Hywel Dda yn ennill yn Coleg Cymraeg Gwobrau Blynyddol

0
165
Hywel Dda UHB - Paediatric consultation

Mae Cerys Brown, prentis gofal iechyd yn Ysbyty Glangwili wedi ennill Gwobr Talent Newydd yng Ngwobrau Blynyddol y Coleg Cymraeg i gydnabod ei dawn eithriadol yn y gweithle.

Fe’i cynhaliwyd ddydd Iau 20 Mehefin yng Nghanolfan S4C yr Egin, ble cafodd myfyrwyr, prentisiaid a darlithwyr o’r sectorau addysg uwch, addysg bellach a phrentisiaethau eu cydnabod am eu cyfraniad eithriadol i addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.

Mae adborth gan staff a chleifion am berfformiad Cerys ar y wardiau yn ei disgrifio fel unigolyn dibynadwy a phroffesiynol sy’n ymwybodol iawn o bwysigrwydd y Gymraeg wrth ymgysylltu â chleifion.

Wrth dderbyn y Wobr Talent Newydd er cof am Gareth Pierce, dywedodd Cerys: “Mae’n anrhydedd i mi dderbyn y wobr hon. Rwyf wrth fy modd â’m swydd ac mae’r wobr yn cadarnhau fy mod yn rhoi fy ngorau yn academaidd ac yn y gweithle.

“Gall gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol fod yn heriol ar adegau, ond rwy’n mwynhau pob agwedd ar y gwaith ac mae helpu cleifion yn fy ngofal yn rhoi boddhad mawr.”

Dywedodd Lisa Gostling, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithlu a Datblygu Sefydliadol: “Rwy’n falch iawn o glywed am lwyddiant Cerys yng Ngwobrau Blynyddol y Coleg Cymraeg. Hyfryd yw clywed am ei hymroddiad i’w chleifion a deall pwysigrwydd defnyddio’r Gymraeg, eu dewis iaith, wrth ymwneud â’i chleifion. Llongyfarchiadau Cerys.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle