Elusen côr adnabyddus Cymreig yn wynebu cau ac angen cefnogaeth ar frys

0
130
Only Boys Aloud Academi St Asaph Concert

Mae Only Boys Aloud, gyrhaeddod rownd derfynol Britain’s Got Talent, yn cynnig mannau diogel i ddynion ifanc a dyma’r unig ddarpariaeth côr sydd am ddim yng Nghymru

Mae elusen côr o Gymru a gyrhaeddodd rowndiau terfynol Britain’s Got Talent, yn wynebu dyfodol ansicr ac yn galw ar bobl i’w helpu a chefnogi eu hachos.

Mae Only Boys Aloud, sydd wedi cefnogi dros 6,500 o fechgyn ers iddyn nhw lansio yn 2010, angen casglu £150,000 i achub Elusen Aloud a’r côr enwog, Only Boys Aloud.

Dyma’r unig ddarpariaeth côr rhad ac am ddim i ddynion ifanc sy’n bodoli yn y wlad, a heb gyllid, caiff y ddarpariaeth hon ei cholli.

Nid yn unig y mae’n adnodd rhad ac am ddim i fechgyn yng Nghymru, mae hefyd yn darparu man diogel iddynt i wneud ffrindiau a thyfu i fod yn ddynion ifanc gwych.

Mae Only Boys Aloud yn cynnwys dros 150 o fechgyn sy’n mynychu 11 côr ledled Cymru bob wythnos, ac nid oes clyweliadau.

Gall Elusen Aloud brofi’n glir eu bod yn magu hyder, hunan-barch, sgiliau ar gyfer y dyfodol, yn agor llwybrau gyrfa, ac yn gwella lles meddwl ymysg dynion ifanc.

Mae cyn-aelodau – fel Callum Scott Howells a Tom Hier – wedi mynd ymlaen i serenu ar lwyfannau ac wedi ymddangos mewn nifer o ffilmiau a sioeau teledu adnabyddus.

Mae gwaith diweddaraf Callum yn cynnwys It’s a Sin, The Way a Madfabulous sydd eto i ddod, tra bod Tom wedi chwarae rhannau blaenllaw yng nghynyrchiadau’r West End o Miss Saigon, Joseph a Footloose.

Dywedodd Tom, a oedd yn un o aelodau gwreiddiol Only Boys Aloud: “Mae dyfodol y côr yn ansicr. Am y tro cyntaf erioed, mae angen i ni ofyn am roddion cyhoeddus – rydym angen eich help.

“Dwi ddim yn meddwl fod pobl yn deall fod Only Boys Aloud yn cael ei redeg fel elusen. Mae pob sesiwn ymarfer, pob cyngerdd, pob trip am ddim – sydd yn anhygoel i’r bechgyn sy’n cymryd rhan.”

Ychwanegodd: “Ymunais ag OBA wrth iddo lansio. I fi, mae Only Boys Aloud yn gymaint mwy na chôr. Mae’n frawdoliaeth a gynigiodd gyfeillgarwch, pwrpas a chyfleoedd a newidiodd fy mywyd.

“Fy mywoliaeth nawr yn perfformio’n broffesiynol.

“Ac i fod yn onest, dwi ddim yn meddwl y byddwn i’n gwneud yr hyn dwi’n ei wneud heddiw oni bai am yr hyder a’r sgiliau nes i feithrin gyda Only Boys Aloud.”

“Er gwaethaf llwyddiant anhygoel y côr, heddiw rydym angen eich help. Fel cymaint ohonoch, mae costau cynyddol yn golygu ein bod yn cael trafferthion ariannol.

“Os ydyn ni am gadw’r côr i fynd, mae angen i ni godi £150,000. Gyda’r arian hwn, byddwn yn gallu parhau gyda’r ymarferion a sicrhau fod bechgyn Cymru yn parhau i ganu am genhedlaeth arall i ddod.”

Ochr yn ochr â’r cyfleoedd a’r mannau diogel y mae’r corau hyn yn eu darparu, mae Elusen Aloud yn helpu i gynnal traddodiadau Cymreig trwy gyfrannu’n weithredol tuag at ddatblygiad yr iaith Gymraeg mewn cymunedau trwy gyfrwng canu.

‘Cysylltiadau am oes’

Mae Brynley, sy’n byw ym Mhontypridd, ym mlwyddyn 10 ar hyn o bryd ac yn astudio ar gyfer TGAU yn Ysgol Garth Olwg. Roedd ei frawd hŷn yn aelod, a’r prif reswm iddo ymuno oedd ei atgofion o sleifio i mewn ar ddiwedd ymarferion i wylio ei frawd yn perfformio.

Crynhodd Only Boys Aloud, gan ddweud: “Mae’n dod â’r holl fechgyn gwahanol hyn o gefndiroedd gwahanol, gyda gwahanol freuddwydion, gobeithion a syniadau, at ei gilydd i greu un sŵn mawr hyfryd drwy wneud rhywbeth maen nhw’n ei fwynhau.”

Ar lefel bersonol, mae wedi sylwi ei fod wedi datblygu ei hyder ers bod yn rhan o’r grŵp. Dywedodd: “Mae wedi rhoi gymaint mwy o hyder i fi, yndda i fy hun, ac mae wedi rhoi cyfle i fi ddilyn yr hyn dwi’n ei fwynhau – cerddoriaeth. Mae wedi rhoi hwb i fy hyder a darparu lot mwy o sgiliau cymdeithasol.

“Heb OBA, ni fyddai gen i’r cysylltiadau, y ffrindiau, na’r gefnogaeth a’r anogaeth gref i fod yn hyderus yndda i fy hun nac yn yr hyn dwi wrth fy modd yn ei wneud.”

Ychwanegodd: “Mae’r cysylltiadau rwyt ti’n gwneud yn OBA yn gysylltiadau oes.”

Dywedodd Craig Yates, cyfarwyddwr creadigol Aloud: “Dwi wedi gweithio gyda Aloud ers y dechrau ac wedi gweld y gwahaniaeth y mae ein gwaith yn ei wneud i gynifer o bobl ifanc ledled Cymru.

“Rydym yn darparu cyfleoedd ysbrydoledig ac uchelgeisiol i bobl ifanc, rhai na fyddent yn eu derbyn fel arall, ac rydym yn gwneud hyn mewn ffordd hwyliog, mewn mannau diogel sy’n cefnogi ein pobl ifanc i fod yn nhw.

“Dwi’n gwybod bod aelodau Aloud yn dod yn ffrindiau am oes ac mae hynny yr un mor bwysig â’r caneuon ry’n ni’n canu.”

‘Mae e fel teulu’

Rhywun arall sydd wedi elwa o’r elusen yw Iestyn o Dir-Phil yn Nhredegar Newydd. Ar hyn o bryd mae ef yn Llundain yn astudio cerddoriaeth yn yr Academy of Contemporary Music ac yn ddiweddar, dechreuodd ar ei daith fel perfformiwr unigol a hynny fel canwr byw a brenhines drag.

Dywedodd Iestyn: “Dwi wedi bod gyda OBA ers amser maith erbyn hyn; y llynedd, fe wnes i ddathlu 8 mlynedd gyda nhw, ac dwi’n gobeithio bod gyda nhw am yn llawer hirach.

“Cafodd OBA effaith sylweddol arnai. Yn ystod fy nghyfnod gyda nhw, dwi wedi dysgu amrywiaeth eang o gerddoriaeth o wahanol genres a gwledydd, a rhoddon nhw’r gallu i fi ddeall hanfodion cerddoriaeth mewn ffordd a oedd o fewn cyrraedd i fi. “

“I fi, mae OBA wedi bod fel teulu bach, un y gallai fynd ato os oes angen help arnai. Maen nhw bob amser yno i helpu.

“Mae’n dod â llawer o wahanol bobl at ei gilydd. Mae yna rai sy’n chwarae rygbi a phêl-droed, ac eraill sy’n ymwneud â theatr gerdd – mae wirioneddol yn dod â phobl at ei gilydd a ti’n gwneud ffrindiau newydd ac yn cwrdd â phobl newydd.”

Ychwanegodd: “Gwnaethon nhw hefyd ddysgu pwysigrwydd trin pobl â charedigrwydd i fi ac i beidio byth â lladd ar rywun am ganu’r nodyn anghywir.”

‘Mae wedi agor cymaint o ddrysau’

Mae Morgan, aelod arall o Gas-gwent, yn astudio ar gyfer ei lefel A. Dywedodd: “Dechreuodd fy siwrnai gydag Aloud pan ymunais ag Only Kids Aloud yn 9 oed, ac ar ôl seibiant byr, ymunais ag OBA a dwi wedi caru pob munud.

“Mae wedi agor cymaint o ddrysau i fi ac wedi darparu cyfleoedd na fyddai’r rhan fwyaf o oedolion yn derbyn gydol eu hoes.

“Mae rhai o’r profiadau hyn yn cynnwys canu yng nghyngerdd coroni’r Brenin, wythnos breswyl anhygoel yng ngogledd Cymru oedd yn llawn perfformio, dysgu am ac ymarfer theori cerddoriaeth, creu ffrindiau newydd cyn gorffen gyda chyfres o gyngherddau.

“Cawsom hyd yn oed gyfle anhygoel i gymryd rhan mewn dosbarth meistr gyda Callum Scott Howells. 

“Mae bod yn aelod o Aloud wedi agor drysau eraill i fi gan gynnwys bod yn rhan o’r corws yn perfformio gyda Bryn Terfel ar ei ben-blwydd yn 50 yng nghynhyrchiad Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru o Tosca, a theithio gyda nhw i Dubai.

“Mae’r hyfforddiant i fi dderbyn wedi rhoi hyder i fi gymryd rhan mewn clyweliad ar gyfer Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a dod yn aelod ohono.

“Mae’r rhain i gyd wedi bod yn anhygoel ond ni fydden nhw byth wedi bod yn bosibl heb OBA. Mae’n lle mor anhygoel i ddechrau a meithrin angerdd dros berfformio, waeth pwy wyt ti, a gallai briodoli gymaint o brofiadau anhygoel i’r dyddiau dwi wedi treulio gyda OBA.”

Ychwanegodd: “Yn hollol onest, dwi ddim yn gwybod beth fyddwn i’n gwneud heb OBA. Byddai fy mywyd i mor ddiflas.

“Mae cerddoriaeth wedi ei wreiddio yn y wlad hon ers canrifoedd. Ni allwn adael iddo farw. Rhaid i ni sicrhau ei fod yn parhau.”

Torcalonnus’

Mae un o arweinwyr cymunedol Only Boys Aloud, Pat Ashman, wedi bod yno ers y dechrau. Mae hi wedi cael ei disgrifio fel “un o’r cefnogwyr mwyaf ffyddlon y mae Aloud wedi’i gael ers y dechrau ac hyd heddiw”.

Dywedodd: “Yn syml iawn, dyma’r prosiect gorau i fi fod yn gysylltiedig ag ef erioed.

“Mae fy nghysylltiad ag Aloud wedi cyfoethogi fy mywyd ac maen nhw’n gwybod y gallan nhw ddibynnu ar fy nghefnogaeth fel gwirfoddolwr bob amser.”

Pe bai Only Boys Aloud yn cau, byddai’n “dorcalonnus” dywedodd.

Ychwanegodd Pat: “I gyflawni cymaint a gorfod rhoi’r gorau iddi nawr, mae gas gen i feddwl am y peth.”

Dywedodd Carys Wynne-Morgan, prif swyddog gweithredol Aloud: “Ry’n ni, fel cymaint o elusennau celfyddydol eraill, yn ei chael hi’n anodd iawn. Mae’r hinsawdd economaidd a’r amgylchedd ariannu wedi’n bwrw ni’n galed.

“Er gwaethaf ymdrechion tîm ymroddedig a gwybodus, nid ydym wedi gallu codi’r arian sy’n angenrheidiol ar gyfer ein gwaith hanfodol mewn cymunedau ledled Cymru eleni.

“O ganlyniad, rydyn ni wedi gorfod gwneud y penderfyniad torcalonnus i roi’r gorau i’n holl weithgareddau rhad ac am ddim rheolaidd i bobl ifanc oed ysgol uwchradd am y tro, a lleihau ein tîm ymroddedig i hanner ei faint.”

“Yn y cyfnod hwn, rydym yn benderfynol o ail-grwpio, ailffocysu ac ailfodelu Aloud i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor.

“Ond allwn ni ddim gwneud hyn ar ein pennau ein hunain – mae angen eich cefnogaeth chi. Er mwyn ailddechrau unrhyw weithgaredd yn yr hydref, mae angen i ni sicrhau bod arian yn y banc i wireddu ein huchelgeisiau ac anrhydeddu unrhyw ymrwymiadau.”

Am fwy o wybodaeth, ac i gyfrannu, ewch i http://www.justgiving.com/campaign/savetealoudcharity


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle