YMDRECHION CLWB cymdeithasol poblogaidd i gyrraedd sero net yn medi’r llwyddiant.

0
124
Ewloe Social Club

                           

Mae Clwb Cymdeithasol a Chymunedol Ewlo wedi llwyddo i leihau ei ôl troed carbon ar ôl derbyn grant gan y Gronfa Dichonoldeb Lleihau Carbon.

Darperir y Gronfa gan Fenter Antur Cymru gyda chefnogaeth Pathway to Carbon Zero Ltd a Litegreen Ltd mewn cydweithrediad â Chyngor Sir y Fflint.

Mae’r clwb wedi bod yn gonglfaen yn Sir y Fflint ers 1938. Defnyddiwyd yr arian i brynu gwasanaeth arbenigwyr i gynnal Astudiaeth Dichonoldeb Lleihau Carbon. Yn sgil yr astudiaeth nodwyd y meysydd oedd angen eu gwella.

Ewloe Social Club

Rhai o’r datrysiadau a gynigiwyd oedd to wedi’i insiwleiddio, system wresogi amgen, newid i ynni adnewyddadwy a storfa batri solar PV.

Meddai Paul Roberts ysgrifennydd y clwb: “Fe wnaeth y cymorth hwn ein helpu i adnabod y pethau oedd angen eu gwneud i sicrhau bod hwn yn weithrediad hyfyw ar gyfer y dyfodol, yn adeilad cynaliadwy i’r gymuned leol ac yn fwy effeithlon o ran ynni.

“Roedd y cyllid ar gyfer yr astudiaeth dichonoldeb yn allweddol i’r broses o benderfynu ar osod paneli solar, inswleiddio’r to a’r waliau ac, yn y pendraw, ystyried gosod drysau awtomataidd.”

Ychwanegodd: “Mae wedi gwneud gwahaniaeth yn ariannol i ni gan ein bod yn gwario miloedd o bunnoedd yn ceisio cadw’r clwb yn gynnes ac erbyn hyn mae’n llawer mwy cyfforddus i’n haelodau ac i ymwelwyr.

Litegreen ANTUR CYMRU

Bellach, mae mwy a mwy o sefydliadau yn defnyddio’r gofod sydd o fudd i’r gymuned gyfan.

Ein bwriad yw i fod y clwb cymdeithasol sero net cyntaf yn y DU. Ry’ ni ar y ffordd, a byddwn yn parhau i weithio’n galed i gyrraedd y nod.

Yn ôl JM Renewable Solutions, y cwmni osododd y mesuriadau arbed ynni, mae’r clwb eisoes yn cynhyrchu bron i 21,000kwh o ynni adnewyddadwy bob blwyddyn sy’n cyfateb i £5,858 o drydan am ddim y flwyddyn.

Wedi’i anelu at sefydliadau yn Sir y Fflint, derbyniodd Cronfa Dichonoldeb Lleihau Carbon £297,294 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae grantiau i roi mynediad i fusnesau at gyngor arbenigol ar gael i’w helpu i fod yn fwy cynaliadwy yn ogystal â chynnig arweiniad ar offer, adeiladau, defnydd ar ynni a systemau a dulliau i leihau eu hôl troed carbon a helpu i gynyddu proffidioldeb.

Dywedodd Rheolwr y Gronfa, Rowan Jones: “Ry’ ni wrth ein bodd o weld sut yr arweiniodd yr astudiaeth dichonoldeb at y newid cadarnhaol hwn i Glwb Cymdeithasol a Chymunedol Ewlo.

Roedd yr arweiniad cawsant wrth ddewis pa strategaeth a dulliau gweithredu i’w dilyn yn bwysig iawn. Ers ailddatblygu’r safle a mabwysiadu dulliau mwy cynaliadwy maent eisoes wedi gweld y manteision ariannol, cymdeithasol, ac amgylcheddol.

Mi fydd yr arbedion sylweddol ar y defnydd o garbon yn ogystal ag ar gost yn gwella cynaliadwyedd a hyfywedd hirdymor y lleoliad, a dymunwn bob lwc iddynt ar eu taith tuag at sero net.”

I gael rhagor o wybodaeth am y Gronfa Dichonoldeb Lleihau Carbon, ewch i www.anturcymru.org.uk/flintshire , e-bostiwch flintshirefundfund@anturcymru.org.uk neu ffoniwch 01352 871298.

Fel arall, dilynwch Antur Cymru Enterprise ar y cyfryngau cymdeithasol @anturcymruwales neu ewch i’r wefan:  www.anturcymru.org.uk.

Ewch i Ewloe Sports & Social Club in Deeside (ewloesportsandsocialclub.co.uk) am y newyddion diweddaraf am Glwb Cymdeithasol a Chymunedol Ewlo


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle