“Dyle fi ‘di gweithio ar fy hun cyn neidio mewn i berthynas”

0
155
ANDREW x MORGAN SOUND

Mae seren The Traitors, Andrew Jenkins, yn myfyrio ar gyn-berthnasoedd wedi’r ddamwain erchyll a chwalodd ei iechyd meddwl

Mae seren The Traitors, Andrew Jenkins, wedi dweud ei fod yn dymuno y gallai ddweud sori wrth yr holl fenywod y mae wedi’u brifo yn y gorffennol, ac mae wedi cyfaddef bod llawer o’i ymddygiadau problematig yn deillio o deimlo fel ‘freak’ wedi damwain car ddifrifol a’i adawodd mewn coma am bedair wythnos.

Mewn sgwrs fyfyriol gyda’i fab 23 oed, Morgan, mae’r seren realiti Cymreig yn sôn am ymddygiadau blaenorol y mae’n eu difaru a sut mae ei daith ddiweddar tuag at dderbyn ei hun wedi ei helpu i sylweddoli pa mor niweidiol oedd ei weithredoedd.

Wrth siarad â Morgan fel rhan o ymgyrch Iawn Llywodraeth Cymru, sydd â’r nôd o addysgu dynion ynghylch ymddygiadau a pherthynasau iachus er mwyn helpu i ddod â thrais yn erbyn menywod a cham-drin domestig i ben, mae’r pâr yn trafod eu perthynas fel tad a mab, a pherthynas Andrew â menywod.

Yn ystod y sgwrs agored, mae Morgan yn awgrymu bod ei dad wedi chwilio am ddilysiad mewn menywod ar ôl y ddamwain, yn lle gweithio ar ei iechyd meddwl a dysgu i dderbyn ei hun.

Mae’r tad i un yn egluro sut y byddai’n mynd o berthynas i berthynas mewn ymgais i geisio dilysiad gan eraill, oherwydd yn ei eiriau ei hun ‘Ro’n i eisiau diflannu.’

Mae’r pâr hefyd yn trafod eu perthynas fel tad a mab, gyda Morgan yn dweud nad oedd erioed wedi clywed ei dad yn dweud ei fod yn ei garu tan y llynedd – ‘mewn 22 mlynedd – pa mor wallgof yw hynna.’

“O’n i’n casáu codi o’r gwely. Roeddwn i eisiau diflannu. Ie, roedd e’n anodd.”

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig ers iddo ymddangos ar raglen y BBC ‘The Traitors’, mae Andrew wedi rhoi o’i amser i hybu iechyd meddwl cadarnhaol ymhlith dynion ifanc, ac roedd hyn yn ffactor a ysgogodd iddo ddod yn llysgennad ar gyfer ymgyrch Iawn.

Lansiwyd Iawn yn 2023 fel platfform a arweinir gan y gymuned sy’n annog dynion ifanc i gymryd cyfrifoldeb personol ac ar y cŷd er mwyn dod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben. Mae’r ymgyrch yn gwahodd dynion i fyfyrio ar eu hymddygiad a’u hagweddau eu hunain i helpu i wneud gwahaniaeth.

Eglura Andrew: “Am flynyddoedd a blynyddoedd nes i gadw pethe mewn a byth siarad amdano fe [y ddamwain].

Basen i’n dihuno yn y bore, o’n i’n casáu codi o’r gwely. Roeddwn i eisiau diflannu.

Ie, roedd e’n anodd. Nes i alw fy hun yn freak bob dydd.

Ro’n i ofn y byddai pobl yn anffyddlon i fi achos ro’n i’n teimlo’n hyll, gyda creithiau. Pam bo nhw gyda fi? Mae nhw’n fenywod prydferth, a ddim yn mynd i aros ‘da fi. A byse fi’n chwalu popeth.

“Yn edrych nôl, roedd e’n wael. Dyle fi ‘di gweithio ar fy hun cyn neidio mewn i berthynas.

“Dwi ‘di brifo cymaint o fenywod dros y blynyddoedd, hoffen i tasen i’n gallu ymddiheuro iddyn nhw, i newid pethau.

O’n i ar fin priodi un fenyw, wedi casglu’r ffrog, popeth ‘di cynllunio…Nes i orffen y berthynas. Mae’n rhaid bod hwnna ‘di cael effaith seicologel enfawr arni hi.

Wrth fyfyrio, mae Morgan yn dweud wrth ei dad: Doeddet ti ddim caru dy hun felly nes di chwilio am ddilysiad gyda phobl eraill, menywod yn bennaf.”

Mae Andrew yn jocian: Chware teg, ti’n eitha deallus rili yndwyt.

“Mae da ti ben da ar dy ysgwyddau. Dwi di dysgu llawer wrtho ti heddiw.”

‘Roeddwn i’n meddwl nad oedd dad yn fy ngharu i bellach’

Mae Andrew hefyd wedi bod yn myfyrio ar ei berthynas gyda’i dad ei hun. Wrth dyfu i fyny mewn tŷ llawn testosteron, roedd yn aml yn teimlo bod yn rhaid iddo gystadlu â’i frodyr i fod y gorau wrth chwarae rygbi, mewn ymgais i greu argraff ar ei dad.

Pan roddodd ei ddamwain ddiwedd ar chwarae rygbi, roedd yn meddwl na fyddai gan ei dad unrhyw reswm i’w garu mwyach.

“Yn y cartref pan o’n i’n tyfu lan roedd yr ofn o fethu yn enfawr i fi. Pan o’n i methu chwarae rygbi rhagor meddyliais nad oedd fy nhad yn fy ngharu, neu ddim yn falch ohona i bellach. O’n i’n meddwl mai chware rygbi oedd yr unig ffordd o wneud fy nhad yn falch.

Mae Andrew hefyd yn edrych yn ôl ar ei berthynas gyda’i fab Morgan: Dwi’n teimlo’n drist ar adegau yn meddwl am y pethau nes i ddweud wrthot ti dros y blynyddoedd.

Meddai Morgan: Dwi’n cofio pan chwaraeon ni gêm yn erbyn Pencoed. O’n i tua 14 mwlydd oed. Nes i ddim chwarae’n dda, a des i bant o’r cae…‘Ble mae dad?’…O, mae e ‘di gadael yn y car.”

Mae Andrew’n ateb yn edifar: Weithiau…ti dim ond eisiau cysur gan dy dad. Dwi ddim hyd yn oed yna. Mae hwnna’n warthus.”

Wrth fyfyrio ar ddatblygiadau diweddar, mae Morgan yn cofio: Des i allan o’r car a nes ti ddweud bo ti’n caru fi a na’th e wneud i fi stopio beth o’n i’n neud, fel… Duw! Doeddwn i erioed ‘di clywed hynna. O’n i wastad ‘di gwybod e. Rhoddais i cwtsh i ti. Roedd e’n rhyfedd rhoi cwtsh i ti. Doedden ni byth ‘di cwtsho o’r blaen, naddo?

Ond dwi’n gwneud e gyda Bampi nawr – fel, dy dad. Ers i ti ddechrau agor lan, ac yn amlwg dweud dy fod ti’n fy ngharu, dweud wrthyn nhw bo ti’n fy ngharu, bod yn fwy agored gyda dy deimladau, mae’r holl deulu ‘di gwneud yr un peth.

Wrth fyfyrio ar bwysigrwydd nodau ac amcanion ymgyrch Iawn, dywed Andrew:

Am 20 mlynedd o’n i jest eisiau i rywun wrando arna i. Os nad wyt ti’n delio gyda achosion gwreiddiol y broblem, ti wastad yn mynd i ailadrodd yr un camgymeriadau.

I wylio fideo Andrew a Morgan yn llawn, dilyna sianeli Iawn

Instagram: www.instagram.com/soundcymru/

TikTok: www.tiktok.com/@soundcymru

YouTube: www.youtube.com/@soundcymru


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle