Mae prentis dawnus wedi cael blas o lwyddiant yng nghystadleuaeth Cacen Orau Prydain cyntaf erioed.

0
230
Naomi Spaven

Enillodd Naomi Spaven, sy’n ddysgwr yng Ngholeg Cambria, ac yn dod o’r Wyddgrug, y categori Cacen Ffrwythau gyda Bara Brith blasus siocled tywyll, oren a sinsir.

Mae Naomi yn gweithio fel prif bobydd yn Wylde Bakery yn Bebington, a chafodd hi ei henwi yn rownd derfynol Seren ar ei Chynnydd gan y BIA (Gwobrau’r Diwydiant Pobi).

Naomi Spaven

Ar hyn o bryd mae hi’n astudio Prentisiaeth Lefel 3 gyda’r coleg, ac roedd Daryl Stephenson, asesydd dysgu yn y gwaith Cambria ac un o’r enwau mwyaf eu parch yn y diwydiant gyda dros 20 mlynedd o brofiad, yn feirniad yn y digwyddiad – a gafodd ei gynnal yn NEC Birmingham

Penderfynodd hi fynd ar drywydd pobi ar ôl colli ei mam dair blynedd yn ôl, ac roedd hi wrth ei bodd i ennill yr adran ac i orffen yn ail yn gyffredinol.

“Roeddwn i wrth fy modd fy mod i wedi ennill y Gacen Ffrwythau Orau, yn enwedig gyda Bara Brith!” meddai hi.

“Dwi wedi gwneud y gacen yma gymaint o weithiau dros y blynyddoedd a dwi mor falch bod y beirniaid wedi mwynhau bwyta’r gacen gymaint â mi wnes i fwynhau ei phobi.

“Mae’r gefnogaeth dwi wedi’i chael gan Daryl a’r coleg wedi bod heb ei hail, a buasai gen i ddim syniad bod y cystadlaethau yma yn bodoli heb ei arweiniad. Mae wedi bod yn wych cael astudio cymhwyster wrth weithio hefyd.

Dwi wedi dechrau cynllunio’r hyn dwi am ei bobi yn barod at gystadleuaeth flwyddyn nesaf yn barod!”

Daryl Stevenson

Dywedodd Daryl, sy’n ymweld â hi yn rheolaidd yng Nghilgwri i asesu ei chynnydd a chefnogi ei thaith academaidd, ei bod hi’n “seren y dyfodol”.

“Yn amlwg mi wnes i ddim beirniadu categori Naomi ond mi roeddwn i yno yn taro golwg ar y cystadleuwyr eraill ac mi roedd hi ymysg y goreuon,” meddai.

“Roedd hi’n bleser gweld pa mor ddawnus, gweithgar ac angerddol mae hi, ac mae hi wedi dod yn ei blaen yn sylweddol mewn dim ond ychydig o flynyddoedd ac yn gwneud ei marc yn y DU ac ar y llwyfan ryngwladol.”

Ychwanegodd Daryl, o Riwabon: “Roedd hi’n fraint cael bod ar y panel beirniadu, yn enwedig gan mai dyma’r tro cyntaf i British Baker gynnal y gwobrau yma, ac roedd cael un o’n myfyrwyr ni ymysg yr enillwyr yn hollol wych!”

Mi fydd Naomi yn dechrau swydd newydd ym Mwyty Iâl Cambria yn Wrecsam, fel prif bobydd a chef patisserie.

I weld rhagor ar Wobrau’r Diwydiant Pobi, ewch i’r wefan: Baking Industry Awards 2024 – Homepage (bakeryawards.co.uk)

Ewch i www.cambria.ac.uk i weld y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle