Gwnaeth myfyrwyr galluog ddangos rheolaeth a strategaeth i ennill rownd derfynol twrnamaint E-chwaraeon epig.

0
129
Cambria Chimeras

Daeth criw buddugoliaethus Cambria Chimeras, bob un ohonyn nhw’n ddysgwyr Lefel 2 a Lefel 3 mewn E-chwaraeon yng Ngholeg Cambria Glannau Dyfrdwy, yn fuddugol yng Nghwpan y Gwanwyn Apex Legends.  

Gwnaeth y sgwad o dri – Oliver Pearce, Kyle Tarran ac Owen Maynard – guro’r timau eraill o hyd a lled y wlad, gan gynnwys timau coleg a phrifysgol.

Disgrifiodd British Esports y gwpan fel “un o’r cwpanau fwyaf cyffrous rydyn ni erioed wedi’i gynnal.” 

“Roedd y rownd derfynol yn anhygoel, roedd yn dilyn wythnosau o strategu a chyd-weithio i fynd drwy’r rowndiau,” meddai Oliver, o Wrecsam.

Cambria Chimeras

“Rydyn ni wrth ein bodd wrth ystyried faint rydyn ni wedi’i roi i mewn i hyn ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gystadlu mewn twrnameintiau yn y dyfodol.”

Yn ôl y sôn mae Kyle, o Gei Connah, wedi’i enwi fel y gorau yn y DU – roedd dros 40 o grwpiau i’w llywio – dywedodd roedd yn “deimlad anhygoel” a’u bod nhw wedi’u disgrifio fel cystadleuwyr annisgwyl y gystadleuaeth.

Ychwanegodd Owen sy’n fyfyriwr o Bentre Helygain: “Mi wnaethon ni i gyd chwarae i’n cryfderau ac er bod heriau’n codi weithiau ac roedd yna bwysau mawr arnom ni, mi wnaethon ni weithio’n galed i ennill y gwpan.

“Roedden ni’n cystadlu yn erbyn timau enwog, colegau sydd ag enw da gyda llawer o gefnogaeth y tu ôl iddyn nhw, felly mae’n gyflawniad enfawr i ni.”

Cambria Chimeras

Daw’r llwyddiant wrth i Cambria baratoi i ddatgelu ardal gemau newydd werth £230,000 ar ei safle yn Sir y Fflint a fydd yn agor yn yr haf eleni.

Mae Lauren Crofts sy’n ddarlithydd yn y coleg yn canmol ei myfyrwyr am eu perfformiad gwerth chweil yng Nghwpan y Gwanwyn a dywedodd hi fod llawer o bethau cyffrous ar y gweill ar gyfer y rhaglen E-chwaraeon.

“Mi wnaethon nhw roi llawer o’u hamser eu hunain ac ymdrech i mewn i hyn, gan edrych ar strategaethau a dulliau chwarae, ac mi wnaethon nhw weithio’n dda iawn gyda’i gilydd fel tîm,” meddai hi. 

“Dwi mor falch o bob un ohonyn nhw, maen nhw’n glod i Goleg Cambria ac yn edrych ymlaen yn barod at y twrnamaint nesaf!” 

Ychwanegodd hi: “Mae’r cwrs E-chwaraeon wedi bod yn boblogaidd iawn dros y blynyddoedd diwethaf ac mi fydd y buddsoddiad grant yma yn ein galluogi ni i gyflwyno dwy ardal chwarae gemau  newydd, ac mi fydd un ohonyn nhw’n ardal berfformio Sim Racing.

Cambria Chimeras

“Mi fydd yr un arall yn rhoi rhagor o le i ni edrych ar sylwebu ffrydio cyfryngau byw, datblygu sgiliau eraill a chreu gemau, gan ddefnyddio’r lle a chyflwyno technoleg o’r radd flaenaf, yn ogystal â chyflwyno E-chwaraeon i ysgolion cynradd ac uwchradd i esbonio’r ystod eang o yrfaoedd sy’n bodoli yn y diwydiant yma.

“Rydyn ni’n cael llawer o adborth cadarnhaol a diddordeb gan ddarpar fyfyrwyr felly mi fydd hyn yn bwynt gwerthu unigol sylweddol i ni – mi fydd o’n anhygoel.”

Ychwanegodd Lisa Radcliffe, Pennaeth Cynorthwyol Astudiaethau Technegol: “Dwi mor falch o’n dysgwyr E-chwaraeon sydd wedi dangos gwytnwch gwirioneddol,  cydweithredu, a chydweithio trwy gydol y gystadleuaeth yma – mae dod yn bencampwyr yn gyflawniad arbennig.

“Trwy gydol y rhaglen rydyn ni wedi annog rhyngweithio cymdeithasol a datblygu sgiliau rhyngbersonol mewn dysgwyr a allai gael eu gadael allan yn gymdeithasol. Mae’n rhaglen gyffrous gyda’n hardal chwarae gemau newydd yn cael ei hagor ym mis Medi, yn barod i ddatblygu ein pencampwyr newydd.”

Mae E-chwaraeon yn sector ffyniannus sydd werth biliynau o ddoleri ac mae Cambria Chimeras wedi cael ymweliadau o sgowtiaid talent sy’n cynrychioli rhai o sefydliadau gemau a thimau proffesiynol mwyaf blaenllaw’r byd, fel Excel Esports.

I gael rhagor o wybodaeth am E-chwaraeon yng Ngholeg Cambria, ewch i’r wefan: www.cambria.ac.uk.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle