Trafnidiaeth Cymru yn lansio Prentisiaeth Gradd Peirianneg Rheilffyrdd

0
125
Railway Engineering Degree Apprenticeship

Trafnidiaeth Cymru yw’r cwmni trafnidiaeth cyntaf yng Nghymru i lansio Rhaglen Prentisiaeth Gradd Peirianneg Rheilffyrdd.

Mae’r rhaglen 4 blynedd yn brosiect ar y cyd rhwng TrC, Prifysgol De Cymru, Llywodraeth Cymru a Choleg y Cymoedd, a bydd yn cynnwys dysgu yn seiliedig ar waith wrth astudio gradd yn rhan-amser yn y brifysgol.

Mae dwy swydd wag ar gael, un yng nghartref newydd Metro De Cymru yn Ffynnon Taf a’r llall yn nepo Treganna.

Diolch i gyllid Llywodraeth Cymru, ni fydd rhaid i brentisiaid dalu ffioedd dysgu, ac mae’r rôl yn cynnig Cyflog Byw Cenedlaethol i ymgeiswyr tra’n dysgu.

Bydd ymgeiswyr sy’n llwyddo i gwblhau’r rhaglen pedair blynedd hon yn derbyn gradd BSc (Anrh) Peirianneg Rheilffyrdd (Systemau Electrofecanyddol ac Electroneg) yn ogystal â chyfoeth o brofiadau gwaith galwedigaethol.

Video:  https://newyddion.trc.cymru/newyddion/trafnidiaeth-cymru-yn-lansio-prentisiaeth-gradd-peirianneg-rheilffyrdd 

 

Dywedodd Marie Daly, Prif Swyddog Cwsmeriaid a Diwylliant TrC:

“Yma yn Trafnidiaeth Cymru, rydym wrthi’n trawsnewid trafnidiaeth i bobl Cymru, a thrwy wneud hyn, rydym yn darparu mwy o gyfleoedd ac yn gwella ansawdd bywyd pobl.

“Wrth i ni fwrw ymlaen â’r nod hwn, rydym yn recriwtio ac yn uwchsgilio ein gweithlu yn barhaus, a thrwy weithio ar y cyd, gallwn gynnig y Rhaglen Brentisiaeth Gradd Peirianneg Rheilffordd hon i’r ymgeiswyr cywir.

“Mae’n gyfle gwych i ennill cyflog wrth ddysgu ac mae’n helpu i ddylanwadu ar gyfeiriad y diwydiant rheilffyrdd yng Nghymru yn y dyfodol.”

Mae amrywiaeth yn hynod bwysig i TrC ac rydym yn annog menywod a grwpiau na chânt eu cynrychioli’n ddigonol i ymgeisio ac ystyried gyrfa ym maes trafnidiaeth – fel ein bod yn adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu’n well.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle