyddu.

1.     Cynnal a chadw

 Yn aml, hwn fydd y tro cyntaf ers misoedd i rai peiriannau gael eu defnyddio felly bydd angen cynnal asesiadau cynnal a chadw pwysig cyn iddynt gael eu gweithredu.

Gwiriwch frêcs ar dractorau ac offerynnau a phwysedd teiars hefyd.

Seimiwch rannau symudol megis systemau hitsio.

Sicrhewch fod lefelau olew yn uchel fel na chollir pwysedd olew pan fydd y peiriant yn gweithredu.

2.     Stopio’n ddiogel

Wrth barcio cerbyd, defnyddiwch y brêc llaw bob amser, cysylltwch y system gêr mewn niwtral, diffoddwch yr injan a chael gwared ar yr allwedd.

Os oes llwythwr neu offeryn arall ar y blaen, dylech ei ostwng bob amser cyn diffodd yr injan.

3.     Gwirio stociau eitemau yn y cab

Dylai pob cerbyd fferm, o dractorau i gombeiniau, gael pecyn cymorth cyntaf yn eu cabiau a digon o ddŵr yfed hefyd.

Mae gan y rhan fwyaf o bobl ffôn symudol erbyn hyn ac mae’n bwysicach nag erioed i gario hwn yn ystod gwaith yn y caeau.

4.     Gweithio ar eich pen eich hun

 Mae technoleg wedi darparu rhai offerynnau olrhain pwysig i ffermwyr sy’n gweithio mewn lleoliadau ynysig.

Mae apiau fel Find My Friends a Life 360 yn darparu diweddariadau byw ar ble mae’r ffôn – a’r ffermwr – wedi eu lleoli.

Dylai ffermwyr bob amser roi gwybod i rywun ble maent yn gweithio a’r amser y maent yn disgwyl dychwelyd.

 5.     Gweithio ar lethrau

Cadwch gerbydau mewn gyriant pedair olwyn a sicrhewch fod pwysau’r cerbyd ar yr olwynion â gafael – mae hynny’n golygu ar ochr isaf sut mae’r cerbyd wedi’i leoli ar y llethr.

Mae cael y pwysedd teiars cywir yn bwysicach nag erioed wrth weithredu peiriannau ar dir mwy heriol.

Gwisgwch wregys diogelwch bob amser yn y cab.

6.     Defnyddio’r ffordd yn ddiogel

Gall peiriannau mwy o faint grwydro’r briffordd ar ffyrdd deuol felly mae angen cymryd mesurau diogelwch priodol, gan gynnwys cael cerbydau confoi i rybuddio modurwyr eraill.

Mae hyn yn synhwyrol ar ffyrdd llai gwledig er mwyn osgoi tagfeydd neu ddod i gwrdd â cherbydau sy’n dod atoch pan nad oes lle i basio, ac i wirio’r ffordd ymlaen am rwystrau posibl.

Er nad oes unrhyw gyfraith yn pennu pryd y dylai cerbydau sy’n symud yn araf dynnu drosodd i ganiatáu i ddefnyddwyr eraill y ffordd basio, y canllawiau yw gwneud hynny yn y man priodol nesaf pan fydd chwe cherbyd yn eich dilyn.

7.     Cymryd gofal rhag ceblau pŵer uwchben

Rhaid i geblau sydd â hyd at 32 kV o bŵer fod o leiaf 5.2m uwchben y ddaear, a dylai ceblau sydd â hyd at 132 kV o bŵer fod o leiaf 6.7m neu fwy uwchben y ddaear.

Yr hyn nad yw llawer o ffermwyr yn ei ystyried efallai yw y gall ceblau pŵer ostwng yn ystod tywydd poeth, weithiau cymaint â hanner metr, felly mae angen ystyried hyn wrth weithio yn agos atynt.

8.     Gweld ar y briffordd

Yn ôl y gyfraith, rhaid gosod golau sy’n fflachio ar gerbydau fferm pan fyddant yn teithio ar hyd ffordd ddeuol anghyfyngedig, ond mae’n synhwyrol cael hyn ar ffordd wledig hefyd, i rybuddio defnyddwyr eraill y ffordd am gerbyd sy’n symud yn araf.

Efallai y bydd angen ail olau os yw tractor yn tynnu trelar neu beiriant ag ochrau uchel gan y gallai’r golau, y mae’n rhaid ei weld o 360 gradd, gael ei guddio.

Peidiwch byth â defnyddio goleuadau gwaith tractor ar y briffordd yn y nos gan y bydd llewyrch y rhain yn dallu modurwyr sy’n teithio o’ch blaen neu’r tu ôl i chi.

9.     Cadw plant yn ddiogel

Dim ond pan fyddant o dan oruchwyliaeth lawn gan berson cyfrifol nad yw’n rhan o’r tîm gwaith y dylai plant fod mewn man gwaith ar y fferm.

Ni ddylai plant o dan 13 oed reidio yng nghab unrhyw beiriant amaethyddol.

10.  Atal tân

Mae unrhyw lwch neu fanus ar offer cynaeafu yn peri perygl tân felly gwnewch yn siŵr bod unrhyw un o’r rhain yn cael eu chwythu i ffwrdd yn rheolaidd i atal cronni.

11.  Blinder

Gall yr oriau fod yn hir yn ystod tyfu a chynaeafu felly mae’n bwysig bod yn ymwybodol o arwyddion blinder a chymryd seibiant pan fydd y rhain yn dechrau cychwyn.

Gall fod yn synhwyrol i newid y staff sy’n gweithredu peiriannau – er enghraifft mewn sefyllfa gynaeafu, bydd y gweithredwr combein neu beiriant cynaeafu porthiant yn gweithio’n barhaus tra bod y gyrwyr tractor yn cael cyfle i gael seibiant byr rhwng llwythi. Newidiwch rhwng y ddau os oes gan y gyrwyr yr arbenigedd perthnasol.

12.  Amddiffyn rhag gwres a haul

Yn ddelfrydol, mae cynaeafu yn digwydd pan fo’r tywydd yn gynnes a heulog ond gyda gwres a haul daw’r angen am yfed dŵr yn aml ac amddiffyniad rhag yr haul.

Yfwch ddigon o ddŵr, gwisgwch eli haul a het, a chadwch eich breichiau a’ch coesau wedi’u gorchuddio yn ystod rhan boethaf y dydd.

13.  Bod yn weladwy ar yr iard

Sicrhewch fod unrhyw un sydd ar eu traed ac sy’n cyfeirio gyrwyr i mewn i byllau, er enghraifft, yn gwisgo dillad llachar fel y gellir eu gweld yn glir.

Ceisiwch leihau symudiadau gwrthdroi; er na ellir dileu’r rhain yn gyfan gwbl, gellir eu lleihau ac mae hyn yn bwysig gan mai’r lladdwr mwyaf ar ffermydd yw pobl sy’n cael eu rhedeg drosodd neu eu gwasgu gan gerbyd sy’n symud.

Mae larymau gwrthdroi bellach wedi’u gosod ar rai modelau newydd o dractorau a threlars.

I gael rhagor o gyngor, dewch i’n gweld yn nigwyddiad Glaswellt a Thail Cynaliadwy CAFC ar Fferm Trawsgoed ar y 30ain o Fai 2024.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle