MWY O AELODAU SENEDD PLAID CYMRU YN GOLYGU TEGWCH ARIANNOL I GYMRU

0
199
Luke Fletcher MS

“Tra bod Llafur yn gallu ail-ddweud ‘newid’ gymaint ag y mynnant – gwyddom fydd fwy o doriadau dan Starmer” meddai Plaid Cymru

Bydd mwy o ASau Plaid Cymru yn sicrhau “newid economaidd go iawn” i Gymru, mae Plaid Cymru wedi dweud.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar yr economi Luke Fletcher AS y byddai tair addewid Plaid Cymru ar gyfer yr economi yn sicrhau tegwch economaidd i Gymru ac yn dwyn Llafur i gyfrif ar ran pobl Cymru.

Mae prif addewidion economaidd y blaid yn cynnwys:

1) System ariannu deg i Gymru yn ôl yr angen

2) Ailymuno â’r farchnad sengl a’r undeb tollau

3) Rhowch y £4bn sy’n ddyledus i Gymru o HS2

Ar ddydd Llun (24 Mehefin 2024) fe wnaeth Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS) herio’r ddwy brif blaid yn San Steffan am eu “dawelwch” dros eu cynlluniau am yr economi.

Bydd y bwlch gwariant o £18bn ym maniffesto’r Blaid Lafur yn arwain at bron biliwn o bunnoedd yn llai i Gymru – sy’n cyfateb i werth deng mlynedd o gyllid ar gyfer Prydau Ysgol Am Ddim i blant oedran cynradd.

Ers 2010, mae Cymru wedi gweld gwerth £3bn o doriadau oherwydd penderfyniadau a wnaed yn San Steffan.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar yr economi Luke Fletcher:

“Plaid Cymru yw’r unig blaid sy’n cynnig newid economaidd go iawn i Gymru yn yr etholiad hwn.

“Mae’r Torïaid wedi chwalu’r economi ac mae Llafur wedi ymrwymo i o leiaf £18bn o doriadau – sy’n golygu biliwn o bunnoedd yn llai ar gyfer cyllideb Cymru. Tra bod Llafur yn gallu ail-ddweud ‘newid’ gymaint ag y mynnant – gwyddom fydd fwy o doriadau dan Starmer.

“Byddai addewidion Plaid Cymru yn golygu tegwch i Gymru – yn economaidd ac yn gymdeithasol. Maen nhw’n cynnwys model ariannu tecach yn seiliedig ar anghenion Cymru fel y gallwn fuddsoddi yn ein hysgolion, y gwasanaeth iechyd, ac yn ein cymunedau.

“Ni yw’r unig blaid sy’n onest am effaith Brexit ar economi Cymru ac yn galw i ailymuno â’r Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau er mwyn cael gwared â’r cyfyngiadau sydd ar ein busnesau a’n porthladdoedd.

“A ni yw’r unig blaid sy’n mynnu i ddychwelyd biliynau coll Cymru o brosiect HS2 Lloegr er mwyn buddsoddi yn ein seilwaith trafnidiaeth ac economïau lleol.

“Er bod y Torïaid a’r Blaid Lafur yn hapus i weld gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu chwalu a chyllidebau aelwydydd yn cael eu gwasgu hyd yn oed ymhellach, mae Plaid Cymru yn brwydro am degwch economaidd yn yr etholiad hwn fel yr unig blaid sydd ddim yn cymryd pleidleisiau Cymru yn ganiataol.

“Ni fydd San Steffan yn poeni am Gymru oni bai bod ASau yn sefyll dros fuddiannau Cymru ar bob cyfle – yn lle canu i’r un ddalen emynau â Starmer. Dyma mae pleidlais i Blaid Cymru ar 4 Gorffennaf yn ei gynnig.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle