Lansio Prosiect Mapio Symudol sy’n Arloesol i Nodi ‘Mannau Gwan Symudol’ yng Nghanolbarth Cymru

0
461
Waste Collection

Mae Tyfu Canolbarth Cymru wedi cychwyn prosiect mapio symudol arloesol i wella seilwaith digidol yng Nghanolbarth Cymru. Nod y prosiect hwn, un o’r rhai cyntaf o’i fath yng Nghymru, yw nodi ardaloedd â signal symudol gwael a gallu gwael o ran y rhwydwaith, a elwir yn ‘fannau gwan symudol’. Drwy ddefnyddio dyfeisiau cipio data symudol uwch sydd wedi’u gosod mewn cerbydau casglu gwastraff ar draws Powys a Cheredigion, bydd y prosiect yn casglu data hanfodol ar gyfer gwella cysylltedd symudol a chysylltedd rhyngrwyd 4G.

Bydd cerbydau casglu gwastraff yn parhau â’u llwybrau arferol, gan ddefnyddio eu rhwydwaith cynhwysfawr i sicrhau y caiff data ei gasglu’n drylwyr heb gostau logistaidd ychwanegol. Mae’r dull cost-effeithiol hwn o weithredu yn rhoi ateb effeithlon ar gyfer mapio signal symudol ar draws y rhanbarth.

Prif nod y prosiect mapio symudol yw creu map cywir a manwl o’r signal symudol yng Nghanolbarth Cymru, gan nodi ardaloedd â signal symudol annigonol a phroblemau o ran gallu’r rhwydwaith sy’n effeithio ar ddefnyddioldeb i drigolion a busnesau. Bydd data gan y pedwar prif Weithredydd Rhwydwaith Symudol – EE, O2, Three, a Vodafone – yn cael ei gasglu. Bydd Tyfu Canolbarth Cymru yn defnyddio’r data hwn i ddatblygu prosiectau ac ymyriadau wedi’u targedu i fynd i’r afael â heriau cysylltedd mewn ardaloedd allweddol.

Mae Rhaglen Ddigidol Bargen Twf Canolbarth Cymru yn gyrru’r prosiect hwn ymlaen ar gyfer Tyfu Canolbarth Cymru. Mae Bargen Twf Canolbarth Cymru yn fuddsoddiad hirdymor gydag ymrwymiad cyfun o £110m gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru i sbarduno adferiad economaidd a thwf economaidd ar draws y rhanbarth.

Wedi’i gefnogi gan awdurdodau lleol ym Mhowys a Cheredigion ac wedi’i ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, bydd y prosiect hefyd yn cynhyrchu teclyn gwirio signal. Bydd y teclyn hwn am ddim, a fydd yn cael ei lansio ar wefan Tyfu Canolbarth Cymru yn ddiweddarach yr haf hwn, yn galluogi trigolion a rhanddeiliaid i wirio’r signal symudol yn eu hardaloedd a phennu’r darparwyr symudol mwyaf addas ar gyfer eu hanghenion, gan wella tryloywder digidol yng Nghanolbarth Cymru.

Powys County Council Waste Collection Vehicle

Mae Tyfu Canolbarth Cymru yn cydweithio â’r dadansoddwyr rhwydwaith symudol Streetwave, a ddewiswyd oherwydd eu dull arloesol a chost-effeithiol o weithredu, sy’n hanfodol i lwyddiant ac effaith y prosiect. 

Pwysleisiodd tîm Tyfu Canolbarth Cymru ei bwysigrwydd ar gyfer datblygu rhanbarthol a’r ymrwymiad i wella cysylltedd digidol i drigolion a busnesau, “Rydym yn falch iawn o lansio’r prosiect arloesol hwn yng Nghanolbarth Cymru. Mae nodi a mynd i’r afael â ‘mannau gwan symudol’ ac ardaloedd o allu gwael o ran y rhwydwaith yn hanfodol ar gyfer datblygiad y rhanbarth.”

“Mae’r fenter hon yn cyd-fynd â nodau cyffredin Tyfu Canolbarth Cymru, gan gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau ar gyfer defnyddio seilwaith digidol, datblygu economaidd rhanbarthol ac arloesi. Bydd cael gwell gwybodaeth am y signal yn cynyddu ein gallu i weithio gyda darparwyr masnachol i fynd i’r afael â mannau gwan gwirioneddol ac ardaloedd problemus o ran signal. Yn ei dro, bydd hyn yn ein helpu i leoli’n fanwl yr ardaloedd lle gallai fod angen ymyrraeth gyhoeddus i gyflymu a/neu alluogi defnydd i sicrhau bod gennym signal diogel a dibynadwy ar draws y rhanbarth.”

Bydd diweddariadau ar gynnydd y prosiect yn cael eu rhannu’n rheolaidd, a gall partïon â chanddynt fuddiant gofrestru ar gyfer cylchlythyr Tyfu Canolbarth Cymru i gael mwy o wybodaeth, tyfucanolbarthcymru@ceredigion.gov.uk.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle