Elusen y GIG yn cefnogi menter llesiant staff

0
180
Yn y llun uchod: Delwedd o ddiwrnod lles staff

Diolch i roddion hael, darparodd Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gyllid i dri aelod o staff o’r Uned Gofal Dwys (ICU) yn Ysbyty Glangwili a Llwynhelyg fynychu hyfforddiant i gefnogi menter llesiant staff.

 Roedd Tamara Lewis, Nyrs Tîm Allgymorth Gofal Critigol; Hayley Thomas, Prif Nyrs Iau, ac Amanda Backhouse, Nyrs Staff, i gyd yn gallu mynychu’r hyfforddiant yn 2023.

Yn y llun uchod: Delwedd o ddiwrnod lles staff

 Bydd Tamara, Hayley ac Amanda i gyd yn cefnogi cyflwyno rhaglen cymorth cymheiriaid ar draws y pedwar ICU o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

 Dywedodd Dr Manon Griffiths, Seicolegydd Clinigol: “Rydym yn hynod ddiolchgar am y rhoddion sydd wedi caniatáu i dair o’n haelodau staff fynychu’r hyfforddiant llesiant.

“Mae data cyn-bandemig wedi dangos bod un o bob tri aelod o staff yr ICU yn y DU yn profi gorddryswch. Mae lles staff yn hanfodol ar gyfer gofal cleifion optimaidd, gyda straen yn y gweithle a blinder yn gysylltiedig â chanlyniadau clinigol gwaeth, gan gynnwys cyfraddau uwch o wallau, heintiau a marwolaethau. Mae lles hefyd yn cael effaith sylweddol ar lefelau absenoldeb staff, presenoldeb a chadw staff.

 “Gobeithio y bydd y fenter llesiant yn gwella ac yn cefnogi lles ein gweithlu.”

Image of Hayley Thomas

 Dywedodd Hayley Thomas, Prif Nyrs: “Hoffem ddiolch i Elusennau Iechyd Hywel Dda am ariannu fy hun a’m cydweithwyr i fynychu’r hyfforddiant hwn.

 “Yn bersonol, mae wedi bod yn fuddiol iawn i mi. Gall gweithio ym maes Gofal Dwys fod yn brofiad emosiynol iawn a chael effaith ar les staff. Rwyf wedi cael llawer o awgrymiadau ac wedi cael gwybodaeth a fydd yn effeithio ar les staff ac yn ei wella, a fydd hefyd yn cefnogi sefydlu ein grŵp cymorth cymheiriaid ar yr uned.”

 Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn”

Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff y GIG. I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle