Mewn ymateb i sylwadau a wnaed gan Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Drafnidiaeth, Ken Skates, yn ystod cyfweliad ar Politics Wales (9/6/24) ynghylch dyfodol Vaughan Gething fel Prif Weinidog, dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru:
“Mater i Lafur yw p’un a yw Vaughan Gething yn parhau i fod yn Brif Weinidog, ond mae’n destun gofid mawr fod gennym Ysgrifennydd Cabinet yn ceisio gwneud y pwynt heddiw bod Plaid Cymru yn chwarae gwleidyddiaeth gyda’r mater hwn, pan mai Llafur sy’n tanseilio democratiaeth wrth wrthod cydnabod pleidlais y Senedd.
“Doedd y bleidlais hon ddim yn gimig. Mae’n amlwg bod pobl Cymru wedi colli hyder yn y Prif Weinidog, ac mae’n ymddangos ei fod wedi colli cefnogaeth y grŵp Llafur hefyd.
“Mae’r Prif Weinidog yn dweud ei fod eisiau “dechrau newydd” tra’n cymryd arno nad yw’n rhan o sgandal. Nid yw hynny’n bosibl. O leiaf byddai’n rhaid i “ddechrau newydd” ddechrau gydag ymddiheuriad a chydnabyddiaeth ei fod wedi dangos diffyg crebwyll sylweddol. Mae ei wrthodiad parhaus i wneud hynny yn atgyfnerthu’r farn bod yn rhaid iddo ymddiswyddo.
“Tra bod Plaid Cymru hefyd eisiau cael gwared ar y llywodraeth Geidwadol hon, mae’n hynod amheus bod Llafur yn cuddio y tu ôl i’r etholiad hwn fel modd i gadw Vaughan Gething yn ei swydd. Mae Cymru yn haeddu gwell.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle