Mae grŵp bwyty enwog a sefydliad menter gymdeithasol yn darparu mwy na 900 o focsys bwyd er lles teuluoedd yng Ngogledd Cymru.

0
169
Dylans Llandudno

Dan arweiniad Prifysgol y Plant a chyda chefnogaeth gan gynllun Neges Menter Môn, caiff y fenter ei hariannu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).

Bydd y bocsys yn cael eu rhoi i blant yn Wrecsam, Sir Ddinbych, Gwynedd, Conwy, Ynys Môn a Sir y Fflint, a byddant yn cynnwys cardiau ryseitiau a chynhwysion lleol er mwyn helpu i addysgu disgyblion, rhieni a gofalwyr am faeth a bwyta’n iach.

Bydd y bwydydd a’r diodydd yn cael eu paratoi a’u dosbarthu gan grŵp gwobrwyol Dylan’s, sydd â bwytai yng Nghonwy, Llandudno, Cricieth a Phorthaethwy.

Wellbeing Food

Yn ôl Nina Ruddle, Pennaeth Ymgysylltiad Polisi Cyhoeddus ym Mhrifysgol Wrecsam – a’r grym sydd wrth wraidd Prifysgol y Plant Gogledd Cymru – bydd y prosiect cydweithredol hwn o fudd i gannoedd o bobl sy’n byw mewn ardaloedd lle ceir tlodi bwyd ledled y rhanbarth.

“Mae bwyta’n iach yn her i bobl ifanc mewn rhai ardaloedd, felly rydym eisiau datblygu bocsys bwyd a fydd yn cynnwys eitemau lleol pan fo modd, gyda’r nod o annog teuluoedd i goginio gyda’i gilydd a mwynhau llond plât o fwyd ffres,” meddai Nina.

“Rydym yn gweithio gydag ysgolion ym mhob sir. Bydd pob bocs yn cynnwys tri phryd gyda chynhwysion, yn ogystal â chardiau gwybodaeth gyda chod QR a fydd yn agor arddangosiadau fideos ar YouTube, felly gallant goginio gyda’r fideos.”

Chef Jack

Ychwanegodd: “Dyma gyfle gwych inni ymestyn cyrhaeddiad Prifysgol y Plant wrth weithio ochr yn ochr â Menter Môn a Dylan’s, sydd wedi bod yn eithriadol o gefnogol.

“Mae’r prosiect yn elfen hollbwysig o’n cenhadaeth ddinesig gyffredinol, gyda’r nod o roi diwedd ar anghydraddoldeb cymdeithasol a datblygu partneriaethau cryf i fynd i’r afael â materion hollbwysig sy’n wynebu teuluoedd ar hyd a lled Gogledd Cymru a thu hwnt.”

Yn ôl David Wylie o Menter Môn: “Gobeithio y bydd y prosiect hwn yn fan cychwyn ar gyfer cydweithio hirdymor a fydd yn helpu teuluoedd yn y rhanbarth.

“Mae’n cynnig cyfle inni wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r modd y mae pobl ifanc yn ymhél â bwyd a maeth, gan eu hannog i fwyta’n iach a meithrin sgiliau annibynnol ar gyfer y dyfodol. Mae hi’n fraint cael bod yn rhan o’r cynllun.”

Medd David Evans, perchennog a sylfaenydd Dylan’s: “Mae’r prosiect hwn yn cyd-fynd yn berffaith â’n cenhadaeth, sef arddangos y gorau sydd gan y rhanbarth a’r wlad i’w gynnig. Rydym yn eithriadol o falch o gael gweithio gydag ysgolion trwy holl siroedd Gogledd Cymru, gan ddarparu bocsys yn llawn bwydydd ffres a maethlon a gyflenwir gan gyflenwyr lleol gwych pan fo modd.

Wellbeing Food

“Mae gweithio ar fenter o’r fath yn creu ymdeimlad o falchder trwy’r tîm – cyfle i fod yn rhan o rywbeth sy’n cynorthwyo cynifer o deuluoedd yn ein cymunedau.

“Rydym yn falch o gael gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol y Plant Gogledd Cymru a Menter Môn, sy’n rhannu ein hymrwymiad i gynorthwyo cymunedau ac ysgogi newid cadarnhaol.”

Ategodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Nia Jeffreys, y sylwadau hyn, a dywedodd mai un o flaenoriaethau’r cyngor yw sicrhau bod plant a phobl ifanc y sir yn gallu cael gafael ar fwyd ffres, iach a lleol.

“Dylid croesawu’r cynllun hwn. Gobeithio y bydd yn ategu cynlluniau bwyd eraill sydd ar gael ar hyn o bryd yn y sir, fel Hybiau Cymunedol Gwynedd a Phantrïau Bwyd,” meddai.

“Rydw i’n ddiolchgar i’r holl bartneriaid sy’n rhan o’r cynllun hwn ac rydw i’n ffyddiog y bydd yn ffordd arall o chwalu rhai rhwystrau sy’n atal pobl ifanc rhag mwynhau bwyd maethlon a fforddiadwy.”

Rhoddwyd y prosiect ar waith ar ôl i awdurdodau lleol Cymru ymrwymo i gynllun peilot Bwyd Cymreig i Ysgolion Larder Cymru – cynghorau Wrecsam, Sir y Fflint, Ynys Môn, Gwynedd, Caerdydd a Chaerffili – gyda’r nod o gynyddu’r swm a’r amrywiaeth o gynnyrch Cymreig a brynir ac a ddefnyddir gan adrannau arlwyo addysg yn eu siroedd.

I gael rhagor o wybodaeth, cymerwch gipolwg ar y wefan www.lardercymru.wales neu anfonwch e-bost i’r cyfeiriad david@mentermon.com. Fel arall, dilynwch @mentermon ar y cyfryngau cymdeithasol.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle