Diadell o ddefaid mynydd sy’n rhan o Raglen Geneteg Defaid Cymru yn pesgi ŵyn bythefnos yn gynt na’r arfer

0
173
Elen, Eifion, Gwyn and Guto Parry, Orsedd Fawr, Pwllheli.

Mae ŵyn a gynhyrchir gan ddiadell o ddefaid mynydd Cymreig organig yn cyrraedd pwysau pesgi bythefnos yn gynt ers cyflwyno proses o gofnodi perfformiad er mwyn gwella geneteg.

Mae’r teulu Parry wedi bod yn cofnodi perfformiad ers pedair blynedd, dros y flwyddyn ddiwethaf fel rhan o Raglen Geneteg Defaid Cymru a chyn hynny fel rhan o’r Cynllun Hyrddod Mynydd. 

Maen nhw’n cadw diadell o 500 o famogiaid Cymreig ar system sy’n seiliedig yn gyfan gwbl ar laswellt ar fferm Orsedd Fawr ger Pwllheli, gan gofnodi perfformiad 80 ohonynt. 

Dechreuodd Gwyn a Delyth Parry gofnodi perfformiad am un rheswm syml, sef “Rydym ni eisiau cadw gwell diadell,” meddai Gwyn. Mae dau o’u plant, sef Eifion ac Elen, hefyd wedi ymuno â’r fferm erbyn hyn.

Yn y gorffennol, roedden nhw’n dibynnu ar asesiad gweledol i ddewis anifeiliaid cyfnewid, ond roedden nhw’n gallu gweld buddion sylweddol o ganlyniad i ddefnyddio gwerthoedd bridio tybiedig (EBV). 

Maen nhw wedi bod yn canolbwyntio ar gynyddu pwysau wyth wythnos. “Roedden ni’n ddigon hapus gyda’r math o famogiaid a chyflwr corfforol fel y dannedd er enghraifft, ond roedden ni’n gwybod y byddai’n bosibl i ni gynyddu’r pwysau drwy ganolbwyntio ar dwf a’r gallu i fagu cnawd,” meddai Gwyn.

Mae’r teulu Parry wedi bod yn cofnodi perfformiad ers pedair blynedd, dros y flwyddyn ddiwethaf fel rhan o Raglen Geneteg Defaid Cymru trwy Cyswllt Ffermio.

Prynwyd hyrddod Cymreig a oedd wedi’u dethol ar gyfer y gwerthoedd bridio tybiedig a fyddai’n eu helpu i gyflawni hyn o’r arwerthiannau Prohill yn Innovis. 

Mae’r mamogiaid yn hyrdda ym mis Hydref gyda chyfradd hwrdd i famog o 1:90, gan gyflawni canran sganio o 170% ar gyfartaledd yn y cyfnod bridio diwethaf.

Mae’r holl famogiaid yn wyna yn yr awyr agored o ddiwedd mis Mawrth heb fwydo unrhyw ddwysfwyd na silwair ar unrhyw adeg o’r flwyddyn.

Dros y pedair blynedd diwethaf, mae mynegai cyfartalog y ddiadell wedi cynyddu o £6.13 i £10.35, sy’n gynnydd o £4.22.

Trwy ddethol hyrddod gyda gwerthoedd bridio tybiedig o fewn y 25% uchaf ar gyfer pwysau wrth sganio a phwysau wyth wythnos, mae’r teulu Parry wedi llwyddo i besgi  ŵyn yn gynt. “Mae ŵyn yn gadael y fferm bythefnos yn gynt ar gyfartaledd, ac mewn gwell cyflwr,” meddai Gwyn.

“Mae’n sefyllfa fuddiol i bawb. Mae cofnodi’n costio arian, ond rydych chi’n adennill y costau hynny bob amser drwy wneud y gwelliannau.”

 Mae ŵyn yn cael eu gwerthu’n uniongyrchol i’r lladd-dy ar ddiwedd mis Mehefin gyda phwysau cyfartalog o 17kg ar y bach, gan hefyd sicrhau’r premiwm organig.

 “Os mae’r glaswellt yn tyfu’n dda, byddwn yn eu pesgi am gyfnod hwy i sicrhau pwysau uwch,” meddai Gwyn.

 Roedd cyfanswm gwerth ŵyn a gynhyrchwyd fesul mamog o fewn y 25% uchaf yn niadell Orsedd yn £100.86 ar gyfartaledd yn 2023, ac roedd cyfanswm gwerth cyfartalog y mamogiaid yr ystyriwyd yn is na’r cyfartaledd o ran perfformiad yn £88.43, gwahaniaeth o £12.43.

 Mae cofnodi perfformiad yn un o’r strategaethau y mae’r teulu Parry wedi bod yn ei weithredu i wneud eu busnes fferm 283 hectar yn fwy cynaliadwy.

 Mae gwella arferion rheoli glaswelltir yn eu system ddefaid a bîff wedi bod yn ganolog i hyn, ac maent wedi llwyddo i wneud hynny drwy bori cylchdro yn bennaf.

 “Trwy fesur glaswellt a sicrhau bod yr anifeiliaid yn pori’r padogau’n fwy effeithlon, rydym ni bellach yn tyfu glaswellt o ansawdd uwch, a mwy ohono,” meddai Gwyn.

 Mae olyniaeth wedi bod yn flaenoriaeth i Gwyn a Delyth wrth iddynt wella gwytnwch y fferm – mae ganddynt ddau blentyn arall yn ogystal ag Eifion ac Elen, sef Robin a Guto, sydd hefyd yn creu gyrfa iddyn nhw eu hunain ym myd amaeth.

 Mae’r teulu’n datblygu cynllun olyniaeth ar hyn o bryd, gan dderbyn y cymorth sydd ar gael drwy raglen Cyswllt Ffermio i ddod â’r genhedlaeth nesaf i mewn i’r busnes.

 “Mae’n rhaid i chi newid gyda’r oes, ond gyda’n system ffermio organig a pheidio â phrynu cymaint o fewnbynnau, rwy’n teimlo mewn ffordd ein bod yn mynd yn ôl i’r ffordd yr oeddem yn ffermio yn y cychwyn cyntaf, ond gyda budd technoleg erbyn hyn,” meddai Gwyn.

 Mae’n ddiolchgar o’r cyfle i fod yn rhan o Raglen Geneteg Defaid Cymru, a gyda newidiadau eraill, mae’n dweud ei fod wedi helpu ei fusnes i gyrraedd lle llawer mwy cadarn.

 “Nid ydym mor ddibynnol ar y Taliad Sengl ag yr oeddem ni chwech neu saith mlynedd yn ôl,” meddai.

 “Pori yw’r buddsoddiad gorau i ni, ond mae geneteg yn ail agos iawn.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle