Gall pobl sy’n gymwys ar gyfer brechlyn atgyfnerthu COVID-19 y gwanwyn nawr yn gallu mynychu canolfannau galw heibio a dros dro ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro i gael eu brechlyn.
Mae meddygon teulu, fferyllfeydd cymunedol a thimau imiwneiddio’r bwrdd iechyd wedi bod yn darparu’r brechlyn ers 1 Ebrill i’r grwpiau cymwys a ganlyn:
- oedolion 75 oed a hŷn
- preswylwyr mewn cartref gofal i oedolion hŷn
- unigolion 6 mis oed a hŷn sydd ag imiwnedd gwan
Os nad ydych wedi derbyn eich un chi eto, mynychwch un o’n canolfannau brechu galw heibio neu dros dro:
Dros dro:
- Doc Penfro (Canolfan Iechyd Doc Penfro, Stryd y Dŵr, SA72 6DW) – 9.30am i 5.30pm, dydd Gwener 31 Mai a dydd Gwener 7 Mehefin.
- Aberaeron (Clwb Rygbi Aberaeron, Dre-fach, Aberaeron SA46 0JR) – 10am i 5pm, dydd Mawrth 11 Mehefin.
- Llanilar (Canolfan Gymunedol, Yr Hen Ysgol, Llanilar) 10am i 5pm, dydd Mercher 5 Mehefin.
Canolfannau brechu:
- Cwm Cou (Ysgol Trewen, Castell Newydd Emlyn SA38 9PE) – 9am i 5.30pm, dydd Llun i ddydd Gwener (ar gau dydd Llun 27 Mai a dydd Mercher 5 a dydd Mawrth 11 Mehefin).
- Llanelli (Uned 2a, Stad Ddiwydiannol Dafen, Heol Cropin, SA14 8QW) – 9am i 5.30pm, dydd Llun i ddydd Gwener (ar gau dydd Llun 27 Mai).
- Neyland (Uned 1 Parc Manwerthu Honeyborough, SA73 1SE) – 9am i 5.30pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener (ar gau dydd Llun 27 Mai, dydd Gwener 31 Mai a dydd Gwener 7 Mehefin).
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y brechlyn neu a ydych yn gymwys, mae croeso i chi gysylltu â’r bwrdd iechyd ar 0300 303 8322 neu drwy e-bostio ask.hdd@wales.nhs.uk a byddwn yn hapus i helpu.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle