Clwb golff yn codi £1,800 ar gyfer Uned y Colon a’r Rhefr ym Mronglais

0
173

Mae digwyddiadau codi arian yng Nghlwb Golff Aberystwyth wedi codi £1,800 ar gyfer Uned y Colon a’r Rhefr yn Ysbyty Bronglais.

Dewisodd Arwyn Morris, Capten Clwb Golff Aberystwyth ar gyfer 2023, Uned y Colon a’r Rhefr yn Ysbyty Bronglais fel yr elusen y byddai’r clwb golff yn ei chefnogi am y flwyddyn.

Dywedodd Arwyn: “Fe wnaethon ni godi’r arian trwy amrywiol ddigwyddiadau elusennol fel Dreif y Capten a Diwrnod y Capten ynghyd â digwyddiadau bach eraill.

“Dewisais Uned y Colon a’r Rhefr yn Ysbyty Bronglais fel elusen y flwyddyn gan ei fod yn wasanaeth pwysig iawn i fy nheulu gan fod fy ngwraig wedi cael ei thrin yno am ganser y coluddyn ym mis Ebrill 2020. Cynhaliwyd y driniaeth yn ystod y pandemig, roeddent yn darparu gwasanaeth rhagorol sydd wedi arwain at fy ngwraig yn gwella’n llwyr, mae hi bellach yn glir o ganser.

“Diolch i holl aelodau Clwb Golff Aberystwyth a fy ffrindiau am eu cefnogaeth a’u rhoddion hael.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Arwyn am ddewis cefnogi ein helusen yn 2023.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

 I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle