Ymateb cymysg i’r ymgynghoriad ar y flwyddyn ysgol

0
175

  • Ni fydd cynlluniau i newid y flwyddyn ysgol yn digwydd yn ystod tymor y Senedd hon er mwyn caniatáu i ysgolion gyflawni diwygiadau eraill a gwella cyrhaeddiad.
  • Bydd y penderfyniad ynghylch yr amserlen yn cael ei ohirio tan dymor nesaf y Senedd.
  • Cadarnhad na fydd newidiadau i’r flwyddyn ysgol yn digwydd yn 2025/2026

Heddiw (Dydd Mawrth 4 Mehefin] mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cadarnhau na fydd cynlluniau i newid gwyliau’r ysgol yn digwydd yn ystod tymor y Senedd hon er mwyn rhoi cyfle ac amser i athrawon a staff gyflwyno diwygiadau eraill.

Daw’r penderfyniad yn dilyn ymateb cymysg i ymgynghoriad addysg mwyaf erioed Llywodraeth Cymru, a ddenodd ymhell dros 16,000 o ymatebion, a oedd yn gofyn am farn ar newid calendr yr ysgol i wasgaru’r gwyliau ysgol yn fwy cyfartal drwy gydol y flwyddyn.

Roedd y cynigion yn awgrymu symud wythnos o ddechrau gwyliau’r haf i wyliau’r hydref gan greu pythefnos o wyliau hanner tymor i wella profiadau addysg pobl ifanc, yn enwedig y rhai mwyaf difreintiedig, ac i fod yn fwy cyson â’r ffordd y mae teuluoedd yn byw ac yn gweithio.

Er bod mwyafrif bach iawn o’r ymatebion o blaid newid y gwyliau ysgol, roedd canfyddiadau’r ymgynghoriad yn amwys ac yn gwrth-ddweud ei hun, sy’n dangos bod angen rhagor o drafod ac archwilio i sicrhau bod unrhyw newidiadau yn y dyfodol o fudd i bawb.

Bydd y saib hefyd yn caniatáu i ddiwygiadau eraill, fel y Cwricwlwm i Gymru newydd a’r diwygiadau i Anghenion Dysgu Ychwanegol, gael eu gweithredu a’u cyflwyno’n llawn cyn cyflwyno newidiadau pellach.

Bydd y penderfyniad ynghylch amseriad y cynlluniau yn cael ei ohirio hefyd i dymor nesaf y Senedd.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:

“Rwy’ bob amser yn dechrau drwy edrych ar les plant a phobl ifanc. Mae hynny’n golygu sicrhau bod unrhyw ddiwygiadau wedi’u cynllunio’n briodol a’u bod yn cael y cyfle a’r amser i lwyddo.

“Roedd amrywiaeth barn sylweddol ar y mater hwn. Er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud hyn yn iawn, mae angen i ni barhau i drafod a gwrando ar ysgolion, athrawon ac undebau yn ogystal â phlant, pobl ifanc a rhieni ar y ffordd orau o weithredu unrhyw newidiadau yn y dyfodol.

“Rwy’n ymwybodol iawn ein bod yn gofyn llawer gan athrawon ac ysgolion. Maen nhw’n cefnogi ein huchelgais i drawsnewid addysg yng Nghymru ac mae angen amser a chyfle arnyn nhw i sicrhau bod y diwygiadau hyn yn cyflawni ar gyfer plant a phobl ifanc. Rwy’ am roi blaenoriaeth i’r diwygiadau sy’n mynd rhagddynt i ysgolion a gwella cyrhaeddiad, felly ni fydd unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud i’r flwyddyn ysgol yn ystod tymor Senedd hon.

“Yn y cyfamser, ein blaenoriaeth fydd rhoi’r gefnogaeth fwyaf bosib i ddysgwyr yn ystod gwyliau’r haf, gan gynnwys gwneud mwy i dargedu’r ddarpariaeth honno tuag at y cymunedau tlotaf drwy ystod o bolisïau a gweithgareddau, gan gynnwys y Rhaglen Gwella’r Gwyliau’r Haf ac Ysgolion Bro.”

Bydd dyddiadau tymhorau 2025/2026 yn cael eu cyhoeddi gan yr awdurdodau lleol yn fuan.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle