Rhoddion elusennol yn ariannu offer oeri croen y pen i atal colli gwallt i gleifion canser

1
201
Pictured, left to right: Jennifer Hernandez, Staff Nurse; Meredith Jenkins, Acute Oncology Clinical Nurse Specialist; Sister Pauline Richmond, and Gemma Thomas, Health Care Support Worker, with the new scalp cooler at Prince Philip Hospital

Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda – elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Hywel Dda – wedi ariannu peiriant oeri croen y pen newydd gwerth dros £20,000 ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip, ac wedi darparu dros £8,500 i ariannu gwaith cynnal a chadw a hyfforddiant yn ysbytai Bronglais, Glangwili, Tywysog Philip a Llwynhelyg.

Mae oeri croen y pen yn cynnig cyfle i gleifion canser leihau’r golled gwallt a brofir yn ystod cemotherapi. Mae’r driniaeth yn gweithio trwy leihau tymheredd croen y pen claf ychydig raddau yn union cyn, yn ystod ac ar ôl cael cemotherapi. Mae hyn yn lleihau’r llif gwaed i ffoliglau gwallt, a all atal neu leihau colli gwallt.

Ar hyn o bryd mae dwy system oeri croen y pen yn Ysbyty Tywysog Philip. Fodd bynnag, yn ddiweddar bu cynnydd sylweddol yn y galw am yr offer hwn. Bydd y peiriant newydd yn cynyddu argaeledd y gwasanaeth oeri croen y pen ac yn helpu i atal oedi cyn i gleifion ddechrau eu cemotherapi.

Dywedodd Bry Phillips, Uwch Reolwr Nyrsio – Oncoleg: “Rydym yn hynod ddiolchgar bod rhoddion caredig wedi ariannu’r offer oeri croen y pen newydd yn Ysbyty Tywysog Philip, a chynnal a chadw offer a hyfforddiant yn holl ysbytai acíwt Hywel Dda.

“Gall y posibilrwydd o golli gwallt achosi cryn bryder. Gall y cyfle i gadw gwallt yn ystod triniaeth roi cyfle i bobl gadw ymdeimlad o breifatrwydd a theimlo’n debycach i’w hunan arferol ar adeg anodd iawn.

“Ein nod yw ychwanegu gwerth at wasanaethau lleol y GIG trwy ddefnyddio ein rhoddion elusennol yn ddoeth i helpu i wella profiad y rhai sy’n cael yr hyn a all fod yn driniaeth lafurus.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle

1 COMMENT

  1. These lovely ladies,look after me when I have chemotherapy. I can’t praise them enough!! Caring and lovely!

Comments are closed.