Mae Sir Gaerfyrddin yn dathlu cysylltiadau cymunedol yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr 2024.

0
233

Mae digwyddiadau cymunedol CAVS trwy gydol Wythnos Gwirfoddolwyr eleni yn cefnogi ymgyrch ‘Rydym Gyda Chi’. Fel ymgyrch denu gwirfoddolwyr, mae’n ffordd o godi proffil gwirfoddoli ledled Sir Gaerfyrddin, ac eiriol dros bobl gyffredin, cymunedau ac elusennau/grwpiau lleol. Mae hon yn berthynas ddeinamig rhwng rhannau hollbwysig sy’n cyfuno i gefnogi’r sir gyfan.

Dechreuodd yr ymgyrch, a lansiwyd ar ddiwedd 2023, gyda chalendr adfent 26-diwrnod sydd i’w weld ar Lwyfan Cysylltu Sir Gâr <https://connectcarmarthenshire.org.uk/campaign/we-are-with-you> a gwefan CAVS <https://cavs.org.uk/volunteering/celebrating-volunteering/we-are-with-you/>:  rhannwyd syniadau am anrhegion Nadolig am brisiau rhesymol ynghyd â chlip digidol gan wirfoddolwyr oedd yn siarad am y pethau sy’n bwysig iddyn nhw, sut maen nhw’n cynnig help i’w cymunedau a’r elusen/grŵp yr oeddent wedi dewis eu cefnogi.

“Mae gwirfoddoli yn cryfhau’r hyn sydd gennym yn barod – ein cryfderau a’n galluoedd sylfaenol, ein diddordebau a’n syniadau, ein gwybodaeth a’r pethau sy’n mynd â’n bryd. Mae gwirfoddoli yn cefnogi ein hymdeimlad o gymuned, ein teyrngarwch i gyfeillion a chymdogion ac mae’n defnyddio’r peth mwyaf sydd gennym, sef ‘amser’ i gryfhau ac ychwanegu at y dyheadau hyn”, meddai Jamie Horton, Swyddog Datblygu Gwirfoddoli Cymunedol gyda CAVS.

“Rwyf wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid Cysylltu Sir Gâr i ddangos sut all gwirfoddoli rymuso pobl a chefnogi ein sir i fod yn fwy cydnerth. Er ein bod yn dibynnu fwyfwy ar garedigrwydd dieithriaid, mae’n bwysig ein bod yn rhannu’r argraff a wnânt, a dathlu eu cyfraniadau i’n cymdeithas, i’r economi leol a gwasanaethau i’r dyfodol”.

Mae Robert Ramsaha-Southall, Swyddog Ymchwil Ymgysylltu Cymunedol gyda’r asiantaeth arweiniol, Nacro Cymru, yn parhau “Mae cyfres Digwyddiadau Dathlu Gwirfoddoli ‘Rydym Gyda Chi’ yn gyfleoedd delfrydol i ddod â gwirfoddolwyr at ei gilydd i ddathlu eu hymroddiad anhunanol i’r darparydd/wyr maen nhw’n eu cefnogi. Nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn chwilio am unrhyw gydnabyddiaeth, ond hebddynt ni fyddai’r rhan fwyaf o ddarparwyr yn gallu rhoi’r un lefel o gefnogaeth i bobl yn Sir Gaerfyrddin.  Mae hynny’n arbennig o wir yng nghefn gwlad. Rydym eisiau dweud diolch am hynny.”

Mae Geena Ware, Swyddog Prosiect Ymgysylltu Cymunedol gyda’r ail asiantaeth arweiniol, Pobl Group, hefyd yn credu ei bod yn  ‘wych gweld cymunedau’n dod at ei gilydd mewn digwyddiadau fel hwn i godi ymwybyddiaeth o’r holl bethau sy’n digwydd yn lleol. Mae’r digwyddiad yng Nghanolfan Gymunedol Cwmaman ar Fehefin 7fed, er enghraifft, yn cefnogi eu hymgysylltiad cymunedol rheolaidd ar ddydd Gwener, ac mae’n fraint inni gael cefnogi eu hymrwymiad i wirfoddoli lleol. Mae ychwanegu at yr hyn sy’n gweithio’n dda, law yn llaw ag agwedd gadarnhaol at gyd-gynhyrchu, yn hanfodol wrth inni geisio dod o hyd i’n ffordd drwy’r argyfwng presennol o ran gwirfoddoli”.

Mae’r ymgyrch yn parhau yn 2024 ac mae’n cynnwys pum digwyddiad cymunedol ar draws y sir lle y bydd partneriaid  Cysylltu Sir Gâr, Nacro, Pobl, Age Cymru Dyfed, Mencap, Mind Sir Benfro/Sir Gaerfyrddin, The Wallich, gydag aelodau o dîm CAVS a Connect Sir Gaerfyrddin  – yn cynnig cyfleoedd i bobl gyfarfod gyda nifer o elusennau/grwpiau all eu cefnogi i ddod o hyd i rôl sy’n cynnal a meithrin eu diddordebau eu hunain. Bydd y digwyddiadau’n cynnwys gweithgareddau diolch yn fawr, gwesteion arbennig, lluniaeth am ddim ac mae’n agored i bawb – boed yn gwirfoddoli ar hyn o bryd, yn meddwl gwirfoddoli neu’n awyddus i gael gwybod mwy. Yn y bôn mae’r digwyddiadau hyn ar eich cyfer CHI felly da chi dewch i gael golwg arnyn nhw. Fe fydd tystysgrifau’n cael eu cyflwyno i wirfoddolwyr, lle i gael sgwrs â phobl o’r un anian â chi a gallwch hefyd siarad ag aelodau o dîm Cysylltu Sir Gâr, CAVS a grwpiau sy’n gweithio yn eich cymuned.

  1. Neuadd San Pedr, Caerfyrddin Dydd Mawrth 4ydd Mehefin 10-2.
  2. Tref Hendy-gwyn Dydd Mercher 5ed Mehefin 9.30-2.30.
  3. Neuadd Llandysul, Dydd Iau 6ed Mehefin 11-1.
  4. Sied Nwyddau Llanelli Dydd Gwener 7fed Mehefin 11-2.
  5. Canolfan Gymunedol Glanaman Dydd Gwener 7fed Mehefin 10-2.

Mae’r Cynghorydd Sir Sue Allen yn eiriolydd angerddol dros wirfoddoli ac mae’n deall yr effaith all gael ar gydlyniant a chydnerthedd cymunedol. “Mae’n ddiau mai asgwrn cefn Hendy-gwyn yw ei gwirfoddolwyr. Maen nhw’n cefnogi’r holl chwaraeon, y caeau chwaraeon, treftadaeth, neuaddau cymunedol prysur, banc bwyd, y siop elusen ar gyfer cathod, a siop lyfrau. Mae Côr Meibion Hendy-gwyn dros 100 mlwydd oed ac mae wedi difyrru a chodi arian i elusennau lleol yn ystod sawl cyfnod anodd. Mae grwpiau Cenedlaethol a Rhyngwladol fel Clwb Rotari Arberth a Hendy-gwyn, Sefydliad y Merched, Y Ford Gron, Merched y Wawr, y Corfflu Hyfforddiant Awyr a’r Ffermwyr Ifanc oll yn cael eu cynrychioli yn nhref Hendy-gwyn. Mae’r Gwasanaeth Tân bob tro’n fodlon cefnogi digwyddiadau cymunedol yn eu hamser personol, heb anghofio’r bobl ifanc sy’n ymfalchïo yn eu cymuned ac yn mynd ati’n ddisylw i hel sbwriel neu helpu pobl gyda biniau gwastraff bwyd. Mae’r ddwy ysgol yn cynnig amser staff a disgyblion, y tu allan i oriau ysgol, i gefnogi digwyddiadau a gweithgareddau cymunedol yn rheolaidd.

Roedd penllanw gwaith gwirfoddol yn amlwg iawn yng Ngŵyl Bwyd Stryd anhygoel Hendy-gwyn ar Fai’r 5ed a drefnwyd gan Joseff Edwards ar ran y Gemma Harries Memorial CIC  sy’n cefnogi elusennau lleol a chenedlaethol. Roedd yn ddigwyddiad arbennig a fwynhawyd gan gannoedd ar gannoedd o ymwelwyr a ddangosodd Hendy-gwyn ar ei gorau. Rydym yn edrych ymlaen at ddigwyddiad ‘Rydym Gyda Chi’ ar ddydd Gwener y 5ed ac yn falch iawn y defnyddir Neuadd y Dref a’r Neuadd Goffa”.

Mae ‘gwirfoddoli’ a ‘chynnig help llaw’ yn cefnogi diwydiant trydydd sector enfawr o ‘gefnogaeth gymunedol’ ac rydym eisiau dweud diolch. Mae’r ‘cwtsh cymunedol’ yn haeddiannol iawn a chan ein bod yn dathlu 40 mlwyddiant Wythnos Gwirfoddolwyr, rydym yn gobeithio y gallwch gefnogi ymgyrch ‘Rydym Gyda Chi’. Os ydych yn gwirfoddoli, beth am wneud clip digidol am pam rydych yn gwirfoddoli fel y gallwn ei ychwanegu at y casgliad fydd yn cael ei rannu yn ystod wythnos gyntaf Mehefin – cysylltwch â Jamie.horton@cavs.org.uk i gael mwy o fanylion.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle