Opera Canolbarth Cymru yn gofyn i’w gefnogwyr am help ar ôl i Gyngor Powys daflu rhaff achub

0
158

Mae Opera Canolbarth Cymru, oedd dan fygythiad o gau o ganlyniad i doriadau Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cael rhaff achub hanfodol ar ffurf cyllid o £75,906 gan raglen cyllid grant Cyngor Powys, sydd â’r nod o gefnogi a thrawsnewid y diwydiannau creadigol yn y rhanbarth. Mae’r cwmni bellach yn gofyn i’w gefnogwyr niferus a phawb sy’n gweld gwerth cynnal opera fyw yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig eu helpu i ail-gychwyn eu gwaith.

Llwyddodd Cyngor Powys i sicrhau £675,000 gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU yn gynharach eleni. Mae’r cyllid hwn wedi ei neilltuo ar gyfer meithrin gwytnwch, cynaliadwyedd ac arloesedd o fewn sector y celfyddydau ar draws y sir.

Ymhlith y buddiolwyr, mae Opera Canolbarth Cymru (OCC) wedi derbyn £75,906. Sefydlwyd OCC yn 1989, ac mae gan y cwmni hanes cyfoethog o gynhyrchu operâu teithiol ledled Cymru a chefnogi datblygiad gyrfa artistiaid ifanc yn gynnar yn eu gyrfa broffesiynol. Bydd y cyllid hanfodol hwn yn cadw taith OCC i fynd, gan helpu’r cwmni i ailddiffinio ei genhadaeth, ailasesu ei fodel busnes, ac edrych ar ddulliau ariannu newydd. O ganlyniad i’r cyllid hwn gan Gyngor Powys, dim ond tua £50,000 yn brin yw eu cyllideb er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy am o leiaf tair blynedd, sy’n seiliedig ar daith flynyddol ‘LlwyfannauLlai’ a gwaith addysg ac allgymorth cysylltiedig, gyda’r posibilrwydd o ychwanegu amrywiaeth o brosiectau newydd cyffrous.

Nawr, mae OCC yn lansio apêl frys i godi arian er mwyn llenwi’r bwlch hwn. Nod yr apêl, sy’n cynnwys tudalen roddion CAF benodol ar eu gwefan, yw codi’r arian angenrheidiol yng ngoleuni’r newyddion am grant Powys a dwy rodd bersonol hael sy’n dod i gyfanswm o £15,000.

Datganiad gan Gareth Williams, Cadeirydd y Bwrdd: ‘’Dim ond ychydig fisoedd yn ôl, roeddem yn ofni na fyddai gennym ddewis ond rhoi’r gorau i’n gwaith ar ôl un cynhyrchiad olaf yr hydref hwn. Ond nawr, rydym o fewn pellter cyffwrdd o allu gweithredu rhaglen waith tair blynedd, yn seiliedig ar ein teithiau LlwyfannauLlai poblogaidd, ynghyd â’n gwaith mewn ysgolion i gyflwyno’r ffurf wych hon ar gelfyddyd i blant a phobl ifanc. Y cyfan sydd ei angen arnom er mwyn gwneud i hyn ddigwydd yw codi £50,000 ychwanegol dros y naw mis nesaf, a – diolch i haelioni enfawr dau roddwr dienw – rydym eisoes draean o’r ffordd yno! Mae’r anogaeth a’r gefnogaeth anhygoel rydym ni wedi’u derbyn dros y chwe mis diwethaf wedi creu argraff fawr arnom – nawr dim ond troi rhywfaint o hynny yn arian sydd ei angen! Ac os gallwn ni godi mwy na’n targed, mae gennym fwy o brosiectau cyffrous mewn golwg!’

Mae Opera Canolbarth Cymru (OCC) yn ymroddedig i gynhyrchu perfformiadau opera o ansawdd uchel dros ganolbarth Cymru. Ers ei sefydlu ym 1989, mae OCC yn rhan allweddol o’r gwaith o feithrin artistiaid ifanc a gwneud opera yn hygyrch i gynulleidfa ehangach. Os hoffech chi eu cefnogi ewch i’w gwefan i wneud cyfraniad neu chwiliwch amdanynt ar y cyfryngau cymdeithasol.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle