PLAID YN RHYBUDDIO O FYGYTHIAD I GYMRU WLEDIG YN SGIL EFFAITH BREXIT Y CEIDWADWYR

0
92

Heddiw mae Plaid Cymru wedi annog cymunedau gwledig Cymru i gefnogi ei blaid yn yr Etholiad Cyffredinol ar 4ydd Gorffennaf i warchod rhag ‘etifeddiaeth niweidiol’ Brexit y Torïaid.

Dywedodd Ann Davies mai mantra Plaid Cymru ar gyfer cefn gwlad oedd “amddiffyn, cadw a hyrwyddo”, a gosododd rai o addewidion gwledig allweddol ei blaid ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol.

Dywedodd ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer Caerfyrddin, Ann Davies:

“Mae’n anodd cofio cyfnod mwy heriol i’r sector amaethyddol.

“Mae’r ergyd a gafodd ei daro gan Brexit ac addewid toredig y Torïaid o ‘ddim ceiniog yn llai’ yn golygu bod ein ffermwyr bellach wedi’u llorio â gwaddol niweidiol brad y Ceidwadwyr.

“Erbyn y flwyddyn nesaf, bydd Llywodraeth y DU wedi torri tua £290 miliwn o’r gyllideb amaethyddol o’i gymharu â’r hyn roedden ni’n arfer ei gael gan yr UE cyn Brexit, gyda llawer o sectorau o fewn y diwydiant yn wynebu mwy, nid llai, o rwystrau.

“Dim ond un enghraifft yw cynhyrchu bwyd. Ar hyn o bryd, mae elfen echdynnol i gynhyrchu yng Nghymru o ganlyniad i allu prosesu lleol gwael. Dyna pam mae Plaid Cymru eisiau gwella cadwyni cyflenwi lleol i sicrhau bod gwerth y bwyd yn aros o fewn cymunedau lleol.

“Yn ystod refferendwm yr UE fe wnaeth y Torïaid addo ‘torri biwrocratiaeth’ ond mae realiti’r dirwedd ôl-Brexit yn golygu bod y diwydiant bellach yn wynebu mwy o wiriadau, mwy o rwystrau, a mwy o oedi tra bod cystadleuwyr ar y cyfandir yn cael mynediad dilyffethair i’r DU. . Mae “Dim Ffermwyr Dim Bwyd” yn realiti llawn cymaint ag y mae’n gri ralïo bwerus.

“Dyna pam y bydd Plaid Cymru bob amser yn gwneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi mesurau sy’n sicrhau bod rheoliadau cynhyrchu bwyd yn deg i’r ffermwr a’r defnyddiwr.

“Mae’r cyd-destun ehangach yng Nghymru yn yr Etholiad Cyffredinol hwn yn un o effeithiau tanseilio cytundebau masnach newydd, cynnydd mewn costau ffermio, rheoliadau NVZ Llywodraeth Lafur Cymru a’r methiant i fynd i’r afael â TB mewn bywyd gwyllt – y mae pob un ohonynt yn cael ei deimlo’n llym o fewn y gymuned ffermio.

“Mae Plaid Cymru hefyd yn croesawu saib Llafur i adolygu’r broses o gyflwyno’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yng Nghymru – galwad a wnaethom beth amser yn ôl – sy’n amlwg yn gofyn am fwy o ymgynghori â ffermwyr ynghylch y ffordd orau o gyflawni ei nodau.

“Yn olaf, mae’n rhaid i’r ‘premiwm gwledig’ lle gall byw mewn ardaloedd gwledig gostio mwy na byw mewn ardaloedd trefol tra bod gwasanaethau ar gael yn llai rhwydd ddod yn beth o’r gorffennol os ydym am sicrhau dyfodol hyfyw a chynaliadwy. Bydd ein haddewid i gynyddu meddygon teulu yng Nghymru yn helpu cymunedau i gael mynediad at y gofal iechyd sydd ei angen arnynt, tra byddwn yn gweithio i fuddsoddi yn y stryd fawr leol i gadw siopau ar agor.

“Amddiffyn, cadw a hyrwyddo yw mantra Plaid Cymru pan ddaw i’n cefn gwlad.

“Bydd pleidlais i Blaid Cymru ar 4 o Gorffennaf yn bleidlais i gefnogi cymunedau gwledig i gynnal eu diwylliant a’u ffordd o fyw, gan warchod rhag bygythiad deublyg y Torïaid a Llafur.”

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle